S4C

Navigation

Pedair rownd o gemau sydd i fynd tan yr hollt yn y gynghrair ac mae’r ras i gyrraedd y Chwech Uchaf yn tynnu at ei therfyn.  

Mae’r Seintiau Newydd a Cei Connah eisoes wedi sicrhau eu lle yn yr hanner uchaf, tra bo’r Drenewydd yn edrych yn ddigon cyfforddus hefyd. 

Fel arfer, mae 31 pwynt yn ddigon i hawlio lle yn y Chwech Uchaf, a byddai un buddugoliaeth arall yn ddigon i Met Caerdydd a’r Bala i gyrraedd y nod hwnnw. 

Caernarfon sy’n 6ed ar ddechrau’r penwythnos, ac mae’r Cofis bum pwynt uwchben Pen-y-bont sydd mewn perygl o fethu a chyrraedd yr hanner uchaf am y tro cyntaf ers pedair blynedd. 

 

 

Dydd Sadwrn, 16 Rhagfyr 

Caernarfon (6ed) v Hwlffordd (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Ar ôl gorffen yn 9fed y tymor diwethaf, mae Caernarfon mewn safle cryf i adennill eu lle yn y Chwech Uchaf y tymor hwn, ond Hwlffordd yw’r clwb sydd fwyaf tebygol o’u dal. 

Wedi’r gêm hon mae’r Cofis angen teithio i wynebu’r Seintiau Newydd a Met Caerdydd cyn yr hollt, tra bod gan Hwlffordd gêm wrth gefn, ac mae dwy o’u pedair gêm nesaf yn erbyn clybiau sy’n stryffaglu tua’r gwaelod. 

Dyw Hwlffordd ond wedi colli un o’u chwe gêm gynghrair ddiwethaf (vs Bala), ac fe enillodd yr Adar Gleision oddi cartref yng Nghei Connah yn ddiweddar felly mae’r hyder yn uchel ar Ddôl y Bont. 

Mae’r ddwy gêm ddiwethaf rhwng y timau wedi gorffen yn gyfartal, a dyw’r Cofis ond wedi colli un mewn saith yn erbyn yr Adar Gleision (ennill 4, cyfartal 2). 

 

Gemau nesaf cyn yr hollt:  

Caernarfon: YSN (oc), Bae (c), Met (oc) 

Hwlffordd: Barr (c), Aber (oc), YSN (c), Bala (oc) 

 

Record cynghrair diweddar:  

Caernarfon: ✅➖❌❌❌ 

Hwlffordd: ➖✅✅➖❌ 

 

Cei Connah (2il) v Pontypridd (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Er i’r Panel Cyflafareddu Annibynnol ganfod fod Pontypridd yn euog o dorri rheolau’r gynghrair ynglŷn â chytundebau, taliadau a chwarae chwaraewyr anghymwys nid oedd y gosb yn agos i fod mor llym â’r hyn oedd y Gymdeithas Bêl Droed wedi ei argymell. Mae’r clwb wedi derbyn 6 phwynt o ddirwy gyda 135 pwynt ychwanegol wedi ei ohirio tan ddiwedd 2024-25.   

Gall Pontypridd ganolbwyntio ar eu hymdrechion ar y cae nawr, lle nad yw pethau wedi bod yn mynd yn dda a dweud y lleia’, gyda’r tîm wedi sicrhau dim ond un pwynt o’u saith gêm ddiwethaf.  

Dros hanner ffordd drwy’r tymor a dim ond saith gôl mae Pontypridd wedi ei sgorio mewn 18 gêm gynghrair (0.4 gôl y gêm), felly mae her fawr o flaen y rheolwr Andrew Stokes os am geisio cadw’r clwb rhag y cwymp. 

Mae Cei Connah yn saff o’u lle yn y Chwech Uchaf, ond yr ail safle ydi targed realistig tîm Neil Gibson eto eleni, er mwyn sicrhau tocyn awtomatig i Ewrop. 

Mae Cei Connah wedi ennill pob un o’u tair gêm flaenorol yn erbyn Pontypridd, a dyw’r Nomadiaid erioed wedi ildio gôl yn erbyn tîm Andrew Stokes. 

 

Gemau nesaf cyn yr hollt:  

Cei Connah: Dre (oc), YSN (c), Pen (oc) 

Pontypridd: Aber (c), Pen (oc), Bae (oc) 

 

Record cynghrair diweddar:  

Cei Connah: ✅✅❌❌✅ 

Pontypridd: ❌❌❌➖❌ 

 

Y Bala (5ed) v Met Caerdydd (4ydd) | Dydd Sadwrn – 17:15 

Byddai buddugoliaeth i’r naill dîm neu’r llall yn eu codi heibio’r targed o 31 pwynt, sef y swm arferol sydd ei angen i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf.  

Mae gan Met Caerdydd fantais sylweddol yn y ras am eu bod bwynt uwchben Y Bala gyda gêm wrth gefn, ac ar ôl ennill saith o’u naw gêm gynghrair ddiwethaf, bydd y myfyrwyr yn hyderus o hawlio eu lle yn yr hanner uchaf am yr ail dymor yn olynol. 

