S4C

Navigation

Chwe gêm i fynd yn y tymor ac wedi sawl canlyniad annisgwyl y penwythnos diwethaf mae cymaint yn dal yn y fantol ym mhob pen y tabl. 

 

CHWECH UCHAF 

Caernarfon (6ed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Wener – 19:45 

Roedd nifer wedi amau y byddai’r Seintiau Newydd yn gorffwys ar eu rhwyfau ar ôl sicrhau’r bencampwriaeth, ac efallai mae dyna arweiniodd at y golled yn erbyn Y Drenewydd nos Wener diwethaf, wrth i dîm Anthony Limbrick golli gartref am y tro cyntaf ers bron i flwyddyn (YSN 0-1 Dre). 

Caernarfon oedd y tîm diwethaf i gadw llechen lân yn Neuadd y Parc ‘nôl ym mis Ebrill 2021, a doedd Y Seintiau heb golli mewn 14 gêm cyn nos Wener (ennill 12, cyfartal 2). 

Ar ôl colli 2-0 yn erbyn Y Bala nos Wener, mae Caernarfon bellach chwe phwynt y tu ôl i griw Colin Caton yn y ras am yr ail safle.  

Dyw’r Seintiau heb golli dim un o’u chwe gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon (ennill 5, cyfartal 1), ac fe sgoriodd tîm Anthony Limbrick naw gôl mewn dwy gêm yn erbyn y Cofis yn rhan gynta’r tymor (YSN 5-3 Cfon, Cfon 0-4 YSN). 

Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ✅✅❌✅❌
Y Seintiau Newydd: ➖✅✅➖❌
 

 

Y Drenewydd (3ydd)  v Y Fflint (5ed) | Dydd Sadwrn – 12:45 

Bu buddugoliaethau annisgwyl i’r ddau dîm y penwythnos diwethaf i gadw eu breuddwydion o gyrraedd Ewrop yn fyw. 

Sgoriodd Nick Rushton yr unig gôl yn erbyn Y Seintiau Newydd i gadw’r Drenewydd o fewn dau bwynt i’r Bala, a Mark Cadwallader rwydodd y gôl fuddugol i’r Fflint yn erbyn Pen-y-bont (1-0) gan ddod a’u rhediad o saith gêm heb ennill i ben. 

Enillodd Y Fflint eu gêm gartref yn erbyn Y Drenewydd yn rhan gynta’r tymor (4-1), ond Y Drenewydd oedd yn fuddugol ar Barc Latham ym mis Rhagfyr (2-0), ac yn rhyfeddol fe gafodd blaenwr profiadol Y Fflint, Michael Wilde ei hel o’r maes yn y ddwy gêm. 

Byddai triphwynt yn codi tîm Neil Gibson yn hafal ar bwyntiau gyda’r Drenewydd, ond dyw’r Fflint heb ennill gêm gynghrair oddi cartref yn erbyn y Robiniaid ers 25 mlynedd (1995/96). 

Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ❌❌✅❌✅
Y Fflint: ➖❌❌❌✅
 

 

Pen-y-bont (4ydd) v Y Bala (2il) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Gan i Ben-y-bont faglu yn Y Fflint brynhawn Sadwrn, mae’r Bala wedi camu ddau bwynt yn glir yn y ras am yr ail safle a thocyn i Ewrop. 

Dyw Pen-y-bont ond wedi ennill un o’u chwe gêm gynghrair ddiwethaf, tra bo’r Bala ond wedi colli un o’u 11 gêm gynghrair ddiwethaf. 

Ar ôl gêm ddi-sgôr roedd angen ciciau o’r smotyn i wahanu’r ddau dîm yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru fis diwethaf, a Phen-y-bont oedd yn dathlu wrth selio eu lle yn y rownd derfynol am y tro cyntaf yn eu hanes. 

Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ➖❌➖✅❌
Y Bala: ➖✅❌✅✅
 

 

CHWECH ISAF 

Cei Connah (10fed) v Aberystwyth (9fed) | Nos Wener – 19:45 

Roedd hi’n fuddugoliaeth anferthol i Aberystwyth yn erbyn Y Barri’r penwythnos diwethaf wrth i’r Gwyrdd a’r Duon ddod a rhediad o chwe gêm heb ennill i ben gan agor pum pwynt rhyngddyn nhw a’r Dreigiau yn safleoedd y cwymp. 

Ac roedd ‘na ryddhad i’r Nomadiaid hefyd gan iddyn nhw gamu allan o safleoedd y cwymp am y tro cyntaf ers derbyn 18 pwynt o gosb yn dilyn eu gêm ddi-sgôr yn Hwlffordd. 

Bydd Cei Connah yn anelu i ymestyn eu rhediad o chwe gêm gynghrair heb golli, gan nad yw’r Nomadiaid wedi colli dim un o’u naw gêm flaenorol yn erbyn Aberystwyth (ennill 8, cyfartal 1). 

Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ✅➖✅✅➖
Aberystwyth: ➖➖❌❌✅
 

 

Met Caerdydd (8fed) v Hwlffordd (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Bydd Met Caerdydd yn awyddus i roi embaras y penwythnos diwethaf y tu ôl iddyn nhw’n sydyn wrth i’r myfyrwyr ddod y tîm cyntaf i golli gêm gynghrair yn erbyn Derwyddon Cefn y tymor hwn. 

Honno oedd colled gyntaf Met Caerdydd yn y gynghrair ers mis Tachwedd wedi cyfnod o 11 gêm gynghrair heb golli. 

Wedi chwe gêm heb golli mae Hwlffordd wedi dringo uwchben y myfyrwyr, a’r Adar Gleision bellach sydd yn y arwain y ras am y 7fed safle i gyrraedd y gemau ail gyfle ar gyfer lle yn Cwpan Her yr Alban. 

Hon fydd y bedwaredd gêm rhwng y timau’r tymor hwn a does dim posib gwahanu’r clybiau hyd yma (Met Caerdydd yn ennill un, Hwlffordd yn ennill un, ac un gêm gyfartal). 

Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ➖➖͏✅➖❌
Hwlffordd: ✅✅✅✅➖
 

 

Y Barri (11eg) v Derwyddon Cefn (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Hir yw pob ymaros, ond wedi 11 mis a 34 gêm gynghrair heb fuddugoliaeth fe gafodd Derwyddon Cefn reswm i ddathlu o’r diwedd wrth i dîm Andy Turner ennill 2-0 yn erbyn Met Caerdydd brynhawn Sadwrn. 

Mae’r triphwynt wedi dyblu cyfanswm pwyntiau’r Derwyddon y tymor hwn, ac er bod hi’n amhosib i Hogiau’r Graig osgoi’r cwymp, bydd y fuddugoliaeth wedi rhoi hwb i’r garfan ar gyfer gweddill y tymor. 

Roedd yr hwyliau’n dra gwahanol yn ystafell newid Y Barri’r penwythnos diwethaf, wrth i’r Dreigiau lithro i safleoedd y cwymp am y tro cyntaf y tymor hwn. 

Ond bydd Gavin Chesterfield yn ffyddiog o sicrhau buddugoliaeth brynhawn Sadwrn gan i’r Dreigiau ennill wyth o’u naw gêm flaenorol yn erbyn y Derwyddon. 

Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ❌❌❌➖❌
Derwyddon Cefn: ❌➖❌❌✅
 

 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?