S4C

Navigation

Daeth rhediad perffaith Y Seintiau Newydd i ben brynhawn Sadwrn mewn gêm gyfartal ym Mhen-y-bont, a bydd ceffylau blaen Anthony Limbrick yn wynebu her anodd arall ypenwythnos yma yn erbyn y tîm sy’n 3ydd, Y Barri. 

Nos Wener, 17 Medi

Y Drenewydd (7fed) v Aberystwyth (10fed) | Nos Wener – 19:45 

Wedi canlyniadau siomedig y penwythnos diwethaf bydd y ddau glwb o’r canolbarth yn gobeithio am well lwc nos Wener. 

Collodd Y Drenewydd 4-1 yn erbyn Y Fflint, ac hynny gyda dyn o fantais am hanner awr ola’r gêm yn dilyn cerdyn coch Michael Wilde. 

Roedd ‘na dorcalon unwaith yn rhagor i Aberystwyth wrth i dîm Antonio Corbisiero golli 1-0 am y bedwaredd gêm gynghrair yn olynol trwy gôl hwyr Emlyn Lewis i fyfyrwyr Met Caerdydd. 

Dyw’r Drenewydd ond wedi ennill un o’u pum gêm gartref ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth (colli 2, cyfartal 2), ac roedd hi’n dipyn o ganlyniad i Aberystwyth yn y gêm ddiwethaf rhwng y timau wrth ennill 0-4 ar Barc Latham ym mis Mai, sef buddugoliaeth fwyaf y Gwyrdd a’r Duon yn erbyn eu gelynion o’r canolbarth ers 1998. 

 

Record cynghrair: 

Y Drenewydd: ❌➖✅✅❌ 

Aberystwyth: ✅❌❌❌❌ 

 

Dydd Sadwrn, 18 Medi 

Caernarfon (8fed) v Met Caerdydd (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Dim ond pwynt sy’n gwahanu’r ddau glwb yma yng nghanol y tabl, ac ar ôl buddugoliaeth yr un y penwythnos diwethaf bydd Caernarfon a Met Caerdydd yn awyddus i ddringo’r tabl a sefydlu lle yn y Chwech Uchaf. 

Enillodd Caernarfon yn gyfforddus o dair i ddim yn erbyn y Derwyddon nos Wener diwethaf, ond bydd hi’n gêm galed yn erbyn Met Caerdydd sydd ond wedi colli un o’u 16 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth. 

Mae’r Cofis wedi ennill tair o’u pedair gêm ddiwethaf yn erbyn Met Caerdydd, a dim ond unwaith mae’r myfyrwyr wedi ennill ar yr Oval, ac roedd honno yn fuddugoliaeth arwyddocaol yn rownd gynderfynol gemau ail gyfle 2018/19 wrth i Met Caerdydd fynd ymlaen i selio eu lle yn Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes. 

 

Record cynghrair: 

Caernarfon: ✅❌❌➖✅ 

Met Caerdydd: ❌➖➖✅✅ 

 

Cei Connah (5ed) v Y Bala (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae’r pencampwyr Cei Connah wedi mynd ar rediad o dair gêm gynghrair heb fuddugoliaeth am y tro cyntaf ers Awst 2019. 

Wedi gemau cyfartal yn erbyn Pen-y-bont a Chaernarfon fe gollodd y Nomadiaid 1-0 yn Y Barri ddydd Sadwrn diwethaf gan syrthio bum pwynt y tu ôl i’r Seintiau Newydd. 

Ac fel Y Seintiau Newydd, dyw’r Bala heb golli gêm gynghrair y tymor hwn, ac mae criw Colin Caton wedi llwyddo i sgorio 23 o goliau yn eu dwy gêm ddiwethaf (17-1 v Brymbo, 6-2 v Hwlffordd) 

Roedd tîm Andy Morrison ar rediad o 10 gêm heb golli yn erbyn Y Bala cyn i Hogiau’r Llyn guro’r Nomadiaid yn y gêm ddiwethaf rhwng y timau ym mis Ebrill. 

