Mae’r Seintiau Newydd, Cei Connah a’r Bala wedi sicrhau eu lle’n Ewrop ar ôl cadarnhau eu safleoedd yn y tri uchaf yn y tabl.
Mae popeth dal yn y fantol lawr yn y Chwech Isaf gyda dim ond dau bwynt yn gwahanu’r tri chlwb sy’n brwydro i osgoi’r cwymp gyda dim ond dwy gêm ar ôl i’w chwarae.
Bydd y clwb sy’n gorffen ar frig y Chwech Isaf (7fed safle) yn cael cystadlu gyda gweddill clybiau’r Chwech Uchaf yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor am yr un tocyn olaf i Ewrop, tra bydd y ddau dîm isa’n y tabl yn syrthio i’r ail haen.
Roedd hi’n noson arbennig i Lansawel nos Fawrth wrth iddyn nhw sicrhau pencampwriaeth y Cymru South JD a chadarnhau eu dyrchafiad i’r uwch gynghrair.
Mae pethau’n llai eglur yn y gogledd gan nad yw’r ceffylau blaen, Treffynnon wedi sicrhau trwydded i esgyn i’r uwch gynghrair sy’n golygu y gallai’r clwb sy’n gorffen yn ail godi yn eu lle.
Bydd Y Fflint (3ydd) yn gobeithio dringo uwchben Airbus UK i’r ail safle ddydd Sadwrn pan bydd y Sidanwyr yn teithio i herio Llanidloes, sef y clwb ar waelod y tabl.
CHWECH UCHAF
Cei Connah (2il) v Y Bala (3ydd) | Nos Wener – 19:45
Yn dilyn colled Y Bala yn erbyn Y Seintiau Newydd yng nghanol wythnos mae bellach yn sicr y bydd Cei Connah yn gorffen yn ail yn y tabl, a’r Bala’n gorffen yn drydydd.
Bydd Cei Connah yn defnyddio’r ddwy gêm gynghrair olaf felly i baratoi a chynllunio at rownd derfynol Cwpan Cymru, fydd yn cael ei chwarae yn erbyn Y Seintiau Newydd ar ddiwedd y mis.
Bydd Y Bala’n dechrau cynllunio ar gyfer Ewrop gyda dim ond deufis tan bydd y clybiau’n darganfod eu gwrthwynebwyr yn rownd ragbrofol gyntaf Cyngres Europa, pan fydd yr enwau’n cael eu dethol ar 18 Mehefin.
Hon fydd yr 11eg gêm rhwng y ddau glwb ers dechrau’r tymor diwethaf, ac mae’r gemau wedi bod yn rhai tynn ar y cyfan gyda chyfartaledd isel o 1.6 gôl yn cael ei sgorio ym mhob gêm (Cei Connah yn ennill 3, Y Bala’n ennill 4, cyfartal 3)
Cei Connah oedd yn fuddugol yn y frwydr ddiweddaraf rhwng y timau gyda Aaron Williams yn sgorio gôl hwyr yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD ar Barc Maesdu, Llandudno i sicrhau lle’r Nomadiaid yn y rownd derfynol (Cei 1-0 Bala).
Bydd Jordan Davies yn awyddus i ychwanegu at ei 19 gôl gynghrair i geisio cau’r bwlch ar brif sgoriwr y JD Cymru Premier, Brad Young (22), ac mae’r ddau flaenwr yn hafal ar 24 yr un ar frig rhestr cyfraniad goliau’r gynghrair (Davies wedi sgorio 19 a chreu pum gôl).
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ✅➖❌❌❌
Y Bala: ❌➖✅➖✅
Met Caerdydd (5ed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Seintiau Newydd yn agoshau at y trebl domestig am y trydydd tro yn eu hanes ac am y tro cyntaf ers 2015/16.
Gyda dim ond dwy gêm gynghrair ar ôl i’w chwarae bydd cewri Croesoswallt yn anelu i fod y tîm cyntaf i fynd drwy’r tymor cyfan heb golli gêm gynghrair ers i’r Barri wneud hynny yn 1997/98.
