Y Seintiau Newydd sy’n arwain y ffordd yn y Cymru Premier wedi’r 13 gêm agoriadol, ac mae’r pencampwyr chwe phwynt yn glir ar frig y tabl ar ôl 12 buddugoliaeth yn olynol.
Cei Connah sy’n cadw’r pwysau ar griw Croesoswallt gan i’r Nomadiaid ennill pum gêm gynghrair o’r bron i godi i’r ail safle.
Bydd hi’n gêm hollbwysig rhwng Trefelin a’r Fflint nos Wener gyda’r ddau dîm yn awyddus i ddringo o safleoedd y cywmp.
Yng nghanol y tabl bydd Cambrian yn croesawu Airbus wrth i’r clybiau geisio gwthio am le yn y Chwech Uchaf.
Nos Wener, 23 Hydref
Bae Colwyn (5ed) v Met Caerdydd (7fed) v | Nos Wener – 19:45
Mae Bae Colwyn a Met Caerdydd wedi camu ymlaen i drydedd rownd Cwpan Cymru ar ôl buddugoliaethau yn erbyn clybiau o’r adrannau îs y penwythnos diwethaf.
Enillodd Met Caerdydd yn gyfforddus o 4-0 yn erbyn Ynyshir, ond doedd hi ddim yn brynhawn hawdd i Fae Colwyn ym Mwcle gyda’r Gwylanod yn ennill y gêm ar giciau o’r smotyn, ac hynny ar ôl i’r golwr Mark Halstead sgorio gôl hwyr i dîm Michael Wilde i unioni pethau yn y funud olaf (Bwc 2-2 Bae).
Bae Colwyn yn osgoi bagliad o drwch blewyn felly, ac mae’r sylw’n troi’n ôl at y gynghrair ble mae eu rhediad diweddar wedi bod yn gampus gan i’r Gwylanod ennill pump o’u chwe gêm gynghrair ddiwethaf.
Mae gan Fae Colwyn record gartref berffaith y tymor hwn ar ôl ennill pob un o’u chwe gêm ar Ffordd Llanelian gan ildio dim ond deirgwaith.
Ond does neb wedi ildio llai o goliau oddi cartref na Met Caerdydd, gyda’r myfyrwyr yn ildio dim ond tair gôl mewn chwe gêm oddi cartref hyd yma.
Di-sgôr oedd hi yn yr ornest ddiwethaf rhwng y clybiau a dyw Bae Colwyn erioed wedi colli gartref yn erbyn Met Caerdydd (ennill 1, cyfartal 2).
Record cynghrair diweddar:
Bae Colwyn: ͏✅✅✅❌✅
Met Caerdydd: ͏❌➖✅✅❌
Caernarfon (4ydd) v Llansawel (11eg) | Nos Wener – 19:45
Ar ôl curo’r Fflint yn rownd derfynol Cwpan Cymru 2025/26, mae Caernarfon wedi camu ymlaen i drydedd rownd y gystadleuaeth eleni ar ôl buddugoliaeth arall yn erbyn y Sidanwyr (Ffl 1-3 Cfon).
Mae Llansawel hefyd ymlaen i’r rownd nesaf ar ôl rhoi crasfa o 5-0 i Afan United, gyda’r hen ben Luke Bowen yn taro hatric i’r Cochion, ond bydd hi’n her anos yn y drydedd rownd, oddi cartref yn erbyn Y Seintiau Newydd.
O ran y gynghrair, mae cardiau coch wedi bod yn thema amlwg yng ngemau diweddar Caernarfon, gyda saith cerdyn coch wedi eu dangos yn y chwe gêm ddiwethaf, a chwech o’r rheiny i wrthwynebwyr y Cofis.
Er hynny, dyw’r Caneris m’ond wedi ennill dwy o’u pum gêm gynghrair ddiwethaf, gan fethu â churo Llandudno, Met Caerdydd na’r Barri.
Capten Llansawel, Alex Gammond, yw’r chwaraewr â’r record ddisgyblaeth waetha’n y gynghrair hyd yma (1 coch, 4 melyn), ac mae clwb yr Hen Heol wedi gweld dau o gardiau coch yn eu tair gêm gynghrair ddiwethaf.
Ar ôl ennill dim ond un o’u naw gêm gynghrair ddiwethaf, mae’r pwyntiau wedi bod yn brin i Lansawel, a dyw tîm Andy Dyer heb ennill dim un o’u pedair gêm yn erbyn Caernarfon ers eu dyrchafiad yn 2024.
