Fe lwyddodd 11 o dimau’r Cymru Premier i sicrhau eu lle yn 16 olaf Cwpan Cymru y penwythnos diwethaf, ond mae’r sylw’n troi’n ôl at y gynghrair nos Wener yma.
Dros hanner ffordd at yr hollt yn y gynghrair ac mae’r Seintiau Newydd yn parhau’n ddi-guro, gyda’r pencampwyr chwe phwynt yn glir ar frig y tabl.
Bydd dwy gêm fawr yn cael ei chwarae yn y Chwech Uchaf nos Wener wrth i Airbus anelu i godi uwchben Bae Colwyn, a Chaernarfon yn ceisio cwblhau’r dwbl dros Cei Connah.
Ac mae’n ddiwedd cyfnod yn Sir Benfro wedi i Tony Pennock gyhoeddi’r wythnos hon ei fod yn gadael ei rôl fel rheolwr Hwlffordd ar ôl pedair blynedd a hanner wrth y llyw.
Nos Wener, 20 Tachwedd
Airbus UK Brychdyn (5ed) v Bae Colwyn (4ydd) | Nos Wener – 19:45
Mae Airbus wedi ennill pum gêm yn olynol yn y Cymru Premier am y tro cyntaf yn eu hanes.
Mae George Peers yn arwain y ras am yr Esgid Aur ar ôl sgorio 17 o goliau, ac fe gafodd ei enwi fel Chwaraewr y Mis ar gyfer mis Hydref ar ôl rhwydo naw gôl mewn pedair gêm gynghrair.
Mae Bae Colwyn wedi codi i’r 4ydd safle ar ôl colli dim ond un o’u 11 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth (Llansawel 1-0 Bae Colwyn).
Ar ôl curo Aberystwyth o 2-0 ddydd Sadwrn diwethaf, bydd Bae Colwyn yn wynebu Caerau Trelai ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru fis nesaf.
Adam Davies oedd yr arwr i Fae Colwyn yn y gêm gyfatebol ym mis Awst, gyda’r blaenwr yn penio unig gôl y gêm yn erbyn ei gyn-glwb (Bae 1-0 Air).
Record cynghrair diweddar:
Airbus UK: ͏✅✅✅✅✅
Bae Colwyn: ͏❌✅➖✅✅
Caernarfon (6ed) v Cei Connah (2il) | Nos Wener – 19:45
Mae Caernarfon wedi llithro i’r 6ed safle ar ôl colli eu dwy gêm gynghrair ddiwethaf, ond roedd y Cofis yn dathlu nos Wener ar ôl curo Treffynnon o 4-0 yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru.
Mi fydd deiliaid y cwpan, Caernarfon, yn wynebu Cambrian yn y rownd nesaf, sef eu trydydd gwrthwynebwyr o’r haen uchaf, ar ôl i’r Caneris drechu’r Fflint yn yr ail rownd.
Bydd Cei Connah hefyd yn herio clwb o’r Cymru Premier yn y rownd nesaf gyda’r Nomadiaid yn teithio i’r Barri ar gyfer y bedwaredd rownd ar ôl curo Porthmadog a Mochdre hyd yma.
Mae Cei Connah wedi mynd ar rediad o 10 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth (ennill 9, cyfartal 1) gan ildio dim ond dwy gôl yn ystod y cyfnod hwnnw.
Sgoriodd Sion Bradley a Zack Clarke y goliau i Gaernarfon i guro’r Nomadiaid ar benwythnos agoriadol y tymor (Cei 1-2 Cfon).
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ͏❌✅✅❌❌
Cei Connah: ͏✅✅✅➖✅
Llandudno (10fed) v Y Barri (7fed) | Nos Wener – 19:45
Bydd Llandudno yn benderfynol o ddod â’u rhediad gwael i ben nos Wener wedi i dîm Jordan Hadaway golli eu saith gêm gynghrair ddiwethaf.
