Ar benwythnos ola’r tymor cyffredin bydd y chwe gêm gynghrair i gyd yn dechrau ar yr un pryd am 2.15 ar brynhawn Sul ac mae’n gaddo i fod yn brynhawn llawn cyffro.
Torrodd y newyddion ddydd Iau bod Pontypridd wedi methu gyda’u hapêl i sicrhau trwydded i aros yn yr uwch gynghrair, ac felly bydd y clwb o’r Rhondda yn syrthio o’r gynghrair ar ddiwedd y tymor, hyd yn oed os ydyn nhw’n llwyddo i godi allan o’r ddau safle isaf.
Mae hynny’n golygu ei bod hi rhwng Aberystwyth a Bae Colwyn i fod yr ail glwb i ddisgyn eleni, ac mae Aber yn dechrau’r penwythnos olaf ddau bwynt uwchben y Gwylanod.
Pe bae Pontypridd yn codi i’r 10fed safle ar y penwythnos olaf, yna nhw fyddai’r clwb cyntaf ers Bangor (2018) i syrthio o’r uwch gynghrair ar ôl gorffen uwchben safleoedd y cwymp.
Yn y ras am y 7fed safle, bydd enillwyr y gêm rhwng Pen-y-bont a Hwlffordd yn hawlio eu lle yn y gemau ail gyfle i gyrraedd Ewrop.
Yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle ar benwythnos 10-12 Mai bydd y tîm sy’n gorffen yn 4ydd yn croesawu’r tîm sy’n gorffen yn 7fed, tra bydd y clwb sy’n 5ed yn herio’r clwb sy’n 6ed.
Mae’r Seintiau Newydd, Cei Connah a’r Bala eisoes wedi sicrhau eu lle’n Ewrop ar ôl cadarnhau eu safleoedd yn y tri uchaf yn y tabl.
Yn yr ail haen, mae Llansawel wedi ennill pencampwriaeth y Cymru South JD ac mi fyddan nhw’n esgyn i’r uwch gynghrair y tymor nesaf.
Bydd Y Fflint yn codi o’r Cymru North JD gan iddyn nhw gadarnhau eu lle yn y ddau uchaf gyda Treffynnon, clwb sydd wedi methu a chael trwydded i esgyn eleni.
Pe bae Treffynnon yn ennill pencampwriaeth y gogledd, yna nhw fyddai’r pedwerydd clwb allan o’r wyth diwethaf i gael eu coroni’n bencampwyr yr ail haen a chael gwrthod mynediad i’r uwch gynghrair (Prestatyn – 2010, Prifysgol Abertawe – 2010, Llanilltud Fawr – 2022).
CHWECH UCHAF
Caernarfon (5ed) v Y Bala (3ydd) | Dydd Sul – 14:15
Bydd Caernarfon yn croesawu’r Bala i’r Oval ar benwythnos ola’r tymor cyffredin, ond bydd gan y Cofis o leiaf un gêm ychwanegol i’w chwarae cyn diwedd yr ymgyrch.
Mae Caernarfon yn paratoi i gymryd rhan yn y gemau ail gyfle am y pedwerydd tro yn eu hanes, ac yn gobeithio bachu tocyn i Ewrop am y tro cyntaf erioed.
Chwaraeodd Caernarfon yn y gemau ail gyfle am y tro cyntaf ar ddiwedd tymor 2018/19 gan golli 3-2 ar yr Oval yn erbyn Met Caerdydd yn y rownd gynderfynol.
Aeth y Cofis gam ymhellach yn nhymor 2020/21, yn ennill yn Y Barri yn y rownd gynderfynol cyn colli 5-3 gartref yn erbyn Y Drenewydd yn y rownd derfynol.
Yna yn 2021/22, o’r diwedd fe enillodd Caernarfon y gemau ail gyfle drwy guro Met Caerdydd ac yna’r Fflint ar yr Oval.