Y Barri a’r Bala yw’r unig glybiau i faglu’r Seintiau’n y gynghrair hyd yma gyda gemau cyfartal ym mis Awst a Medi, ond ers hynny mae tîm Craig Harrison wedi ennill 24 gêm gynghrair yn olynol, yn ogystal â chodi Cwpan Nathaniel MG a chyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru JD.
O ran clybiau Cymru, does neb wedi gallu curo’r Seintiau Newydd ers i Met Caerdydd wneud hynny mewn gêm gynghrair ym mis Chwefror llynedd (Met 3-2 YSN).
Ers y gêm honno, mae’r clybiau wedi cyfarfod bum gwaith a teg dweud bod y Seintiau wedi chwalu’r myfyrwyr ym mhob un o’r gemau rheiny (YSN 7-1 Met, Met 1-5 YSN, YSN 8-0 Met, YSN 4-0 Met, YSN 6-2 Met).
Mae’r Seintiau wedi sgorio oleiaf pedair gôl mewn saith o’u wyth gêm flaenorol yn erbyn Met Caerdydd, ac mae prif sgoriwr y gynghrair, Brad Young wedi rhwydo 10 gôl mewn pedair gêm yn erbyn Met Caerdydd y tymor hwn.
Mae’n bosib iawn felly y bydd Y Seintiau Newydd yn torri’r record am y nifer fwyaf o goliau mewn tymor ers ffurfio’r fformat 12-tîm gan y byddai tair gôl arall yn ddigon i guro eu record presennol o 112 o goliau.
Mae’r Seintiau eisoes wedi torri’r record am y nifer o bwyntiau mewn tymor (86pt) ac hynny gyda dwy gêm ar ôl i’w chwarae.
Bydd chwaraewyr y Seintiau yn dechrau meddwl am eu hystadegau unigol wrth i brif sgoriwr y gynghrair, Brad Young geisio sicrhau’r Esgid Aur (22 gôl).
Mae’r golwr Connor Roberts eisoes wedi selio’r Faneg Aur am yr ail dymor yn olynol gyda 15 llechen lân mewn 30 gêm gynghrair hyd yma.
Ac mae hi’n frwydr gyffrous i fod yn brif grêwr y gynghrair gyda tri o sêr y Seintiau’n eistedd ar frig y tabl – Daniel Redmond (14), Josh Daniels (14), Ben Clark (10).
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ͏❌✅❌❌❌
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Y Drenewydd (6ed) v Caernarfon (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
Dim ond dau bwynt sy’n gwahanu Caernarfon, Met Caerdydd a’r Drenewydd, a bydd eu safleoedd gorffenedig yn allweddol cyn y gemau ail gyfle.
Bydd y clwb sy’n gorffen yn 4ydd yn cael y fantais o chwarae gartref yn erbyn y tîm sy’n 7fed yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle, gyda’r tîm sy’n 5ed hefyd yn cael gêm gartref yn erbyn y clwb sy’n gorffen yn 6ed.
Yn y rownd derfynol, y clwb uchaf yn y tabl fydd yn cael chwarae gartref, ac felly byddai gorffen yn 4ydd yn sicrhau gemau cartref yn y rownd gynderfynol a’r rownd derfynol.
Dyna’r nod i Gaernarfon, a byddai buddugoliaeth iddyn nhw brynhawn Sadwrn yn debygol o fod yn ddigon i hawlio’r 4ydd safle, oni bai bod Met Caerdydd yn curo’r Seintiau Newydd.
Dyw Scott Ruscoe heb gael y dechrau gorau i’w gyfnod fel rheolwr Y Drenewydd gan ennill dim ond un gêm mewn wyth hyd yma, ond os gall y rheolwr arwain y Robiniaid i ennill y gemau ail gyfle, yna bydd Ruscoe’n arwr yn y canolbarth.
