Fe wnaeth Cei Connah ennill Cwpan Cymru JD ddydd Sul gan guro’r ffefrynnau Y Seintiau Newydd o 2-1 ar faes Rodney Parade yng Nghasnewydd – hwn oedd y tro cyntaf i Gei Connah gipio’r cwpan er 2018.
Roedd Y Seintiau Newydd yn anelu i gwblhau’r trebl domestig am y trydydd tro yn eu hanes, a chodi Cwpan Cymru JD am y 10fed tro.
Roedd y clwb eisoes yn bencampwyr cynghrair Cymru Premier JD ac wedi ennill Cwpan Nathaniel MG ym mis Ionawr.
Harry Franklin a Josh Williams sgoriodd y goliau dros y Nomadiaid i sicrhau’r fuddugoliaeth annisgwyl.