Ond yn anffodus i’r Caneris, 2021/22 oedd yr unig dymor ble nad oedd enillwyr y gemau ail gyfle yn cyrraedd Ewrop (oherwydd safle Cymru ar restr detholion UEFA), ond yn hytrach yn camu i Gwpan Her yr Alban, ac felly mae’r Cofis yn dal i ysu am eu blas cyntaf o bêl-droed Ewropeaidd.
Mae hi wedi bod yn dymor cadarn i Gaernarfon ar y cyfan, ond mae’r garfan wedi dechrau gwegian ar yr amser gwaethaf posib gan golli tair yn olynol, yn cynnwys colledion yn erbyn Y Drenewydd a Met Caerdydd, sef dau o’r clybiau fydd yn cystadlu yn eu herbyn yn y gemau ail gyfle.
Mae’r Bala wedi sicrhau eu lle’n Ewrop am y nawfed tro yn eu hanes, a bydd Colin Caton a’r criw yn dechrau cynllunio ar gyfer antur Ewropeaidd arall gyda dim ond deufis tan bydd y clybiau’n darganfod eu gwrthwynebwyr yn rownd ragbrofol gyntaf Cyngres Europa, pan fydd yr enwau’n cael eu dethol ar 18 Mehefin.
Dyw’r Bala heb golli dim un o’u 10 gêm flaenorol yn erbyn Caernarfon (ennill 6, cyfartal 4), ac fe orffennodd hi’n 1-1 yn y dair gêm flaenorol rhwng y clybiau.
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ❌❌❌✅➖
Y Bala: ➖❌➖✅➖
Met Caerdydd (6ed) v Y Drenewydd (4ydd) | Dydd Sul – 14:15
Bydd Met Caerdydd a’r Drenewydd yn cystadlu yn y gemau ail gyfle fis nesaf, a bydd y ddau dîm yn awyddus i orffen y tymor mor uchel a phosib er mwyn sicrhau eu bod yn chwarae gartref yn y gemau ail gyfle.
Bydd y clwb sy’n gorffen yn 4ydd yn cael y fantais o chwarae gartref yn erbyn y tîm sy’n 7fed yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle, gyda’r tîm sy’n 5ed hefyd yn cael gêm gartref yn erbyn y clwb sy’n gorffen yn 6ed.
Yn y rownd derfynol, y clwb uchaf yn y tabl fydd yn cael chwarae gartref, ac felly byddai gorffen yn 4ydd yn sicrhau gemau cartref yn y rownd gynderfynol a’r rownd derfynol.
Dau bwynt sy’n gwahanu’r ddau glwb ac felly byddai buddugoliaeth i’r myfyrwyr yn eu codi uwchben y Robiniaid ar y penwythnos olaf.
Ar ôl dechrau digon simsan i’w gyfnod fel rheolwr newydd Y Drenewydd mae’r canlyniadau wedi gwella’n sylweddol i Scott Ruscoe’n ddiweddar gyda dim ond un colled yn eu pum gêm ddiwethaf (vs YSN).
Mae’n stori wahanol yn y brif ddinas gyda Met Caerdydd wedi colli saith o’u wyth gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth.
Mae’n bosib bod tensiwn tu ôl i’r llen wedi bod yn ffactor i ddirywiad diweddar Met Caerdydd gan bod dau o enwau mwyaf profiadol y garfan, Emlyn Lewis a Charlie Corsby wedi cyhoeddi’r wythnos hon eu bod wedi cael eu gorfodi i adael y clwb.
Bydd Y Drenewydd yn cystadlu yn y gemau ail gyfle am yr wythfed tro yn eu hanes, a does neb wedi ennill y gystadleuaeth yn amlach na’r Robiniaid (2 – hafal gyda Bangor).
Y Drenewydd, Met Caerdydd a’r Bala yw’r unig glybiau i gyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle deirgwaith, ond colli bu hanes y Robiniaid yn y ffeinal llynedd (ar giciau o’r smotyn vs Hwlffordd).
Roedd Hwlffordd wedi curo Met Caerdydd ar giciau o’r smotyn yn y rownd gynderfynol llynedd, sef pumed ymddangosiad y myfyrwyr yn y gemau ail gyfle.
