Bydd S4C yn parhau i ddarlledu gemau rhyngwladol tîm dynion Cymru, gyda phob un o chwe gêm Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA yn yr hydref ar gael i wylwyr ledled Cymru.
Mae’r cytundeb yn golygu y gall cefnogwyr unwaith eto ddilyn tîm Craig Bellamy drwy gydol yr ymgyrch, gyda phob gêm yn cael ei ddarlledu’n fyw ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.
Mae Cymru’n cystadlu yng Ngrŵp A4 Cynghrair A Cynghrair y Cenhedloedd UEFA ac yn chwarae chwe gêm yn yr hydref, gan gychwyn gyda gêm oddi cartref yn erbyn Portiwgal ar 24 Medi. Mae’r ymgyrch yn parhau gyda gemau ar 27 Medi, 1 Hydref, 4 Hydref, 14 Tachwedd a 17 Tachwedd.
Dylan Ebenezer fydd yn cyflwyno’r gemau ar S4C gyda Sioned Dafydd yn gohebu. Bydd amryw o westeion yn dadansoddi’r cyfan drwy gydol yr ymgyrch gan gynnwys Owain Tudur Jones, Gwennan Harries, John Hartson, Malcolm Allen a Nia Davies.
Bydd pob un o’r chwe gêm ar gael yn fyw yn Gymraeg ar S4C, gyda BBC Cymru yn darlledu’n Saesneg.
Dywedodd Gwennan Harries, cyn-chwaraewr pêl-droed Cymru:
“Dwi’n hynod o gyffrous i weld Cymru yn camu nôl lan i Gynghrair A, ac mae hyd yn oed yn well bod y gemau yma ar gael ar S4C, cartref chwaraeon Cymru!
“Er bod aros yn y gynghrair yn her anferth, yn enwedig gyda rhai o’r anafiadau sydd gennym ni, mae’n gyfle gwych i ni brofi ein datblygiad o dan Craig Bellamy yn erbyn rhai o dimoedd cryfaf Ewrop.
“Dyma’r union y math o wrthwynebwyr y bydd rhaid i Gymru ddelio gydag os am gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2028!”
Dywedodd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C:
“Rydym yn falch iawn o barhau i ddod â darllediadau byw o gemau rhyngwladol tîm dynion Cymru i gynulleidfaoedd dros Gymru. Mae’r gemau yma ymysg y mwyaf yn y calendr chwaraeon, ac mae sicrhau bod cefnogwyr yn medru profi’r rhain yn y Gymraeg yn parhau yn flaenoriaeth i S4C.
“O Gaerdydd i Copenhagen, gall cefnogwyr ddilyn Cymru trwy gydol ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd gyda chriw Sgorio, gan sicrhau bod yr holl gyffro a drama sy’n gysylltiedig â phêl-droed rhyngwladol ar gael i gynulleidfaoedd ar blatfformau S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.”
Llion Iwan, S4C’s Chief Content Officer, said:
“We’re delighted to continue bringing live coverage of Wales men’s international football to audiences across Wales. These matches are among the biggest moments in the sporting calendar, and ensuring fans can experience them in Welsh remains a priority for S4C.
“From Cardiff to Copenhagen, supporters will be able to follow Wales throughout the Nations League campaign with Sgorio, ensuring that all the excitement and drama of international football is available to audiences on S4C, S4C Clic and BBC iPlayer.”
Bydd pob gêm yn cael ei darlledu o dan frand Sgorio ar S4C.




