S4C

Navigation

Mae’r tymor arferol wedi dod i ben ac mae’r Seintiau Newydd (1af), Cei Connah (2il) a’r Bala (3ydd) wedi sicrhau eu lle yn rowndiau rhagbrofol Ewrop ar gyfer tymor 2024/25. 

Mae un cyfle arall ar ôl i gyrraedd Ewrop trwy’r gemau ail gyfle, a bydd Caernarfon, Met Caerdydd, Y Drenewydd a Pen-y-bont yn brwydro i gyrraedd y nod.

Yn y rownd gynderfynol bydd Y Drenewydd, orffennodd yn 4ydd yn y tabl yn croesawu Pen-y-bont, a lwyddodd i godi uwchben Hwlffordd i’r 7fed safle ar benwythnos ola’r tymor. 

Ac yn y rownd gynderfynol arall, bydd Caernarfon (5ed) yn herio Met Caerdydd (6ed), gyda’r enillwyr yn cyfarfod yn y rownd derfynol ar ddydd Sadwrn, 18 Mai. 

 

Enillwyr blaenorol y gemau ail gyfle a’u safleoedd yn y gynghrair: 

2022/23 – Hwlffordd (7fed) 

2021/22 – Caernarfon (4ydd) 

2020/21 – Y Drenewydd (7fed) 

2019/20 – Dim gemau ail gyfle oherwydd Covid-19 

2018/19 – Met Caerdydd (7fed) 

2017/18 – Derwyddon Cefn (5ed) 

2016/17 – Bangor (4ydd) 

2015/16 – Cei Connah (4ydd) 

2014/15 – Y Drenewydd (6ed) 

2013/14 – Bangor (4ydd) 

2012/13 – Y Bala (7fed) 

2011/12 – Llanelli (4ydd) 

2010/11 – Castellnedd (3ydd) 

 

Ers ffurfio’r fformat 12-tîm yn 2010, y timau sy’n gorffen yn 4ydd neu’n 7fed ydi’r rhai sydd wedi ennill y gemau ail gyfle amlaf. 

Mae’r clwb orffennodd yn 4ydd wedi ennill y gemau ail gyfle bum gwaith, a’r clwb yn 7fed wedi ennill bedair gwaith. 

Mae’r tîm orffennodd yn y 7fed safle wedi ennill tair o’r bedair rownd derfynol ddiwethaf. 

Unwaith yn unig mae’r clybiau’n y 3ydd, 5ed a’r 6ed safle wedi llwyddo i ennill y gystadleuaeth yn y gorffennol. 

Mae 10 clwb gwahanol wedi ennill y gemau ail gyfle, a’r Drenewydd a Bangor yw’r unig rai i ennill y rownd derfynol ddwywaith. 

 

Caernarfon (5ed) v Met Caerdydd (6ed) | Nos Wener – 19:45 (Arlein) 

Ar nos Wener, bydd Caernarfon yn croesawu Met Caerdydd i’r Oval yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle am y trydydd tro. 

Chwaraeodd Caernarfon yn y gemau ail gyfle am y tro cyntaf ar ddiwedd tymor 2018/19 gan golli 3-2 ar yr Oval yn erbyn Met Caerdydd yn y rownd gynderfynol. 

Aeth y Cofis gam ymhellach yn nhymor 2020/21, yn ennill yn Y Barri yn y rownd gynderfynol cyn colli 5-3 gartref yn erbyn Y Drenewydd yn y rownd derfynol. 

Yna yn 2021/22, o’r diwedd fe enillodd Caernarfon y gemau ail gyfle drwy guro Met Caerdydd (1-0) ac yna’r Fflint (2-1 w.a.y) ar yr Oval. 

Ond yn anffodus i’r Caneris, 2021/22 oedd yr unig dymor ble nad oedd enillwyr y gemau ail gyfle yn cyrraedd Ewrop (oherwydd safle Cymru ar restr detholion UEFA), ond yn hytrach yn camu i Gwpan Her yr Alban, ac felly mae’r Cofis yn dal i ysu am eu blas cyntaf o bêl-droed Ewropeaidd. 

Dyma’r chweched tro i Met Caerdydd gyrraedd y gemau ail gyfle, ond dyw’r myfyrwyr ond wedi ennill y gystadleuaeth unwaith.  

Ar ôl esgyn i’r uwch gynghrair yn haf 2016 fe gyrhaeddodd Met rownd derfynol y gemau ail gyfle deirgwaith yn olynol, yn colli yn erbyn Bangor yn 2017, Derwyddon Cefn yn 2018, cyn curo’r Bala ar giciau o’r smotyn yn 2019 a chyrraedd Ewrop am yr unig dro yn eu hanes. 

Ers hynny mae Met Caerdydd wedi colli yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle yn 2022 (vs Caernarfon) ac eto llynedd yn 2023 (vs Hwlffordd). 