Mae’r timau wedi cyfarfod deirgwaith y tymor hwn gyda Caernarfon yn ennill eu dwy gêm gartref ar yr Oval, a’r Drenewydd yn ennill 4-0 ar Barc Latham ym mis Hydref wrth i Aaron Williams daro hatric i’r Robiniaid.
Dyw Caernarfon heb ennill ar Barc Latham ers Medi 2020 gan golli ar eu pum hymweliad i’r Drenewydd ers hynny.
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ➖➖❌✅❌
Caernarfon: ❌❌✅➖✅
Gemau’n weddill:
4ydd – Caernarfon (40pt): 13/04 Dre (oc), 21/04 Bala (c)
5ed – Met Caerdydd (39pt): 13/04 YSN (c), 21/04 Dre (c)
6ed – Y Drenewydd (38pt): 13/04 Cfon (c), 21/04 Met (oc)
CHWECH ISAF
Hwlffordd (7fed) v Bae Colwyn (12fed) | Dydd Sadwrn – 12:45 (Arlein)
Yn y gêm gynnar brynhawn Sadwrn bydd Hwlffordd yn gobeithio cymryd cam yn nes at gyrraedd y gemau ail gyfle, tra bydd Bae Colwyn yn anelu i ddringo allan o safleoedd y cwymp.
Mae Hwlffordd yn parhau driphwynt yn glir yn y ras am y 7fed safle ar ôl ennill tair gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf ers mis Tachwedd 2022.
Gorffennodd Hwlffordd yn 7fed y tymor diwethaf cyn mynd ymlaen i ennill y gemau ail gyfle a churo Shkendija yn Ewrop, ac mae’r Adar Gleision yn ysu am gyfle arall i gystadlu ar y cyfandir.
Mae Hwlffordd, Pen-y-bont a’r Barri bellach yn ddiogel o’r cwymp, felly mae’n sicr mae dim ond un o’r tri isaf, sef Aberystwyth, Pontypridd a Bae Colwyn, fydd yn aros yn y Cymru Premier JD eleni.
Gemau’n weddill:
10fed – Aberystwyth (24pt): 13/04 Barr (oc), 21/04 Pont (c)
11eg – Pontypridd (22pt): 13/04 Pen (c), 21/04 Aber (oc)
12feg – Bae Colwyn (22pt): 13/04 Hwl (oc), 21/04 Barr (c)
Gyda dwy gêm yn weddill mae Bae Colwyn ddau bwynt y tu ôl i Aberystwyth, ac mae angen i’r Gwylanod ennill eu dwy gêm olaf os am obaith gwirioneddol o osgoi’r cwymp.
Pe byddai Bae Colwyn yn colli yn erbyn Hwlffordd yna fe all y Gwylanod syrthio erbyn diwedd y prynhawn os bydd Aberystwyth yn curo’r Barri.
Di-sgôr oedd hi wedi’r ornest ddiwethaf rhwng y timau yma ym mis Mawrth, ond Hwlffordd oedd yn fuddugol yn y ddwy gêm yn rhan gynta’r tymor, yn cynnwys eu buddugoliaeth fwya’r tymor hwn o 5-0 ar Ddôl y Bont ym mis Tachwedd, pan sgoriodd Martell Taylor-Crossdale hatric i’r Adar Gleision.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ͏✅✅✅❌➖➖
Bae Colwyn: ✅❌❌➖➖
Pontypridd (11eg) v Pen-y-bont (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl dechrau ardderchog i’w gyfnod fel rheolwr newydd Pontypridd, mae’r rhod wedi troi i Gavin Allen gyda’r clwb bellach ar rediad o bedair gêm heb ennill, a thair gêm heb sgorio.
Aeth Pontypridd am gyfnod o bum gêm heb golli ar ôl i Allen gymryd yr awennau ym mis Chwefror (ennill 3, cyfartal 2), ond yn dilyn y newyddion bod y clwb heb lwyddo i sicrhau trwydded domestig mae’r canlyniadau wedi dirywio ers hynny.
