S4C

Navigation

Mae gêm olaf grwp B Cwpan y Byd Qatar wedi ein cyrraedd gyda Cymru angen buddugoliaeth yn erbyn Lloegr i gael unrhyw siawns o gamu i’r rownd 16 olaf yn y gystadleuaeth.

Bydd Cymru yn gobeithio gweld gêm gyfartal rhwng Iran ac yr UDA heno, byddai hynny ynghlwm a buddugoliaeth i Gymru yn gweld dynion Rob Page yn parhau yn y gystadleuaeth, ond os yw Iran neu yr UDA yn ennill bydd rhaid i Gymru guro Lloegr o bedair gôl er mwyn gyrru Lloegr adra a Cymru i’r rownd nesaf.

Bydd buddugoliaeth i Loegr yn sicrhau gorffen ar frîg y grwp gyda dim ond colled o bedair i ddim a buddugoliaeth i unrhyw dim yn y gêm arall heno yn gyrru Lloegr adref.

Mae’n deg dweud bod ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd wedi bod yn un siomedig hyd yma gyda dim ond pwynt ar y bwrdd ar ôl dwy gêm. Chwaraeodd Cymru eu pêl-droed gorau yn yr ail hanner yn erbyn yr UDA ond ni lwyddon nhw i gyrraedd y lefelau perfformiad hynny yn erbyn Iran, gêm gollodd Cymru 2-0.

Mae ‘na alwadau i’r rheolwr Rob Page roi lle i Dan James a Brennan Johnson yn yr 11 cyntaf mewn ymgais i fynd yn fwy ymosodol ac achosi problemau lawr yr asgelli, ond a fydd Page yn gwneud y newid?

Er gwaethaf perfformiad siomedig gan ddynion Gareth Southgate yn erbyn yr Unol Daleithiau gyda’r gêm yn gorffen yn ddi-sgor, bydd Lloegr yn parhau i fod yn hyderus yn mynd i mewn i’r gêm heno ar ôl taro chwech heibio Iran yn eu gêm agoriadol.

Mae gan Loegr y posibilrwydd o gylchdroi eu carfan ar gyfer y gêm, ond ni fydd hyn yn golygu gêm haws i Gymru gyda thalent ymosodol fel Jack Grealish, Phil Foden a Marcus Rashford i ddod mewn i’r tîm.

Mae’n saff dweud y gall llawer newid mewn 90 munud a gyda’r ddwy gêm grŵp B yn cychwyn am 7pm nos Fawrth mae’n siŵr o fod yn noson gyffrous o bêl-droed.

Cymru v Lloegr yn fyw ar S4C nos Fawrth am 18:00
Meilyr Williams

Author Meilyr Williams

More posts by Meilyr Williams
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?