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ͏➖✅➖❌✅
Llansawel: ͏❌➖➖✅❌
Cambrian (9fed) v Airbus UK Brychdyn (8fed) | Nos Wener – 19:45
Bydd Cambrian yn croesawu Bangor 1876 yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru ar ôl curo Trethomas yn gyfforddus y penwythnos diwethaf (Cam 5-0 Tre).
Doedd hi ddim i fod i Airbus, er iddyn nhw wthio’r ffefrynnau Y Seintiau Newydd yr holl ffordd, roedd hi’n dorcalon i fechgyn Brychdyn wrth ildio yn y funud olaf (Air 1-2 YSN).
Mae Cambrian wedi colli tair o’u pedair gêm gynghrair ddiwethaf gan weld pedwar o gardiau coch yn ystod y cyfnod hwnnw, sy’n golygu mae nhw sydd â’r record ddisgyblaeth waetha’n y gynghrair.
Collodd Cambrian o 9-1 yng Nghaernarfon fis diwethaf, ac yna o 9-0 yn erbyn y Seintiau, sy’n golygu mae dim ond Treffynnon (44) sydd wedi ildio mwy o goliau na charfan y Rhondda (33) y tymor hwn.
Airbus yw’r unig dîm sydd heb gael gêm gyfartal y tymor yma, ac ar ôl tair buddugoliaeth yn eu pedair gêm gynghrair ddiwethaf mae criw Mark Allen yn anelu am y Chwech Uchaf.
Triphwynt sy’n gwahanu’r ddau glwb yng nghanol y tabl yn eu tymor cyntaf ers eu dyrchafiad dros yr haf, ac hon fydd yr ornest gyntaf erioed rhwng y ddau glwb.
Record cynghrair diweddar:
Cambrian: ͏✅❌✅❌❌
Airbus UK: ͏❌✅❌✅✅
Trefelin (15fed) v Y Fflint (14eg) | Nos Wener – 19:45
Mae hi wedi bod yn bythefnos buddiol i Trefelin wrth iddyn nhw ennill eu gêm gyntaf erioed yn yr uwch gynghrair yn erbyn Met Caerdydd, ac yna curo Llanilltud Fawr i gyrraedd trydedd rownd Cwpan Cymru.
Yr her nesaf i dîm Andy Hill yw ceisio sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf gartref yn y Cymru Premier, ac hynny yn erbyn Y Fflint, sydd m’ond wedi ennill un o’u saith gêm oddi cartref hyd yma.
Dyw Trefelin m’ond wedi sgorio dwy gôl mewn chwe gêm gartref yn y gynghrair y tymor yma, gan gipio dim ond un pwynt o’r 18 posib.
Enillodd Danny Holmes ei ddwy gêm gyntaf fel rheolwr Y Fflint, ond mae’r Sidanwyr wedi colli dwy yn olynol ers hynny, yn cynnwys colled o 1-3 yn erbyn Caernarfon yng Nghwpan Cymru nos Sadwrn diwethaf.
Hon fydd yr ornest gyntaf erioed rhwng y ddau glwb a gyda dim ond dau bwynt yn gwahanu’r ddau glwb, mae hi’n ornest hollbwysig yn y frwydr i osgoi’r cwymp.
Record cynghrair diweddar:
Trefelin: ͏❌➖❌❌✅
Y Fflint: ͏❌❌✅✅❌
Treffynnon (16eg) v Pen-y-bont (3ydd) | Nos Wener – 19:45
Ar ôl dechrau trychinebus i’r tymor yn yr uwch gynghrair, bu bron iddi fod yn brynhawn o embaras pellach i Dreffynnon dros y penwythnos wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal yn erbyn Llay Welfare, sy’n 11eg yng nghynghrair yr Ardal Gogledd Orllewin (3edd haen).
Ond y clwb o’r Cymru Premier oedd yn fuddugol ar giciau o’r smotyn, a bydd Treffynnon yn wynebu’r deiliaid, Caernarfon, yn y rownd nesaf.
Mae Treffynnon wedi cael dechrau hunllefus i’r tymor, yn sicrhau dim ond dau bwynt o’u 13 gêm agoriadol gan ildio 44 o goliau (3.4 gôl y gêm).
Mae Pen-y-bont wedi camu ymlaen i drydedd rownd y gwpan ar ôl curo Lido Afan – eu 7fed buddugoliaeth yn eu wyth gêm ddiwethaf.
