S4C

Navigation

Yn dilyn y gemau canol wythnos mae’r Seintiau Newydd wedi torri driphwynt yn glir ar frig y tabl ar ôl curo’r Fflint o 5-0 i ymestyn eu rhediad i wyth buddugoliaeth yn olynol. 

Roedd hi’n noson rwystredig i’r Barri a ildiodd gic o’r smotyn yn yr eiliadau olaf yn erbyn Rhydaman, ac felly’n gorfod rhannu’r pwyntiau’n y pen draw (Barr 2-2 Aman). 

Ar waelod y tabl, mae yna bedwar tîm sydd heb ennill dim un o’u naw gêm agoriadol, a ninnau chwarter ffordd drwy’r tymor, bydd y rheolwyr yn ysu i sicrhau buddugoliaethau dros y penwythnos. 

 

Nos Wener, 18 Medi 

Airbus UK (10fed) v Y Fflint (14eg) | Nos Wener – 19:45 

Mae’r Fflint wedi cael dechrau difrifol i’r tymor gan gipio dim ond dau bwynt o’r 27 posib, ac mae’r Sidanwyr yn un o’r pedwar o dimau sy’n dal i aros am eu buddugoliaeth gyntaf.  

Fe wnaeth y Fflint osgoi’r cwymp o drwch blewyn y tymor diwethaf, ac mae carfan Lee Fowler yn ffodus bod tri tîm arall yn stryffaglu ger y gwaelod, ac mae dim ond dau dîm sy’n sicr o syrthio eto eleni. 

Hon fydd yr ail gêm ddarbi o fewn tridiau i Airbus, wedi iddyn nhw golli o 3-0 yn erbyn Cei Connah nos Fawrth. 

Er y golled, mae Airbus 10 pwynt uwchben Y Fflint, a hogiau’r Maes Awyr yw’r unig glwb i beidio a chael gêm gyfartal y tymor yma. 

Fe wnaeth y clybiau gyfarfod yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru y tymor diwethaf, gyda’r Fflint yn ennill o 1-0 ar Gae y Castell diolch i gôl Ben Wynne. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Airbus UK: ͏❌✅✅❌❌ 

Y Fflint: ͏➖❌❌➖❌ 

 

Bae Colwyn (7fed) v Y Barri (2il) | Nos Wener – 19:45 

Roedd hi’n noson gofiadwy i Fae Colwyn nos Fawrth wrth i’r Gwylanod sicrhau eu buddugoliaeth fwyaf erioed yn yr uwch gynghrair gan drechu Treffynnon o 0-5 ar Ffordd Helygain, gyda’r goliau i gyd yn dod yn yr hanner cyntaf. 

Bydd Michael Wilde yn awyddus i dorri record arall nos Wener drwy arwain Bae Colwyn i ennill tair gêm yn olynol yn yr uwch gynghrair am y tro cyntaf erioed. 

Bae Colwyn a’r Seintiau Newydd yw’r unig ddau glwb sydd â record 100% gartref y tymor hwn, ac felly bydd hi’n dalcen caled i’r Barri. 

Bydd Steve Jenkins yn siomedig o fod wedi gollwng pwyntiau gartref yn erbyn Rhydaman nos Fawrth, ac hynny ar ôl bod 2-0 ar y blaen ar Barc Jenner (Barr 2-2 Aman). 

Er i’r Barri orffen yn uwch na Bae Colwyn y tymor diwethaf, y Gwylanod gafodd y gorau o’r gemau rhyngddynt, yn curo’r Dreigiau ddwywaith wedi’r hollt. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Bae Colwyn: ͏❌✅❌✅✅ 

Y Barri: ͏✅✅❌✅➖ 

 

Caernarfon (5ed) v Cambrian (8fed) | Nos Wener – 19:45 

Mae’r Cofis wedi llithro i’r 5ed safle yn dilyn eu gêm gyfartal o 1-1 oddi cartref yn Llandudno nos Fawrth. 

Caernarfon yw prif sgorwyr y gynghrair ar ôl sgorio 2.7 gôl y gêm hyd yma, ac ynghŷd â Cei Connah, nhw yw’r unig glybiau i sgorio ym mhob gêm gynghrair y tymor hwn. 

Mae Cambrian wedi codi i’r hanner uchaf ar ôl rhediad o bedair gêm heb golli (ennill 2, cyfartal 2), a bydd Liam Williams yn falch iawn o sut mae ei garfan wedi ymdopi gyda heriau’r uwch gynghrair hyd yma. 

Hon fydd yr ornest gyntaf erioed rhwng y ddau glwb ac fe ddylai fod yn achlysur cyffrous gan fod dau brif sgoriwr y gynghrair yn cyfarfod nos Wener gyda Zack Clarke (9 gôl) a Liam Eason (8 gôl) yn arwain y ras am yr Esgid Aur eleni. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Caernarfon: ͏✅❌✅✅➖ 

Cambrian: ͏❌➖➖✅✅ 

 

Cei Connah (4ydd) v Met Caerdydd (9fed) | Nos Wener – 19:45 

Ar ôl dechreuad campus i’r tymor, mae Met Caerdydd wedi arafu ychydig gan syrthio i’r 9fed safle yn dilyn gemau cyfartal yn erbyn Cambrian a’r Fflint. 

