Pêl-droed rhyngwladol byw o Gynghrair y Cenhedloedd 2024/25. Bydd Craig Bellamy yn rheoli’r tîm cenedlaethol am y tro cyntaf yng ngêm agoriadol Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd 2024/25. C/G 7.45pm.
Arwyddodd Bellamy gytundeb 4 mlynedd fel rheolwr newydd Cymru yng Ngorffennaf 2024 yn dilyn diswyddiad Robert Page wedi canlyniadau siomedig yn erbyn Gibraltar (0-0) a Slofacia (4-0) mewn gemau cyfeillgar.
Y gêm yn erbyn Twrci yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA 2024/25 fydd ei gêm gyntaf yng ngofal y tîm cenedlaethol ar ôl cyfnod fel is-reolwr gyda Burnley (2022-24) ac Anderlecht (2021).
Yn ei ddyddiau chwarae roedd Bellamy yn gapten dros Cymru, gan ennill 78 cap dros ei wlad.
Bydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd UEFA 2024/25 gyda gêm gartref yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn erbyn Twrci nos Wener (6/9), cyn teithio i wynebu Montenegro nos Lun (9/9).
Mae fformat Cynghrair y Cenhedloedd UEFA wedi bod yn ffafriol i Gymru ers ei sefydlu yn 2018, gyda’r tîm cenedlaethol yn ennill dyrchafiad o Gynghrair B i Gynghrair A yn 2020 a chyrraedd y gemau ail gyfle am le yn Euro 2024 oherwydd eu llwyddiant yn y gystadleuaeth.
Carfan Cymru:
Danny Ward (Caerlŷr), Adam Davies (Sheffield United), Karl Darlow (Leeds United), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Owen Beck (Blackburn Rovers – ar fenthyg o Lerpwl), Joe Rodon (Leeds United), Chris Mepham (Bournemouth), Ben Cabango (Abertawe), Neco Williams (Nottingham Forest), Connor Roberts (Burnley), Jordan James (Stade Rennais), Ethan Ampadu (Leeds United), Josh Sheehan (Bolton Wanderers), Aaron Ramsey (Caerdydd), Ollie Cooper (Abertawe), Sorba Thomas (Nantes – ar fenthyg o Huddersfield Town), Kieffer Moore (Sheffield United), Lewis Koumas (Stoke City – ar fenthyg o Lerpwl), Brennan Johnson (Tottenham Hotspur), Harry Wilson (Fulham), Daniel James (Leeds United), Mark Harris (Oxford United), Liam Cullen (Abertawe), Rabbi Matondo (Rangers).