S4C

Navigation

Sylw i bump sydd wedi serennu dros yr wythnos agoriadol tymor 2020/21 Cymru Premier.

Steven Hall – Hwlffordd
Hwlffordd yn ôl yn y Cymru Premier ers 2015 ac yn dechrau eu tymor gyda gêm gyfartal di sgôr yn Met Caerdydd.

Y golwr Steven Hall yn allweddol wrth gadw’r gêm yn ddi-sgôr, arbediad da i atal Harry Warwick yn yr hanner cyntaf.

Nathan Craig – Y Fflint
Y Fflint yn ennill eu gêm gyntaf yn ôl yn yr uwch gynghrair ers 1998, Nathan Craig yn allweddol yn y fuddugoliaeth ar ei ymddangosiad cyntaf dros ei glwb newydd.

Cic-rydd nodedig gan y cefnwr chwith yn curo Dave Jones golwr Y Drenewydd i sicrhau’r fuddugoliaeth ar Cae-y-Castell.

Leo Smith – Y Seintiau Newydd
Y Seintiau yn ennill oddi-cartref ar Barc Jenner gyda Leo Smith yn sgorio ar ei ymddangosiad cyntaf yn y gynghrair.

Sgoriodd Smith yn y fuddugoliaeth dros MSK Zilina yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa ac fe sgoriodd eto yn Ewrop yn erbyn B36 Torshavin nos Iau, ond i’r Seintiau golli ar giciau o’r smotyn yn yr ail rownd.

Mike Hayes – Caernarfon
Hayes yn sgorio ar ei ymddangosiad cyntaf dros Caernarfon gan achub pwynt yn erbyn Pen-y-bont ar ddiwrnod agoriadol y tymor, ergyd nerthol o du allan i’r cwrt cosbi yn hedfan heibio Ashley Morris, golwr Pen-y-bont.

Roedd yn ddraenen yn ystlys Y Drenewydd yn y fuddugoliaeth ganol wythnos lle llwyddodd i greu’r ail gôl, croesiad hyfryd o’r chwith gyda Sion Bradley yn penio heibio Dave Jones i unioni’r sgôr.

Nathan Wood – Pen-y-bont
Gôl fendigedig yn y gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Aberystwyth, camgymeriad yn amddiffyn Aberystwyth yn arwain at fellten o ergyd gan Wood o du allan i’r cwrt cosbi.

Cafodd Wood gyfle arall yn yr ail hanner ond i Alex Pennock arbed yn dda.

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?