Mae’r Seintiau Newydd, Cei Connah a’r Bala wedi sicrhau eu lle’n Ewrop ar ôl cadarnhau eu safleoedd yn y tri uchaf yn y tabl.
Bydd Y Seintiau Newydd yn croesawu’r Bala i Neuadd y Parc gan obeithio parhau â’u record o fod heb golli gêm ddomestig y tymor hwn.
Mae popeth dal yn y fantol lawr yn y Chwech Isaf gyda dim ond dau bwynt yn gwahanu’r tri chlwb sy’n brwydro i osgoi’r cwymp.
Byddai buddugoliaeth i Bontypridd nos Fawrth yn eu codi uwchben eu gwrthwynebwyr, Aberystwyth, a’u tynnu nhw i lawr i’r ddau isaf.
Mae gemau allweddol yn cael eu cynnal yn yr ail haen yng nghanol wythnos hefyd, a dim un mwy na’r ornest rhwng Llansawel a Rhydaman.
Os bydd ceffylau blaen y de, Llansawel yn ennill eu gêm gartref yn erbyn Rhydaman (3ydd) nos Fawrth, yna bydd tîm Andy Dyer yn sicrhau pencampwriaeth y Cymru South JD ac yn esgyn i’r uwch gynghrair.
Ac ar frig tabl y gogledd, fe allai Treffynnon gymryd cam yn nes at y bencampwriaeth oddi cartref yn erbyn Cegidfa.
Ond gan nad ydi Treffynnon wedi cael trwydded i esgyn, bydd rhaid cadw llygad ar Y Fflint (3ydd) sy’n gobeithio codi i’r ddau uchaf yn eu gêm ddarbi yn erbyn Yr Wyddgrug (4ydd).
CHWECH UCHAF
Y Seintiau Newydd (1af) v Y Bala (3ydd) | Nos Fawrth – 19:45
Mae’r Seintiau Newydd yn agoshau at y trebl domestig am y trydydd tro yn eu hanes ac am y tro cyntaf ers 2015/16.
Gyda dim ond tair gêm gynghrair ar ôl i’w chwarae bydd cewri Croesoswallt yn anelu i fod y tîm cyntaf i fynd drwy’r tymor cyfan heb golli gêm gynghrair ers i’r Barri wneud hynny yn 1997/98.
Y Barri a’r Bala yw’r unig glybiau i faglu’r Seintiau’n y gynghrair hyd yma gyda gemau cyfartal ym mis Awst a Medi, ond ers hynny mae tîm Craig Harrison wedi ennill 23 gêm gynghrair yn olynol, yn ogystal â chodi Cwpan Nathaniel MG a chyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru JD.
Mae’r Bala wedi hawlio eu lle’n Ewrop am y nawfed tro ers 2013 ar ôl colli dim ond un o’u 10 gêm gynghrair ddiwethaf (vs YSN).
Dyw’r Seintiau heb golli dim un o’u 18 gêm flaenorol yn erbyn Y Bala (ennill 13, cyfartal 5), a dyw tîm Colin Caton heb sgorio yn eu pum gêm ddiwethaf yn eu herbyn.
Tydi’r Bala erioed wedi ennill oddi cartref yn Neuadd y Parc, ond Hogiau’r Llyn yw’r tîm diwethaf i gymryd pwyntiau oddi ar y pencampwyr gyda gêm ddi-sgôr ar Faes Tegid ym mis Medi yn ystod rhan gynta’r tymor, felly mi fyddan nhw’n ysu am ganlyniad tebyg i ddod a rhediad rhagorol y Seintiau i ben.
Bydd chwaraewyr y Seintiau yn dechrau meddwl am eu hystadegau unigol wrth i brif sgoriwr y gynghrair, Brad Young geisio sicrhau’r Esgid Aur (22 gôl).
Mae’r golwr Connor Roberts eisoes wedi selio’r Faneg Aur am yr ail dymor yn olynol gyda 15 llechen lân mewn 29 gêm gynghrair hyd yma.