Mae Pontypridd wedi methu a sicrhau trwydded i aros yn yr uwch gynghrair, ac felly os na fydd eu hapêl yn llwyddiannus, yna bydd Ponty yn syrthio hyd yn oed os ydyn nhw’n gorffen uwchben y ddau safle isaf.
Mewn tymor sydd wedi bod yn un heriol, mae’n rhaid canmol golwr Pontypridd, George Ratcliffe sydd wedi llwyddo i gadw 12 llechen lân mewn 27 ymddangosiad, sef yr ail record orau’n y gynghrair y tu ôl i golwr Y Seintiau Newydd, Connor Roberts (15).
Mae Pen-y-bont yn ceisio dal eu gafael ar Hwlffordd yn y ras am y 7fed safle, a gyda’r clybiau’n cyfarfod ar benwythnos ola’r tymor fe allai’r gêm honno benderfynu pwy fydd yn cystadlu am le’n Ewrop.
Dyw Pen-y-bont ond wedi colli unwaith ers yr hollt, a daeth y golled honno gartref yn erbyn Pontypridd ym mis Mawrth (Pen 0-1 Pont).
Mae Pontypridd a Pen-y-bont wedi mynd benben bum gwaith yn yr uwch gynghrair ers dyrchafiad Ponty yn haf 2022, ac mae’r gemau wedi bod yn rhai cystadleuol dros ben, a does dim un o’r timau wedi sgorio mwy nac unwaith mewn gêm yn erbyn ei gilydd (Pen 1-1 Pont, Pont 0-1 Pen, Pont 0-0 Pen, Pen 1-0 Pont, Pen 0-1 Pont).
Record cynghrair diweddar:
Pontypridd: ➖❌❌➖✅
Pen-y-bont: ͏✅➖✅✅❌
Y Barri (9fed) v Aberystwyth (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Barri’n ddiogel o’r cwymp, ond yn methu a chyrraedd y 7fed safle, felly bydd y cynllunio wedi dechrau’n barod ar gyfer y tymor nesaf yn yr uwch gynghrair.
Does neb wedi ennill llai o gemau na’r Barri y tymor hwn (6 – hafal â Bae Colwyn ac Aberystwyth), ac mae’r tîm ar rediad o wyth gêm heb fuddugoliaeth (colli 2, cyfartal 6).
Aberystwyth yw’r tîm diwethaf i golli yn erbyn Y Barri ‘nôl ym mis Ionawr (Aber 2-4 Barr), a byddai colled arall i Aber yn gallu bod yn hynod gostus.
Mae Aberystwyth yn un o’r ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers ffurfio’r gynghrair yn 1992 (gyda’r Drenewydd), ac ar ôl osgoi’r cwymp o drwch blewyn ar y penwythnos ola’r tymor diwethaf, mae’r Gwyrdd a’r Duon yn chwarae gyda tân eto eleni.
Does neb wedi sgorio llai nac Aberystwyth a Phontypridd y tymor hwn (23 gôl yr un, 0.77 gôl y gêm) felly doedd hi’n ddim syndod bod yr ornest rhwng y ddau dîm wedi gorffen yn ddi-sgôr nos Fawrth.
Ond roedd yna gerdyn coch anffodus i Jack Thorn sy’n golygu y bydd rhaid i Aber geisio ennill eu dwy gêm olaf heb wasanaeth eu capten dylanwadol.
Mae Aberystwyth wedi ennill eu tair gêm ddiwethaf oddi cartref yn erbyn Y Barri, a dyw’r Gwyrdd a’r Duon heb golli ar Barc Jenner ers Mawrth 2021.
Yn ddibynnol ar ganlyniadau eraill y prynhawn, fe allai Aberystwyth sicrhau eu lle yn yr uwch gynghrair pe bae nhw’n ennill yn erbyn Y Barri, a bod Pontypridd a Bae Colwyn yn methu ac ennill eu gemau nhw.
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ❌➖➖➖➖
Aberystwyth: ͏➖❌✅❌➖
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos i’w weld ar S4C nos Lun.