S4C

Navigation

Mae rhediad perffaith Y Seintiau Newydd wedi dod i derfyn, ac ar ôl 26 buddugoliaeth yn olynol (33 os yn cynnwys y fuddugoliaeth ar giciau o’r smotyn yn erbyn East Fife), fe gollodd tîm Craig Harrison yn erbyn Airdrieonians yn rownd derfynol Cwpan Her yr Alban brynhawn Sul gan ddod a breuddwyd y ‘quadruple’ i ben. 

Serch hynny, mae’r Seintiau Newydd yn dal i lygadu’r trebl domestig ac yn anelu i fod y tîm cyntaf i fynd drwy’r tymor cyfan heb golli gêm gynghrair ers i’r Barri wneud hynny yn 1997/98. 

Yn y ras am yr ail safle, mae Cei Connah angen saith pwynt o’u pedair gêm olaf i sicrhau’r ail docyn i Ewrop, ond mae’n debygol y bydd gorffen yn y trydydd safle yn ddigon i gyrraedd Ewrop hefyd, fel sydd wedi digwydd yn y naw tymor diwethaf. 

Bydd y clwb sy’n gorffen ar frig y Chwech Isaf (7fed safle) yn cael cystadlu gyda gweddill clybiau’r Chwech Uchaf yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor am yr un tocyn olaf i Ewrop, tra bydd y ddau dîm isa’n y tabl yn syrthio i’r ail haen. 

 

CHWECH UCHAF 

Cei Connah (2il) v Y Drenewydd (6ed) | Dydd Gwener – 12:30 

Mae Cei Connah wedi sicrhau eu lle yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD am y pedwerydd tro’n eu hanes ar ôl curo’r Bala o gôl i ddim yn Llandudno nos Sadwrn. 

Aron Williams oedd yr arwr annisgwyl i’r Nomadiaid yn sgorio unig gôl y gêm wedi 89 munud gan rwydo ei gôl gyntaf i’r clwb ers Hydref 2021. 

Bydd Cei Connah yn herio unai Met Caerdydd neu’r Seintiau Newydd yn y rownd derfynol ar ddydd Sul, 28 Ebrill yn Rodney Parade, Casnewydd. 

Cyn hynny, bydd Neil Gibson yn gobeithio y gall ei garfan gadarnhau eu lle’n Ewrop drwy orffen yn ail yn y tabl, ond mae gemau caled o’u blaenau ac mae’r Bala’n barod i fanteistio ar unrhyw fagliad cyn diwedd y tymor. 

Chwe phwynt sydd rhwng Cei Connah (2il) a’r Bala (3ydd) gyda pedair gêm yn weddill, ac ar bapur, hon yw gêm hawsaf y Nomadiaid felly bydd dim llai na thriphwynt yn plesio Neil Gibson ddydd Gwener. 

Mae Cei Connah wedi colli eu tair gêm gynghrair ddiwethaf, ac yn benderfynol o beidio colli pedair yn olynol am y tro cyntaf ers 2013. 

Ar ôl colli naw o’u 10 gêm ddiwethaf, mae safle awtomatig yn Ewrop wedi llithro o afael Y Drenewydd, ond mi fyddan nhw’n awyddus i wella safon eu perfformiadau cyn y gemau ail gyfle hollbwysig ar ddiwedd y tymor. 

Mae Cei Connah wedi curo’r Drenewydd deirgwaith yn barod y tymor hwn gyda Jordan Davies yn sgorio pedair gôl, a’r Nomadiaid fydd y ffefrynnau ar Gae y Castell unwaith eto ar ôl colli dim ond un o’u 19 gêm flaenorol yn erbyn y Robiniaid (ennill 14, cyfartal 4). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Cei Connah: ❌❌❌✅✅ 

Y Drenewydd: ❌✅❌❌❌ 

 

CHWECH ISAF 

Bae Colwyn (12fed) v Aberystwyth (11eg) | Dydd Gwener – 12:30 (Arlein) 

Bydd Bae Colwyn ac Aberystwyth yn brwydro am eu bywydau ar Ffordd Llanelian ddydd Gwener yng ngêm bwysica’r tymor i’r ddau glwb. 

Bae Colwyn (19pt) sydd ar waelod y tabl, wedi chwarae un gêm yn fwy nac Aberystwyth (20pt) a Phontypridd (21pt), ac felly mae’n hanfodol bod tîm Steve Evans yn osgoi colled os am obaith gwirioneddol o osgoi’r cwymp eleni. 

