S4C

Navigation

Wrecsam v Caerdydd | Dydd Sul – 17:25 (Rodney Parade, Casnewydd) 

Brynhawn Sul, bydd Clwb Pêl-droed Caerdydd yn gobeithio cipio tlws Cwpan Cymru Bute Energy am y trydydd tro yn olynol.  

Fe lwyddodd yr Adar Gleision i godi’r gwpan yn Merthyr Tydfil tymor diwethaf ar ôl curo Llansawel 4-0.  

Ennill yn erbyn Met Caerdydd o 2-0 yn 2022 oedd eu llwyddiant blaenorol yn y gystadleuaeth, a chyn hynny doedd Caerdydd heb gipio’r gwpan ers 2016, sef y tro cyntaf i’r clwb ei hennill.  

Caerdydd ydy pencampwyr yr Adran Genero unwaith eto eleni, gyda’r clwb hefyd yn cipio Tlws Yr Adran ar ôl curo Abertawe 5-1 yn y rownd derfynol. 

Fe enillodd Caerdydd y gynghrair am y tro cyntaf mewn 10 mlynedd y tymor diwethaf, ac fe lwyddodd y clwb godi Cwpan Cymru hefyd, ond methu allan ar dlws yr Adran oedd eu hanes ar ôl colli 3-1 yn erbyn Met Caerdydd yn y rownd derfynol. Fydd rheolwr Caerdydd, Iain Darbyshire yn benderfynol o fynd un cam ymhellach y tymor hwn er mwyn cwblhau’r trebl. 

Dim ond un clwb sydd wedi llwyddo i drechu Caerdydd yn y gynghrair eleni, sef Abertawe. Fe lwyddodd yr Elyrch guro’r Adar Gleision o ddwy gôl i ddim yn y Brifddinas ddechrau mis Chwefror, ac wedyn unwaith eto ar dir cartrefol ddiwedd mis Mawrth.  

Gêm ddi-sgôr yn erbyn Aberystwyth ym mis Medi yw’r unig dro arall i Gaerdydd beidio ag ennill gêm gynghrair y tymor hwn.  

Wrecsam sy’n anelu i fod yn bencampwyr Cwpan Cymru Bute Energy am y tro cyntaf yn eu hanes.  

Dim ond unwaith o’r blaen mae Wrecsam wedi cyrraedd y rownd derfynol, a hynny yn erbyn clwb arall o Gaerdydd, sef ‘Cardiff City Ladies’, ac er y tebygrwydd yn yr enwau maen nhw’n glwb sydd gwbl arwahan i’w gwrthwynebwyr eleni, sef ‘Cardiff City Women’. Colli o 9-0 oedd tynged Wrecsam yn y gêm honno. 

Yn ystod tymor 2015-2016 fe dynnodd Wrecsam allan o’r Adran Genero ar ôl methu denu chwaraewyr.  

Ar ôl dychwelyd i’r Adran Genero eleni mae Wrecsam wedi llwyddo i orffen yn drydydd, tu ôl i Gaerdydd ac Abertawe, sef yr unig glybiau i guro’r cochion y tymor hwn. 

Dyw Wrecsam heb gael llawer o lwc yn erbyn yr Adar Gleision, wrth golli 5 gêm yn olynol ymhob cystadleuaeth. Fyse buddugoliaeth i Wrecsam Nos Sul yn eu gweld yn curo Caerdydd am y tro cyntaf yn eu hanes. 

Ymosodwraig Caerdydd Eliza Collie sgoriodd y fwyaf o goliau yn yr Adran Genero y tymor hwn gyda 17 gôl, ond doedd Prif sgorwraig Wrecsam, Rosie Hughes ddim yn bell tu ôl iddi gyda 15 gôl ar draws y tymor. 

Allan o’r 15 chwaraewraig sydd wedi sgorio 5 gôl neu fwy yn y Brif Adran y tymor hwn, mae pump ohonynt yn chwarae i Gaerdydd, gyda 21 chwaraewraig gwahanol yn sgorio i’r Adar Gleision ym mhob cystadleuaeth yn ystod y tymor. 

Fe benderfynodd Wrecsam, Caerdydd ag Abertawe gynnig cytundebau lled-broffesiynol i’w chwaraewyr y tymor hwn, gyda Wrecsam yn cynnig cytundebau i 10 chwaraewr, a Chaerdydd yn cynnig cytundebau i’r holl garfan. 

 

Rownd Gynderfynol: Caerdydd 3-1 Abertawe, Wrecsam 1-0 YSN 

Rownd Yr Wyth Olaf: Wrecsam 2-0 Llansawel, Pontypridd 0-3 Caerdydd  

2il Rownd: Wrecsam 1-0 Llandudno, Caerdydd 5-0 Prifysgol Abertawe 

Rownd 1af: Pwllheli 0-13 Wrecsam, Llanelli 0-14 Caerdydd 

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?