Fe wnaeth y clybiau gyfarfod yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru 2022/23 pan enillodd Pen-y-bont o 2-1 diolch i gic o’r smotyn hwyr Nathan Wood.
Record cynghrair diweddar:
Treffynnon: ͏❌❌➖❌❌
Pen-y-bont: ͏✅✅✅❌✅
Y Seintiau Newydd (1af) v Rhydaman (13eg) | Nos Wener – 19:45
Enillodd y Seintiau o 1-2 oddi cartref yn Airbus y penwythnos diwethaf i’w gwneud hi’n 13 buddugoliaeth yn olynol ym mhob cystadleuaeth.
Mae’r pencampwyr chwe phwynt yn glir ar frig y tabl ac i weld yn hwylio tuag at eu chweched pencampwriaeth o’r bron.
Mae golwr y Seintiau, Nathan Shepperd wedi llwyddo i gadw saith llechen lân mewn 13 gêm gynghrair gan ildio dim ond chwe gôl hyd yma.
Llwyddodd Rhydaman i hawlio lle yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru hefyd ar ôl curo Cwmaman, ac mae tîm Wyn Thomas yn mwynhau eu cyfnod gorau y tymor yma ar ôl ennill eu tair gêm ddiwethaf.
Mae’r Seintiau wedi sgorio 25 o goliau yn eu pum gêm gynghrair ddiwethaf (5 gôl y gêm), a bydd blaenwyr Croesoswallt yn llyfu eu gweflau felly cyn yr ornest gyntaf erioed rhwng y ddau glwb.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ͏͏✅✅✅✅✅
Rhydaman: ͏➖❌❌✅✅
Dydd Sadwrn, 24 Hydref
Cei Connah (2il) v Llandudno (10fed) | Dydd Sadwrn – 12:30
Mae Cei Connah a Llandudno wedi sicrhau eu lle yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru ar ôl curo clybiau o’r adrannau is y penwythnos diwethaf.
Roedd hi’n fuddugoliaeth gyfforddus o 4-0 i Gei Connah gartref yn erbyn Porthmadog, ond roedd hi’n frwydr agos rhwng Llandudno a Llannefydd gyda Mark Cadwallader yn sgorio unig gôl y gêm i’r clwb o’r uwch gynghrair.
Mae Cei Connah wedi ennill chwe gêm yn olynol erbyn hyn gan godi i’r ail safle, a bydd John Disney yn awyddus i gadw’r pwysau ar y pencampwyr.
Mae Llandudno wedi colli eu pedair gêm gynghrair ddiwethaf gan gipio dim ond un pwynt mewn chwe gêm yn y Cymru Premier.
Fe wnaeth y clybiau gyfarfod yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru y tymor diwethaf pan achosodd Llanududno dipyn o sioc drwy ennill o 2-1 diolch i goliau Ben Maher a Ross Weaver.
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ͏✅✅✅✅✅
Llandudno: ͏➖❌❌❌❌
Y Barri (6ed) Hwlffordd (12fed) v | Dydd Sadwrn – 17:15 (Yn fyw arlein)
Mae’r Barri a Hwlffordd yn ddiogel ymlaen i rownd nesa’r gwpan ar ôl curo clybiau o’r haen îs yn yr ail rownd gyda’r Barri’n trechu Tredegar (2-0) a Hwlffordd yn hwylio heibio’r Draconiaid (4-0).
Ond tydi pethau ddim yn mynd gystal yn y gynghrair gyda’r Barri wedi ennill dim ond un o’u tair diwethaf, ac Hwlffordd wedi colli pedair yn olynol.
Does neb wedi sgorio llai o goliau na Hwlffordd y tymor yma (8 gôl mewn 13 gêm), gyda dim ond un o’r goliau rheiny yn cael ei sgorio oddi cartref.
Gyda dim ond un buddugoliaeth yn eu pum gêm gynghrair ddiwethaf mae’r Barri mewn perygl o lithro allan o’r Chwech Uchaf.
Roedd Y Barri wedi mynd ar rediad o bum gêm heb golli yn erbyn Hwlffordd cyn i’r Adar Gleision guro’r Dreigiau ar giciau o’r smotyn yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle ar Barc Jenner ym mis Ebrill.
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ͏➖❌❌✅❌
Hwlffordd: ͏✅❌❌❌❌