Ar ôl esgyn i’r uwch gynghrair yn haf 2016 fe gyrhaeddodd Met rownd derfynol y gemau ail gyfle deirgwaith yn olynol, yn colli yn erbyn Bangor yn 2017, Derwyddon Cefn yn 2018, cyn curo’r Bala ar giciau o’r smotyn yn 2019 a chyrraedd Ewrop am yr unig dro yn eu hanes.
Ers hynny mae Met Caerdydd wedi colli yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle yn 2022 (vs Caernarfon) ac eto llynedd yn 2023 (vs Hwlffordd).
Mae Met Caerdydd wedi chwarae mewn dwy rownd gynderfynol yn barod eleni, ond wedi colli’r ddwy gêm rheiny yn erbyn tîm dan 21 Abertawe (Cwpan Nathaniel MG) a’r Seintiau Newydd (Cwpan Cymru).
Mae’r record benben rhwng y clybiau yma yn y bum gêm ddiwethaf yn hynod gyfartal ac felly fe all hon fynd y naill ffordd neu’r llall ddydd Sul (Met ennill 2, Dre ennill 2, cyfartal 1).
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ͏❌❌✅❌❌
Y Drenewydd: ✅➖➖❌✅
Y Seintiau Newydd (1af) v Cei Connah (2il) | Dydd Sul – 14:15
Mae’r Seintiau Newydd yn agoshau at y trebl domestig am y trydydd tro yn eu hanes ac am y tro cyntaf ers 2015/16.
Gyda dim ond un gêm gynghrair ar ôl i’w chwarae bydd cewri Croesoswallt yn anelu i fod y tîm cyntaf i fynd drwy’r tymor cyfan heb golli gêm gynghrair ers i’r Barri wneud hynny yn 1997/98.
Y Barri a’r Bala yw’r unig glybiau i faglu’r Seintiau’n y gynghrair hyd yma gyda gemau cyfartal ym mis Awst a Medi, ond ers hynny mae tîm Craig Harrison wedi ennill 25 gêm gynghrair yn olynol, yn ogystal â chodi Cwpan Nathaniel MG a chyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru JD.
Mae 30 o bwyntiau yn gwahanu’r pencampwyr, Y Seintiau Newydd a Chei Connah yn yr ail safle, sydd yn fwy na’r bwlch mwyaf erioed rhwng 1af ac 2il ar ddiwedd tymor yn ystod fformat y 12-tîm (27pt rhwng YSN a Chei Connah yn 2016/17).
Gyda 89 o bwyntiau’n barod, mae’r Seintiau eisoes wedi torri’r record am y nifer fwyaf o bwyntiau mewn tymor yng nghyfnod y fformat 12-tîm, ac wedi torri’r record am y nifer fwyaf o goliau cynghrair (115 gôl).
Mae 15 o’r goliau rheiny wedi dod yn eu tair gêm gynghrair yn erbyn Cei Connah (YSN 6-2 Cei, Cei 0-4 YSN, Cei 1-5) a dyw carfan Croesoswallt heb golli mewn wyth gornest yn erbyn y Nomadiaid (ennill 6, cyfartal 2).
Bydd y clybiau’n cyfarfod unwaith eto’r penwythnos nesaf yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD yn Rodney Parade, Casnewydd ar ddydd Sul, 28 Ebrill.
Felly, dwy gêm sydd ar ôl gan y ddau dîm y tymor yma, a Cei Connah yw’r unig glwb all rwystro’r Seintiau rhag cwblhau’r trebl a mynd drwy’r tymor cyfan heb golli gêm ddomestig.
Mae ymosodwr y Seintiau, Brad Young (22 gôl) yn dechrau’r penwythnos olaf dair gôl uwchben blaenwr Cei Connah, Jordan Davies (19 gôl) yn y ras am yr Esgid Aur.
Mae golwr y pencampwyr, Connor Roberts eisoes wedi selio’r Faneg Aur am yr ail dymor yn olynol gyda 16 llechen lân mewn 31 gêm gynghrair hyd yma.