Mae Met Caerdydd wedi chwarae mewn dwy rownd gynderfynol yn barod eleni, ond wedi colli’r ddwy yn erbyn tîm dan 21 Abertawe (Cwpan Nathaniel MG) a’r Seintiau Newydd (Cwpan Cymru). 

Momentwm ydi’r gair hollbwysig wrth drafod y gemau ail gyfle, a teg dweud bod y ddau dîm yma’n brin o hwnnw. 

Gorffennodd Caernarfon y tymor gyda rhediad o bedair gêm heb ennill (colli 3, cyfartal 1), a’r unig bwynt yn dod o’u gêm ddiwethaf gartref yn erbyn 10-dyn Y Bala. 

Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd i griw Met Caerdydd hefyd, sydd wedi colli wyth o’u naw gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth. 

Yr unig gysur i Ryan Jenkins, yw mae yn erbyn Caernarfon y daeth eu hunig fuddugoliaeth yn y gynghrair ers mis Rhagfyr. 

Enillodd Met Caerdydd o 2-1 ar yr Oval ym mis Mawrth, ond cyn hynny roedd y Cofis wedi mynd ar rediad o 10 gêm heb golli yn erbyn y myfyrwyr (ennill 8, cyfartal 2). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Caernarfon: ➖❌❌❌✅ 

Met Caerdydd: ͏❌❌❌✅❌ 

 

Y Drenewydd (4ydd) v Pen-y-bont (7fed) | Dydd Sadwrn – 12:20 (S4C) 

Momentwm yw’r gair hud wrth drafod y gemau ail gyfle, ac mae hwnnw ar ochr y ddau dîm yma fydd yn llawn hyder cyn y gêm fawr brynhawn Sadwrn. 

Gorffennodd Y Drenewydd y tymor arferol yn gryf gyda dwy fuddugoliaeth yn olynol (vs Caernarfon a Met Caerdydd), gan golli dim ond un o’u chwe gêm ddiwethaf (vs YSN).  

Yn yr hanner isaf, collodd Pen-y-bont ond unwaith wedi’r hollt, gan fynd ar rediad arbennig o chwe gêm heb golli nac heb ildio ar ddiwedd y tymor (ennill 5, cyfartal 1). 

Mae’r Drenewydd yn cystadlu yn y gemau ail gyfle am yr wythfed tro yn eu hanes, a does neb wedi ennill y gystadleuaeth yn amlach na’r Robiniaid (2 – hafal gyda Bangor). 

Y Drenewydd, Met Caerdydd a’r Bala yw’r unig glybiau i gyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle deirgwaith, ond colli bu hanes y Robiniaid yn y ffeinal llynedd (ar giciau o’r smotyn vs Hwlffordd). 

Haf 2021 oedd y tro diwethaf i’r Drenewydd ennill y gemau ail gyfle – ac hynny ar ôl ennill ym Mhen-y-bont yn y rownd gynderfynol (0-1) cyn curo Caernarfon ar yr Oval yn y ffeinal (3-5). 

Tymor 2014/15 yw’r unig dro arall i’r Drenewydd ennill y gemau ail gyfle, yn curo oddi cartref ym Mhort Talbot ac Aberystwyth y flwyddyn honno. 

Mae’r Drenewydd wedi cyrraedd Ewrop ar bump achlysur yn y gorffennol gan ennill rowndiau yn erbyn Valletta (2015) a HB Torshavn (2022) yn ystod y degawd diwethaf. 

Gorffennodd Pen-y-bont yn 3ydd y tymor diwethaf gan fynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes (colli 3-1 dros ddau gymal vs Santa Coloma, Andorra). 

O’r pedwar clwb sy’n cystadlu yn y gemau ail gyfle eleni, Pen-y-bont yw’r unig dîm sydd heb ennill y gystadleuaeth yn y gorffennol. 

Mae Pen-y-bont wedi chwarae’n y gemau ail gyfle ddwywaith o’r blaen, yn colli’n y rownd gynderfynol ar y ddau achlysur – yn erbyn Y Drenewydd yn 2020/21, a’r Fflint yn 2021/22. 

Er bod Y Drenewydd wedi gorffen yn uwch yn y tabl na’u gwrthwynebwyr, mae’r record benben ar ochr Pen-y-bont gan nad ydyn nhw wedi colli mewn chwe gêm yn erbyn y Robiniaid (ennill 5, cyfartal 1), ac fe sgoriodd Chris Venables dair gôl mewn dwy gêm yn erbyn Y Drenewydd yn rhan gynta’r tymor. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Drenewydd: ✅✅➖➖❌ 

Pen-y-bont: ͏✅✅✅➖✅ 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos i’w weld ar S4C nos Lun. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?