Does neb wedi colli mwy, ennill llai, nac ildio mwy o goliau na Bae Colwyn y tymor hwn, ac ar ôl dioddef crasfa o 5-0 ym Mhen-y-bont yn eu gêm ddiwethaf, mae pethau’n edrych yn ddu ar y Gwylanod. 

Mae Aberystwyth yn un o’r ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers ffurfio’r gynghrair yn 1992 (gyda’r Drenewydd), ac ar ôl osgoi’r cwymp o drwch blewyn ar y penwythnos ola’r tymor diwethaf, mae’r Gwyrdd a’r Duon yn chwarae gyda tân eto eleni. 

Aberystwyth sydd wedi sgorio’r nifer lleiaf o goliau’n y gynghrair y tymor hwn (21 gôl mewn 27 gêm), a dyw tîm Anthony Williams heb ennill oddi cartref ers mis Tachwedd. 

Bae Colwyn sydd wedi cal y gorau o bethau yn y gemau blaenorol rhwng y clybiau’r tymor yma, yn ennill dwy o’r dair gornest hyd yma. 

Mae cur pen ychwanegol gan y Gwyrdd a’r Duon gan eu bod yn wynebu cosb gan y gynghrair wedi i’w gêm yn erbyn Pontypridd gael ei gohirio fis yma am i Aberystwyth geisio chwarae’r gêm heb ffisiotherapydd cymwys ar y fainc. 

Mae canlyniad yr achos yn siwr o ddylanwadu’r sefyllfa ar waelod y tabl, ond bydd angen i garfan Aberystwyth geisio anwybyddu hynny am y tro a cheisio sicrhau nad yw’r clwb yn syrthio o’r gynghrair am y tro cyntaf erioed. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Bae Colwyn: ❌➖➖❌✅ 

Aberystwyth: ͏❌➖➖❌✅ 

 

Y Barri (9fed) v Pen-y-bont (8fed) | Dydd Gwener – 12:30 

Gyda pedair yn gêm yn weddill dyw Pen-y-bont ond un pwynt y tu ôl i Hwlffordd yn y ras am y 7fed safle a lle yn y gemau ail gyfle. 

Mae Pen-y-bont yn sicr yn talu’r pris am eu camgymeriadau gweinyddol oddi ar y cae sydd wedi arwain at chwe phwynt o gosb, gan y byddai tîm Rhys Griffiths bum pwynt yn glir yn y 7fed safle oni bai am y gosb hynny. 

Mae’r Barri wedi cael pum gêm gyfartal yn olynol, ac yn dal heb ennill gêm ers yr hollt, ond ar y llaw arall, dyw’r Dreigiau ond wedi colli unwaith mewn naw gêm (0-3 vs Pontypridd). 

Mae’r ddwy gêm ddiwethaf rhwng y timau yma wedi gorffen yn gyfartal hefyd, ond mae Pen-y-bont wedi bod yn gryf oddi cartref yn ddiweddar gan ennill tair yn olynol (vs Met Caerdydd, Bae Colwyn ac Hwlffordd). 

Sgoriodd blaenwr Pen-y-bont, Keyon Reffell yn y ddwy gêm ddiwethaf yn erbyn Y Barri, gyda’i unig ddwy gôl arall y tymor yma’n dod yn erbyn Bae Colwyn. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Barri: ➖➖➖➖➖ 

Pen-y-bont: ✅✅❌➖➖ 

Pontypridd (10fed) v Hwlffordd (7fed) | Dydd Gwener – 12:30 

Er gwaetha’r naw pwynt o gosb mae Pontypridd yn benderfynol o osgoi’r cwymp eleni, ac mae tîm Gavin Allen yn dechrau’r penwythnos un pwynt uwchben safleoedd y cwymp gyda gêm wrth gefn. 

Mae Pontypridd ar rediad o chwe gêm heb golli (ennill 4, cyfartal 2) a dyw’r clwb heb golli gêm ers i Gavin Allen gymryd yr awennau ym mis Chwefror. 

Roedd hi’n stori debyg i Bontypridd y tymor diwethaf hefyd gyda’r clwb yn colli dim ond unwaith wedi’r hollt, a daeth y golled honno yn erbyn Hwlffordd ym mis Ebrill.  

Ond ers y golled honno, dyw Pontypridd heb golli mewn tair gêm yn erbyn Hwlffordd (ennill 1, cyfartal 2) gan ildio dim ond un gôl dros gyfnod o dair gêm. 

