S4C

Navigation

Sgorio sy’n dewis pum chwaraewr sydd wedi serennu dros yr wythnos.

Alex Ramsay – Y Bala

Perfformiad arwrol gan Alex Ramsay rhwng y pyst i’r Bala ddydd Sadwrn, ac er i’r Bala golli 0-1 yn erbyn Y Seintiau Newydd roedd y golwr yn effro i atal Jon Routledge, Adam Roscrow a Simon Spender rhag dyblu mantais Y Seintiau.

Roedd rhaid i dîm Colin Caton alw ar Ramsay eto nos Fawrth wrth iddo arbed cic rydd Kane Owen yn wych i sicrhau bod Y Bala yn cipio’r triphwynt mewn buddugoliaeth 2-3 dros Ben-y-bont.

 

Kostya Georgievsky – Pen-y-bont

Llwyddodd Pen-y-bont I ddod a rhediad Cei Connah o 26 gêm heb golli gartref yn y Cymru Premier i ben ddydd Sadwrn, gyda Kostya Georgievsky yn rhwydo’r ail mewn buddugoliaeth 0-2.

Sgoriodd eto nos Fawrth yn erbyn Y Bala, ond i dîm Rhys Griffiths golli o 2-3.

 

Danny Davies – Cei Connah

Seren y gêm yn rhwydo ddwywaith yn y gêm fyw rhwng Caernarfon a Chei Connah.

Mae Davies yn rhan allweddol o dîm y pencampwyr ers ymuno o Brestatyn dros yr haf gan greu wyth o’u goliau – trydydd ar restr prif greuwyr y tymor – a sgorio pedair.

 

Ryan Brobbel – Y Seintiau Newydd

Ers dychwelyd o anaf mae’r chwaraewr ymosodol wedi disgleirio i’r Seintiau gan sgorio wyth mewn pedair gêm.

Sgoriodd unig gôl y gêm yn y fuddugoliaeth dros Y Bala ddydd Sadwrn, cyn sgorio pedair yn erbyn Y Barri ar Barc Jenner nos Fawrth.

Mae’r Seintiau wedi codi i frig y tabl o dan reolaeth Anthony Limbrick a bydd ffitrwydd Brobbel yn hanfodol os yw’r clwb am ail ennill tlws y Bencampwriaeth yn ôl o Lannau Dyfrdwy.

 

Josh Amis – Y Fflint

Yr ymosodwr yn creu argraff gan greu dwy a sgorio gôl fendigedig wrth i’r Fflint guro Derwyddon Cefn 5-0 nos Fawrth.

Dyma ei gôl gyntaf dros y clwb ers ymuno o Warrington yn Ionawr 2021.

Mae’r Fflint wedi cael wythnos dda gan ennill dwy yn olynol am y tro cyntaf y tymor hwn a chodi o’r ddau safle isaf.

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?