S4C

Navigation


Caernarfon (5ed) v Pen-y-bont (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:45 (S4C) 

Brynhawn Sadwrn, bydd tymor 2023/24 y Cymru Premier JD yn dod i ben pan fydd Caernarfon yn croesawu Pen-y-bont i’r Oval yn rownd derfynol y gemau ail gyfle gyda’r enillwyr yn hawlio eu lle’n Ewrop. 

Mae’r Seintiau Newydd (1af), Cei Connah (2il) a’r Bala (3ydd) eisoes wedi sicrhau eu lle yn rowndiau rhagbrofol Ewrop ar gyfer tymor 2024/25, a bydd Caernarfon a Pen-y-bont yn brwydro am y safle olaf ddydd Sadwrn. 

Nos Wener diwethaf fe gymrodd hi 86 munud i Gaernarfon agor y sgorio yn erbyn Met Caerdydd yn y rownd gynderfynol, gyda Marc Williams ac Adam Davies yn taro’n hwyr ar yr Oval i yrru’r Cofis i’r rownd derfynol. 

Roedd hi’n stori wahanol ar Barc Latham brynhawn Sadwrn wrth i Ben-y-bont fynd ar y blaen wedi dim ond pum munud yn erbyn Y Drenewydd cyn mynd ymlaen i ennill yn gyfforddus o bump i ddim gyda Chris Venables a Gabriel Kircough yn sgorio ddwywaith yr un, a Mark Little yn coroni’r perfformiad gyda’i gôl gyntaf i’r clwb. 

O’r pedwar clwb gyrhaeddodd y gemau ail gyfle eleni, Pen-y-bont yw’r unig rai sydd heb ennill y gystadleuaeth yn y gorffennol, a Chaernarfon yw’r unig rai sydd erioed wedi chwarae’n Ewrop. 

Er hynny, mae hanes Caernarfon yn y gemau ail gyfle yn un o gynnydd a datblygiad. 

Chwaraeodd Caernarfon yn y gemau ail gyfle am y tro cyntaf ar ddiwedd tymor 2018/19 gan golli 3-2 ar yr Oval yn erbyn Met Caerdydd yn y rownd gynderfynol. 

Aeth y Cofis gam ymhellach yn nhymor 2020/21, yn ennill yn Y Barri yn y rownd gynderfynol cyn colli 5-3 gartref yn erbyn Y Drenewydd yn y rownd derfynol. 

Yna yn 2021/22, o’r diwedd fe enillodd Caernarfon y gemau ail gyfle drwy guro Met Caerdydd (1-0) ac yna’r Fflint (2-1 w.a.y) ar yr Oval. 

Ond yn anffodus i’r Caneris, 2021/22 oedd yr unig dymor ble nad oedd enillwyr y gemau ail gyfle yn cyrraedd Ewrop (oherwydd safle Cymru ar restr detholion UEFA), ond yn hytrach yn camu i Gwpan Her yr Alban, ac felly mae’r Cofis yn dal i ysu am eu blas cyntaf o bêl-droed Ewropeaidd. 

Yn ei dymor cyntaf llawn fel rheolwr Caernarfon, fe fyddai’n stori dylwyth teg pe bae Richard Davies yn llwyddo i ddod y gŵr cyntaf i arwain y dref i Ewrop. 

O ran Pen-y-bont, fe orffennon nhw yn 3ydd y tymor diwethaf gan fynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes (colli 3-1 dros ddau gymal vs Santa Coloma, Andorra). 

Ond dyw Pen-y-bont erioed wedi ennill y gemau ail gyfle, gan golli’n y rownd gynderfynol yn erbyn Y Drenewydd yn 2020/21, ac yna’r Fflint yn 2021/22. 

Ac felly trwy guro’r Drenewydd y penwythnos diwethaf mae Pen-y-bont wedi cyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf erioed, ac yn anelu i fod yr 11eg clwb gwahanol i ennill y gystadleuaeth. 

Enillwyr blaenorol y gemau ail gyfle a’u safleoedd yn y gynghrair: 

2022/23 – Hwlffordd (7fed) 

2021/22 – Caernarfon (4ydd) 

2020/21 – Y Drenewydd (7fed) 

2019/20 – Dim gemau ail gyfle oherwydd Covid-19 

2018/19 – Met Caerdydd (7fed) 

2017/18 – Derwyddon Cefn (5ed) 

2016/17 – Bangor (4ydd) 

2015/16 – Cei Connah (4ydd) 

2014/15 – Y Drenewydd (6ed) 

2013/14 – Bangor (4ydd) 

2012/13 – Y Bala (7fed) 

2011/12 – Llanelli (4ydd) 

2010/11 – Castellnedd (3ydd) 

 

Ers ffurfio’r fformat 12-tîm yn 2010, y timau sy’n gorffen yn 4ydd neu’n 7fed ydi’r rhai sydd wedi ennill y gemau ail gyfle amlaf. 

Mae’r clwb orffennodd yn 4ydd wedi ennill y gemau ail gyfle bum gwaith, a’r clwb yn 7fed wedi ennill bedair gwaith. 

Mae’r tîm orffennodd yn y 7fed safle wedi ennill tair o’r bedair rownd derfynol ddiwethaf. 

Unwaith yn unig mae’r clybiau’n y 3ydd, 5ed a’r 6ed safle wedi llwyddo i ennill y gystadleuaeth yn y gorffennol. 

Momentwm yw’r gair hud wrth drafod y gemau ail gyfle, ac mae hwnnw’n sicr ar ochr Pen-y-bont gyda’r clwb ar rediad arbennig o saith gêm heb golli, a saith gêm heb ildio gôl (ennill 6, cyfartal 1). 

Mae gan Ben-y-bont record dda yn erbyn Caernarfon hefyd gan fod tîm Rhys Griffiths wedi ennill eu pedair gornest ddiwethaf yn erbyn y Cofis gan sgorio cyfartaledd o 3.5 gôl y gêm. 

Mae’r clybiau wedi cyfarfod ddwywaith y tymor hwn a Chris Venables oedd y seren yn y ddwy gêm, yn sgorio ddwywaith yn y fuddugoliaeth gartref o 3-2 ym mis Medi, cyn sgorio hatric mewn buddugoliaeth o 4-2 ar yr Oval ym mis Tachwedd. 

Ond mae’n gaddo i fod yn awyrgylch tanbaid ar yr Oval brynhawn Sadwrn wrth i Gaernarfon geisio creu hanes a chadarnhau antur Ewropeaidd am y tro cyntaf erioed. 

 

Record diweddar:  

Caernarfon: ✅➖❌❌❌ 

Pen-y-bont: ͏✅✅✅✅➖ 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?