Hwlffordd sy’n parhau i arwain y ffordd yn y ras am y 7fed safle, ac ar ôl blasu buddugoliaeth am y tro cyntaf ers mis Rhagfyr yn eu gêm flaenorol yn erbyn Aberystwyth bydd yr Adar Gleision yn gobeithio am ddiweddglo cadarn i’r tymor er mwyn cyrraedd y gemau ail gyfle am yr ail flwyddyn yn olynol. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Pontypridd: ➖✅✅➖✅ 

Hwlffordd: ͏✅❌➖➖➖ 

 

ROWND GYNDERFYNOL CWPAN CYMRU JD 

Met Caerdydd v Y Seintiau Newydd | Dydd Sadwrn – 17:15
(Parc Latham, Y Drenewydd) 

Efallai bod breuddwyd y quadruple ar ben, ond mae’r trebl yn dal ar y cardiau i’r Seintiau Newydd fydd yn gobeithio camu i rownd derfynol Cwpan Cymru ddydd Sadwrn. 

Bydd y golled o 2-1 yn erbyn Aidrieonians yn ergyd mawr i dîm Craig Harrison oedd heb golli mewn 41 o gemau (ennill 39, cyfartal 2) ers y golled ar Awst y 1af yn erbyn Swift Hesperange o Lwcsembwrg. 

Ond o ran clybiau Cymru, does neb wedi gallu curo’r Seintiau Newydd ers i Met Caerdydd wneud hynny mewn gêm gynghrair ym mis Chwefror llynedd (Met 3-2 YSN). 

Ers y gêm honno, mae’r clybiau wedi cyfarfod bedair gwaith a teg dweud bod y Seintiau wedi chwalu’r myfyrwyr ym mhob un o’r gemau rheiny (YSN 7-1 Met, Met 1-5 YSN, YSN 8-0 Met, YSN 4-0 Met). 

Mae’r Seintiau wedi sgorio oleiaf pedair gôl mewn chwech o’u saith gêm flaenorol yn erbyn Met Caerdydd, ac mae prif sgoriwr y gynghrair, Brad Young wedi rhwydo wyth gôl mewn tair gêm yn erbyn Met Caerdydd y tymor hwn, yn cynnwys hatric yn y ddwy gêm ddiwethaf. 

Dyma’r 25ain tro i’r clybiau yma gyfarfod mewn gêm gystadleuol, ond dyw’r timau erioed wedi mynd benben yng Nghwpan Cymru yn y gorffennol. 

Cyrhaeddodd Met Caerdydd y rownd gynderfynol ddwywaith yn olynol yn 2019 a 2020, ond ers ffurfio’r clwb presennol yn 2000, dyw’r myfyrwyr erioed wedi cyrraedd y ffeinal. 

Ers colli yn erbyn Cei Connah yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru 2017/18, mae’r Seintiau Newydd wedi ennill 24 gêm yn olynol yn y gystadleuaeth gan godi’r gwpan deirgwaith yn olynol. 

Y tymor diwethaf fe enillodd y Seintiau o 6-0 yn rownd derfynol Cwpan Cymru yn erbyn Y Bala, sef y fuddugoliaeth fwyaf mewn ffeinal ers 1931. 

Dyna oedd y 9fed tro i’r clwb o Groesoswallt gael eu henw ar y cwpan, a bellach dim ond Wrecsam (23), Caerdydd (22) ac Abertawe (10) sydd â record well yn y gystadleuaeth. 

Mae’r Seintiau Newydd wedi cyrraedd saith o’r wyth rownd derfynol ddiwethaf, gan ennill chwech o’r rheiny yn erbyn chwe clwb gwahanol (Aberystwyth, Y Drenewydd, Airbus UK, Cei Connah, Pen-y-bont, Y Bala). 

Mae’r Seintiau wedi llwyddo i osgoi clybiau’r uwch gynghrair yn y gwpan hyd yma gan sgorio 20 ac ildio dim ond un gôl mewn pedair gêm, tra bod Met Caerdydd wedi ennill gemau agos yn erbyn Hwlffordd a Bae Colwyn yn y ddwy rownd flaenorol. 

 

Rownd Wyth Olaf: Met Caerdydd 3-2 Bae Colwyn, Llansawel 1-5 YSN 

4edd Rownd: Hwlffordd 1-1(cos) Met Caerdydd, Caerfyrddin 0-3 YSN 

3edd Rownd: Met Caerdydd 2-1 Yr Wyddgrug, YSN 7-0 Adar Gleision Trethomas
2il Rownd: Met Caerdydd 4-0 Cwmbrân, Rhuthun 0-5 YSN 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos i’w weld ar S4C nos Lun. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?