Ac mae hi’n frwydr agos i fod yn brif grêwr y gynghrair gyda tri o sêr y Seintiau’n eistedd ar frig y tabl – Daniel Redmond (16), Josh Daniels (14), Ben Clark (10).
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Cei Connah: ➖✅➖❌❌
CHWECH ISAF
Aberystwyth (10fed) v Pontypridd (11eg) | Dydd Sul – 14:15 (S4C)
Mae Hwlffordd, Pen-y-bont a’r Barri yn ddiogel o’r cwymp, felly mae’n sicr mae dim ond un o’r tri isaf, sef Aberystwyth, Pontypridd a Bae Colwyn, fydd yn aros yn y Cymru Premier JD eleni.
Yr wythnos hon fe gyhoeddwyd bod Pontypridd yn sicr am syrthio gan iddynt fethu a chael trwydded i aros yn yr uwch gynghrair, sy’n golygu ei bod hi bellach yn ras ddau geffyl rhwng Aberystwyth a Bae Colwyn am yr un safle olaf i aros yn y gynghrair.
Dyma ddiweddglo hynod siomedig ar ddiwedd tymor eithriadol o rwystredig i Bontypridd sydd eisoes wedi derbyn naw pwynt o gosb am dorri rheolau’r gynghrair eleni.
Gorffennodd Pontypridd yn 8fed llynedd yn eu tymor cyntaf erioed yn yr uwch gynghrair o dan reolaeth Andrew Stokes, ond mae camgymeriadau gweinyddol wedi arwain at gwymp y clwb fydd yn dychwelyd i’r ail haen ar ôl dau dymor yn y Cymru Premier JD.
Dyma’r pumed tro ers ffurfio’r fformat 12-tîm yn 2010 i glwb golli eu lle’n y gynghrair oherwydd rhesymau nad oedd i’w gwneud gyda chanlyniadau’r tîm ar y cae.
Ers 2010 mae Castellnedd, Llanelli, Port Talbot a Bangor wedi syrthio oherwydd problemau gweinyddol, ac mae Pontypridd yn ymuno â’r rhestr anffodus hwnnw.
Dyw’r canlyniad ddim yn newid y dasg i Aberystwyth, sydd dal angen buddugoliaeth brynhawn Sul i wneud yn siwr nad yw Bae Colwyn yn codi uwch eu pennau.
Mae Aberystwyth yn un o’r ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers ffurfio’r gynghrair yn 1992 (gyda’r Drenewydd), ac ar ôl osgoi’r cwymp o drwch blewyn ar y penwythnos ola’r tymor diwethaf, mae’r Gwyrdd a’r Duon yn chwarae gyda tân eto eleni.
Ar benwythnos ola’r tymor diwethaf roedd Aberystwyth yn yr 11eg safle, yn hafal ar bwyntiau gyda’r Fflint, a gan i Bontypridd guro’r Fflint (3-2), ac Aberystwyth yn curo Caernarfon (3-2) fe lwyddodd y Gwyrdd a’r Duon i ddianc o’r ddau isaf ar brynhawn dramatig ar Goedlan y Parc.
Bydd criw Ceredigion yn gobeithio am ddiwrnod cofiadwy arall y penwythnos hwn, tra bydd Bae Colwyn yn gobeithio y gall Pontypridd faglu tîm Anthony Williams.
Ar ôl dechrau ardderchog i’w gyfnod fel rheolwr newydd Pontypridd, mae’r rhod wedi troi i Gavin Allen gyda’r clwb bellach ar rediad o bum gêm heb ennill, a phedair gêm heb sgorio.
Roedd yna gemau cofiadwy rhwng y ddau dîm yma y tymor diwethaf yn cynnwys clasur orffennodd yn 3-3 ar Goedlan y Parc ym mis Chwefror, cyn i gôl-geidwad Aberystwyth gipio pwynt hwyr i garfan Ceredigion ym Mhontypridd ym mis Ebrill.