Ond dyw Cei Connah heb golli dim un o’u 10 gêm gartref yn erbyn Y Bala ers Ebrill 2016 (ennill 7, cyfartal 3). 

 

Record cynghrair: 

Cei Connah: ✅✅➖➖❌ 

Y Bala: ➖➖➖✅✅ 

Derwyddon Cefn (12fed) v Pen-y-bont (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Ar y Graig bydd y Derwyddon a Phen-y-bont yn benderfynol o sicrhau eu buddugoliaethau cyntaf yn y gynghrair y tymor yma. 

Mae’r Derwyddon ar rediad o 14 colled yn olynol yn y gynghrair, ac mae’n anodd gweld tîm Niall McGuinness yn osgoi blwyddyn hir arall tua’r gwaelodion. 

Dyw Pen-y-bont chwaith heb ennill gêm gynghrair, ond mae tîm Rhys Griffiths wedi cael pedair gêm gyfartal yn erbyn y pedwar clwb chwaraeodd yn Ewrop dros yr haf (Bala, Dre, Cei, YSN). 

Tydi’r Derwyddon na Phen-y-bont wedi ennill gêm gynghrair ers mis Ebrill, ond mae’r clwb o Fryntirion wedi ennill ar dau hymweliad diwethaf â’r Graig. 

 

Record cynghrair: 

Derwyddon Cefn: ❌❌❌❌❌ 

Pen-y-bont: ➖➖➖❌➖ 

 

Hwlffordd (11eg) v Y Fflint (2il) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Bydd Y Fflint yn fwy na bodlon gyda’r ffordd mae eu tymor nhw’n mynd hyd yma, gyda tîm Neil Gibson yn eistedd yn daclus yn yr ail safle, dim ond un pwynt y tu ôl i’r Seintiau Newydd ar ôl ennill pedair o’u pum gêm agoriadol. 

Mae’n stori dra gwahanol yn Hwlffordd sydd heb ennill gêm gynghrair y tymor yma, ac ond wedi ennill un o’u 13 gêm gynghrair ddiwethaf (Hwl 2-0 Cefn).  

Does neb wedi sgorio mwy (14) nac ildio llai (3) na’r Fflint y tymor yma, ac mae criw Cae-y-Castell wedi cadw llechen lân yn eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd. 

 

Record cynghrair: 

Hwlffordd: ❌➖❌❌❌ 

Y Fflint: ✅✅✅❌✅ 

 

Y Seintiau Newydd (1af) v Y Barri (3ydd) | Dydd Sadwrn – 17:15 

Mae’r Seintiau Newydd wedi baglu am y tro cyntaf y tymor yma ac mae gan Y Barri gyfle i godi’n hafal ar bwyntiau gyda cewri Coresoswallt ddydd Sadwrn.  

Y Barri sydd yn gosod y safon ar hyn o bryd gan mae tîm Gavin Chesterfield yw’r unig rai i ennill eu tair gêm gynghrair ddiwethaf. 

Ond dyw’r Seintiau heb golli dim un o’u chwe gêm ddiwethaf yn erbyn Y Barri (ennill 5, cyfartal 1), gan sgorio 20 o goliau (3.3 gôl y gêm). 

Ers dyrchafiad Y Barri yn 2017 mae’r clybiau wedi cwrdd saith gwaith yn Neuadd y Parc a dyw’r Dreigiau heb wneud yn rhy ffol yng Nghroesoswallt (YSN ennill 3, Barri ennill 2, cyfartal 2) 

 

Record cynghrair: 

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅➖ 

Y Barri: ❌➖✅✅✅ 

 

Bydd uchafbwyntiau gemau’r penwythnos i’w gweld ar ein gwefannau cymdeithasol ac ar Sgorio nos Lun am 5:30. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?