Ar ôl colli sawl chwaraewr dylanwadol dros yr haf bydd Colin Caton yn fwy na bodlon gyda safle presennol Y Bala, sydd ond wedi ildio 14 gôl mewn 18 gêm gynghrair hyd yma gan gadw mwy o lechi glân nac unrhyw dîm arall (8). 

Mae pedair o’r wyth gêm flaenorol rhwng y timau wedi gorffen yn ddi-sgôr, yn cynnwys y gêm gyfatebol ar Gampws Cyncoed ‘nôl ym mis Awst. 

 

Gemau nesaf cyn yr hollt:  

Y Bala: Bae (oc), Dre (c), Hwl (oc) 

Met Caerdydd: Pen (c), Barr (oc), YSN (oc), Cfon (oc) 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Bala: ✅➖✅➖❌ 

Met Caerdydd: ✅➖✅✅❌ 

 

Y Seintiau Newydd (1af) v Pen-y-bont (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae’r Seintiau Newydd yn mwynhau rhediad o 25 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth, ac wedi ennill 17 yn olynol gan dorri chwe phwynt yn glir ar frig y gynghrair gyda dwy gêm wrth gefn. 

Bydd Y Seintiau’n anelu i’w gwneud hi’n 26 gêm heb golli am y tro cyntaf ers Awst 2016 i Chwefror 2017, ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe dorron nhw record y byd gyda 27 buddugoliaeth yn olynol. 

Pedair gêm i fynd at yr hollt ac o bosib y sioc mwyaf eleni yw bod Pen-y-bont yn eistedd yn yr hanner isaf, ac hynny ar ôl cyrraedd Ewrop am y tro cyntaf erioed y tymor diwethaf. 

Dyw Pen-y-bont ond wedi ennill un o’u naw gêm gynghrair ddiwethaf, gan golli chwech o rheiny, ac mae tîm Rhys Griffiths bum pwynt o dan Gaernarfon sy’n dechrau’r penwythnos yn y 6ed safle hollbwysig. 

Y newyddion drwg i Ben-y-bont yw bod rhediad anodd o gemau yn eu wynebu cyn yr hollt gan eu bod angen chwarae Cei Connah, Met Caerdydd, Pontypridd, a’r Seintiau Newydd wrth gwrs. 

Mae’r clybiau wedi cyfarfod ar 18 achlysur, a dyw’r Seintiau erioed wedi colli yn erbyn tîm Rhys Griffiths (ennill 14, cyfartal 4), gan eu trechu o 4-1 yn gynharach y tymor hwn gyda Brad Young a Ryan Brobbel yn rhwydo dwy gôl gampus yr un yn Stadiwm Gwydr SDM. 

 

Gemau nesaf cyn yr hollt:  

Y Seintiau Newydd: Cfon (c), Cei (oc), Met (c), Hwl (oc), Dre (c) 

Pen-y-bont: Met (oc), Pont (c), Cei (c) 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅ 

Pen-y-bont: ❌➖❌➖✅ 

 

CWPAN CYMRU JD – ROWND 4 

Bae Colwyn (10fed) v Y Barri (9fed)  | Dydd Sadwrn – 14:00 

Trydedd Rownd: Y Drenewydd 1-1(cos) Bae Colwyn, Y Barri 1-0 Cegidfa 

Ail Rownd: Bae Colwyn 6-2 Llanrwst, Y Barri 6-0 Porthcawl 

 

Mae’r gêm gwpan hon wedi cael hail-threfnu wedi iddi gael ei gohirio’r penwythnos diwethaf oherwydd y glaw trwm. 

Dim ond dau bwynt sy’n gwahanu Bae Colwyn a’r Barri yn hanner isaf tabl y Cymru Premier JD, ac felly fe ddylai fod yn gêm agos brynhawn Sadwrn. 

Mae’r timau eisoes wedi cyfarfod ddwywaith yn y gynghrair eleni, a’r Barri sydd wedi cael y gorau o bethau hyd yma, yn ennill 1-0 ar Ffordd Llanelian ym mis Hydref diolch i gôl Kayne McLaggon, ac hynny ar ôl gêm gyfartal 1-1 ar Barc Jenner ym mis Awst. 

Cyrhaeddodd Bae Colwyn rownd gynderfynol Cwpan Cymru yn 2021/22 cyn colli 1-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd, ond dyw’r Gwylanod erioed wedi cyrraedd y rownd derfynol. 

Mae’r Barri wedi mwynhau digonedd o lwyddiant yng Nghwpan Cymru dros y blynyddoedd ac wedi ennill y gystadleuaeth ar chwe achlysur – y tro cyntaf yn 1955 yn erbyn Caer yna codi’r cwpan yn 1994, 1997 a deirgwaith yn olynol rhwng 2001 a 2003.  

Ond, yn anffodus i’r Dreigiau a’u cefnogwyr, dyw’r Barri heb gyrraedd rownd derfynol ers ennill y gystadleuaeth ddiwethaf dros 20 mlynedd yn ôl, ond fe ddaethon nhw’n agos yn 2018/19 pan gollon nhw o 2-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd yn y rownd gynderfynol. 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos i’w weld ar S4C nos Lun am 9:30. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?