Ac mae hi’n frwydr gyffrous i fod yn brif grêwr y gynghrair gyda tri o sêr y Seintiau’n eistedd ar frig y tabl a dim ond tair gêm ar ôl i’w chwarae – Daniel Redmond (13), Josh Daniels (13), Ben Clark (10).
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Y Bala: ➖✅➖✅✅
CHWECH ISAF
Pontypridd (12fed) v Aberystwyth (10fed) | Nos Fawrth – 19:45
Erbyn hyn, mae’n sicr mae dim ond un clwb allan o Aberystwyth, Bae Colwyn a Phontypridd fydd yn aros yn y Cymru Premier JD eleni.
Mae Hwlffordd, Pen-y-bont a’r Barri bellach yn ddiogel o’r cwymp, felly mae’n sicr y bydd Pontypridd neu Aberystwyth yn syrthio ar ddiwedd y tymor (neu’r ddau).
I ychwanegu at y tensiwn mae Pontypridd wedi methu a sicrhau trwydded i aros yn yr uwch gynghrair, ac felly os na fydd eu hapêl yn llwyddiannus, yna bydd Ponty yn syrthio hyd yn oed os ydyn nhw’n gorffen uwchben y ddau safle isaf.
Bydd Gavin Allen yn gobeithio y gall ei chwaraewyr wneud eu rhan ar y cae, a byddai buddugoliaeth nos Fawrth yn codi Pontypridd o waelod y tabl ac uwchben Aberystwyth i’r 10fed safle.
Mae’r clwb o’r Rhondda wedi derbyn naw pwynt o gosb y tymor hwn am chwarae chwaraewyr anghymwys, ac oni bai am y blerwch hynny fe fyddai Ponty yn 9fed yn y tabl ac yn bur debygol o aros i fyny.
Cafodd Aberystwyth gosb ariannol gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru am deithio i Bontypridd heb ffysiotherapydd cymwys fis diwethaf, ond roedd y Gwyrdd a’r Duon yn falch o osgoi colli pwyntiau.
Mae Aberystwyth yn un o’r ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers ffurfio’r gynghrair yn 1992 (gyda’r Drenewydd), ac ar ôl osgoi’r cwymp o drwch blewyn ar y penwythnos ola’r tymor diwethaf, mae’r Gwyrdd a’r Duon yn chwarae gyda tân eto eleni.
Ar ôl gorffen yn 8fed llynedd yn eu tymor cyntaf yn yr uwch gynghrair, fe fyddai’n siom aruthrol i Bontypridd pe bae nhw’n syrthio lawr i’r ail haen.
Roedd yna gemau cofiadwy rhwng y ddau dîm yma y tymor diwethaf yn cynnwys clasur orffennodd yn 3-3 ar Goedlan y Parc ym mis Chwefror, cyn i gôl-geidwad Aberystwyth gipio pwynt hwyr i garfan Ceredigion ym Mhontypridd ym mis Ebrill.
Ond bellach mae Pontypridd ar rediad o bum gêm heb golli yn erbyn Aberystwyth, ac mae’r Dreigiau wedi ennill eu tair gêm yn erbyn y Gwyrdd a’r Duon y tymor hwn heb ildio unwaith.
Bydd y timau’n cyfarfod eto ar benwythnos ola’r tymor, ac felly mae’n ymddangos y bydd y frwydr i osgoi’r cwymp yn mynd yr holl ffordd i’r diwrnod olaf.
Record cynghrair diweddar:
Pontypridd: ❌❌➖✅✅
Aberystwyth: ͏❌✅❌➖➖
Gemau’n weddill:
10fed – Aberystwyth (23pt): 09/04 Pont (oc), 13/04 Barr (oc), 21/04 Pont (c)
11eg – Bae Colwyn (22pt): 13/04 Hwl (oc), 21/04 Barr (c)
12fed – Pontypridd (21pt): 09/04 Aber (c), 13/04 Pen (c), 21/04 Aber (oc)
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.