Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod cyfnod clo cenedlaethol rhwng ddydd Gwener, 23 Hydref a ddydd Llun 9 Tachwedd, gyda’r cyfnod yn cael effaith ar amserlen bêl-droed yng Nghymru.
- Bydd Cymru Premier yn gohirio pob gêm sy’n cynnwys clybiau sydd ddim yn broffesiynol yn ystod y cyfnod hwn.
- Hefyd bydd holl gemau Uwch Gynghrair Merched Cymru Orchard yn ystod y cyfnod hwn yn cael eu gohirio.
- Bydd clybiau sydd â digon o chwaraewyr, hyfforddwyr a staff proffesiynol yn cael ail-drefnu eu gemau er mwyn caniatáu iddynt barhau i chwarae – yn unol â chanllawiau Covid Llywodraeth Cymru.
Oherwydd yr uchod bydd addasiad i’r gemau byw, gyda’r Seintiau Newydd v Hwlffordd yn fyw nos Sadwrn (24/10) am 5, gyda’r gic gyntaf am 5.15 ar Neuadd y Parc.
Bydd Y Bala yn teithio i Hwlffordd ar ddydd Sadwrn 31 Hydref yn fyw ar Sgorio, gyda’r darllediad i ddechrau am 5, gyda’r gic gyntaf am 5.15.
Ar ddydd Sadwrn 7 Tachwedd bydd Y Bala yn croesawu Y Seintiau Newydd i Faes Tegid gyda’r darllediad i ddechrau am 5, gyda’r gic gyntaf am 5.15.