Ond bellach mae Pontypridd ar rediad o chwe gêm heb golli yn erbyn Aberystwyth, a dyw’r clwb o’r Rhondda heb golli yn eu pedair gêm yn erbyn y Gwyrdd a’r Duon y tymor hwn, na chwaith wedi ildio unwaith (ennill 3, cyfartal 1).
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ͏❌➖❌✅❌
Pontypridd: ❌➖❌❌➖
Bae Colwyn (12fed) v Y Barri (9fed) | Dydd Sul – 14:15
Er colli 21 o’u 31 gêm gynghrair hyd yma (68%), mae yna dal obaith i Bae Colwyn osgoi’r cwymp ar y penwythnos olaf.
Bydd rhaid i’r Gwylanod guro’r Barri os am unrhyw obaith o osgoi’r cwymp, a gweddїo y bydd Aberystwyth yn methu a trechu Pontypridd.
Roedd y disgwyliadau yn uchel pan esgynnodd Bae Colwyn i’r uwch gynghrair dros yr haf ar ôl colli dim ond unwaith yng Nghynghrair y Gogledd y tymor diwethaf.
Ond dyw’r Gwylanod heb ddisgleirio eleni, ac ar ôl ennill dim ond un o’u wyth gêm ddiwethaf mae’n anodd gweld tîm Steve Evans yn dianc o’r dibyn ar y diwrnod olaf.
Y Barri oedd y clwb arall i esgyn dros yr haf, ac mae’r Dreigiau wedi cadarnhau eu bod yn gorffen yn y 9fed safle eleni.
Mae’r record benben yn hafal wedi pedair gêm rhwng y clybiau’r tymor hwn gyda’r ddau dîm yn ennill unwaith a chael dwy gêm gyfartal.
Record cynghrair diweddar:
Bae Colwyn: ❌✅❌❌➖
Y Barri: ✅❌➖➖➖
Pen-y-bont (8fed) v Hwlffordd (7fed) | Dydd Sul – 14:15
Mae Hwlffordd yn dechrau’r penwythnos olaf driphwynt uwchben Pen-y-bont yn y ras am y 7fed safle, ac felly byddai gêm gyfartal yn ddigon i’r Adar Gleision hawlio eu lle yn y gemau ail gyfle am yr ail dymor yn olynol.
Gorffennodd Hwlffordd yn 7fed y tymor diwethaf cyn mynd ymlaen i ennill y gemau ail gyfle a churo Shkendija yn Ewrop, ac mae’r Adar Gleision yn ysu am gyfle arall i gystadlu ar y cyfandir.
Mae gan Pen-y-bont wahaniaeth goliau gwell na Hwlffordd, ac felly byddai triphwynt i dîm Rhys Griffiths yn eu codi uwchben eu gwrthwynebwyr ar ddiwrnod ola’r tymor cyffredin.
Gorffennodd Pen-y-bont yn 3ydd y tymor diwethaf gan fynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes (colli 3-1 dros ddau gymal vs Santa Coloma, Andorra).
Mae’r ddau dîm wedi bod ar rediadau cryf yn ddiweddar gyda Pen-y-bont yn colli dim ond unwaith ers yr hollt, a Hwlffordd wedi ennill eu pedair gêm ddiwethaf yn olynol.
Mae’r timau wedi cyfarfod bum gwaith yn y gynghrair ers dechrau’r tymor diwethaf gyda Pen-y-bont a Hwlffordd yn ennill bob yn ail yn y gemau rheiny (Pen 3-2 Hwl, Hwl 2-1 Pen, Pen 2-0 Hwl, Hwl 3-2 Pen, Hwl 0-1 Pen).
A gan mae Pen-y-bont enillodd y gêm ddiwethaf rhwng y timau fis diwethaf, yna tro’r Adar Gleision fydd hi i ddathlu ddydd Sul os yw’r patrwm am barhau.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ͏✅✅➖✅✅
Hwlffordd: ͏✅✅✅✅❌
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos i’w weld ar S4C nos Lun.