Fe gafodd tîm Ryan Jenkins orffwys yng nghanol wythnos tra roedd y clybiau eraill yn cystadlu, ac mae’n bosib bydd hynny wedi bod yn fuddiol i’r myfyrwyr. 

Mae Cei Connah wedi codi i’r 4ydd safle ar ôl curo Airbus (Cei 3-0 Air), ble lwyddodd Callum West i sgorio a chreu unwaith eto i ddod â’i gyfanswm cyfraniad goliau i fyny i 13 am y tymor (sgorio 6, creu 7). 

Dyw Cei Connah m’ond wedi colli un o’u chwe gêm ddiwethaf yn erbyn Met Caerdydd, a dyw’r myfyrwyr erioed wedi ennill gêm gynghrair oddi cartref yn erbyn y Nomadiaid. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Cei Connah: ͏✅✅➖❌✅ 

Met Caerdydd: ͏❌✅✅➖➖ 

 

Hwlffordd (11eg) v Treffynnon (16eg) | Nos Wener – 19:45 

Mae Treffynnon wedi cael dechrau trychinebus i’r tymor – yn sicrhau dim ond un pwynt o’r 27 posib, ond yn ffodus iddyn nhw, mae yna bedwar clwb arall sy’n dal heb hawlio triphwynt hyd yma.  

Er y dechrau araf, mae’n bosib y byddai buddugoliaeth nos Wener yn codi Treffynnon o safleoedd y cwymp, a dyna fydd y targed i dîm John Haseldin.  

Ar ôl dechrau diflas i’r ymgyrch, mae’r hwyliau wedi codi yn Hwlffordd gyda’r Adar Gleision heb golli yn eu tair gêm ddiwethaf. 

Hon fydd yr ornest gyntaf rhwng y clybiau ers tymor 1998/99 pan enillodd Hwlffordd o 7-2 yn eu gêm gartref yn erbyn Treffynnon, cyn colli o 4-0 ar Ffordd Helygain ym mis Mai 1999. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Hwlffordd: ͏❌❌✅➖✅ 

Treffynnon: ͏❌❌➖❌❌ 

 

Llansawel (12fed) v Trefelin (15fed) | Nos Wener – 19:45  

Bydd hi’n gêm ddarbi allweddol yn ardal Abertawe rhwng dau glwb sydd mewn trafferthion yn y Chwech Isaf. 

Mae Llansawel wedi colli pum gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf ers dwy flynedd, ac fe fethon nhw â churo 10-dyn Pen-y-bont yng nghanol wythnos. 

Ar ôl ennill pencampwriaeth y de y tymor diwethaf, mae canlyniadau Trefelin wedi bod yn siomedig eleni ac mae tîm Andy Hill yn dal i aros em eu buddugoliaeth gyntaf yn yr uwch gynghrair (cyfartal 2, colli 7). 

Mae Llansawel wedi ennill eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn Trefelin, ond dyma’r tro cyntaf i’r clybiau gyfarfod yn yr haen uchaf. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Llansawel: ͏❌❌❌❌❌ 

Trefelin: ͏➖❌➖❌❌ 

 

Rhydaman (13eg) v Pen-y-bont (3ydd) | Nos Wener – 19:45 (Yn fyw arlein) 

Fe lwyddodd Rhydaman i gipio pwynt oddi cartref yn Y Barri nos Fawrth, ond dyw’r newydd-ddyfodiaid heb ennill dim un o’u naw gêm agoriadol. 

Mae Pen-y-bont yn parhau’n ddi-guro wedi’r naw gêm gyntaf (ennill 6, cyfartal 3), a bydd y Gleision yn gobeithio cystadlu am le’n Ewrop unwaith eto eleni.  

Rhydaman sydd â’r record gartref waethaf yn y gynghrair ar ôl sicrhau dim ond un pwynt mewn pedair gêm ar Y Rec, gan sgorio dwy gôl ac ildio 14. 

Achosodd Rhydaman dipyn o sioc bedair blynedd yn ôl drwy guro Pen-y-bont o 1-2 yn nhrydedd rownd Cwpan Nathaniel MG ym Mryntirion, sef yr unig dro i’r clybiau gyfarfod yn y gorffennol. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Rhydaman: ͏➖❌❌❌➖ 

Pen-y-bont: ͏➖➖✅✅✅ 

 

Dydd Sadwrn, 19 Medi 

Y Seintiau Newydd (1af) v Llandudno (6ed) | Dydd Sadwrn – 17:30 

Wedi wyth buddugoliaeth yn olynol mae’r Seintiau Newydd ar frig y tabl, ac yn parhau yn ddi-guro y tymor hwn (ennill 8, cyfartal 1). 

Mae tîm Craig Harrison wedi llwyddo i gadw saith llechen lân mewn naw gêm gynghrair gan ildio dim ond tair gôl hyd yma. 

Mae Llandudno wedi cael dechrau cadarn i’w tymor cyntaf yn ôl yn yr uwch gynghrair, ond dyw tîm Jordan Hadaway m’ond wedi ennill un o’u pedair gêm oddi cartref hyd yma (coolli 3). 

Mae’r clybiau wedi cyfarfod ar 15 achlysur, ac mae’r Seintiau wedi ennill 14 o’r gemau rheiny a chael un gêm gyfartal, felly dyw Llandudno erioed wedi curo cewri Croseoswallt. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Seintiau Newydd: ͏͏✅✅✅✅✅ 

Llandudno: ͏✅❌✅❌➖ 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?