Enillodd Llandudno bump o’u saith gêm agoriadol, ond mae’r newydd-ddyfodiaid wedi stryffaglu ers hynny gan gasglu dim ond un pwynt o’u naw gêm gynghrair ddiwethaf, a sgorio dim ond un gôl mewn pum gêm gynghrair.
Ond doedd sgorio ddim yn broblem brynhawn Sadwrn wrth i Landudno guro’r Felinheli o 6-1 i sicrhau gêm gartref arall yn erbyn Rockspur ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru.
Doedd hi ddim yn broses mor hawdd i’r Barri i gyrraedd y bedwaredd rownd wrth iddyn nhw guro Dreigiau Baglan ar giciau o’r smotyn wedi i Noah Daley rwydo gôl hwyr iawn i achub tîm Steve Jenkins.
Bydd Y Barri’n croesawu Cei Connah i Barc Jenner fis nesaf yn un o gemau mwyaf deiniadol y bedwaredd rownd.
Am y tro cyntaf y tymor yma, mae’r Barri wedi syrthio allan o’r Chwech Uchaf ar ôl ennill dim ond dwy o’u wyth gêm gynghrair ddiwethaf.
Ond mae’r Barri wedi ennill pump o’u chwe gornest ddiwethaf yn erbyn Llandudno yn cynnwys buddugoliaeth gyfforddus o 4-1 yn y gêm gyfatebol ar Barc Jenner ym mis Medi.
Record cynghrair diweddar:
Llandudno: ͏❌❌❌❌❌
Y Barri: ͏✅❌❌✅➖
Llansawel (12fed) v Treffynnon (16eg) | Nos Wener – 19:45
Bydd Llansawel a Treffynnon yn gallu canolbwyntio’n gyfan gwbl ar y gynghrair am weddill y tymor wedi i’r ddau glwb gael eu gyrru allan o’r gwpan nos Wener.
Collodd Llansawel o 5-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd, ac fe gafodd Treffynnon eu trechu o 4-0 yng Nghaernarfon.
Er colli tair o’u pedair gêm gynghrair ddiwethaf, dyw Llansawel m’ond un pwynt y tu ôl i Llandudno (10fed), a bydd y Cochion yn anelu i ddringo allan o’r Chwech Isaf nos Wener.
Dyw Treffynnon heb ennill dim un o’u 15 gêm gynghrair ers eu dyrchafiad, gan golli pob un o’u saith gêm oddi cartref hyd yma.
Dim ond dau bwynt sydd gan Treffynnon y tymor hwn, ac fe ddaeth un o’r pwyntiau rheiny yn y gêm gyfatebol yn erbyn Llansawel ym mis Medi (Treffynnon 1-1 Llansawel).
Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ͏✅❌❌✅❌
Treffynnon: ͏➖❌❌❌❌
Met Caerdydd (8fed) v Rhydaman (14eg) | Nos Wener – 19:45
Ar ôl curo Ynyshir a Dolgellau mae Met Caerdydd wedi hawlio eu lle ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru ble bydd y myfyrwyr yn croesawu Trefelin i Gampws Cyncoed.
Doedd hi ddim i fod i Rhydaman wrth iddyn nhw golli o 3-1 oddi cartref yn Hwlffordd – eu trydedd colled mewn pedair gêm ym mhob cystadleuaeth.
Dyw Rhydaman m’ond wedi ennill un o’u wyth gêm oddi cartref yn y gynghrair y tymor hwn, a does neb wedi sgorio llai o goliau oddi cartref na thîm Wyn Thomas (5 gôl mewn 8 gêm).
Mae Met Caerdydd wedi ennill pob un o’u pedair gêm flaenorol yn erbyn Rhydaman, yn cynnwys buddugoliaeth swmpus o 0-5 ar Y Rec ym mis Awst ble sgoriodd yr eilydd, Sam Snaith hatric i’r myfyrwyr.
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ͏✅❌➖❌✅
Rhydaman: ͏✅✅❌❌✅
Pen-y-bont (3ydd) v Hwlffordd (11eg) | Nos Wener – 19:45
Wedi pedair blynedd a hanner wrth y llyw, mae Tony Pennock wedi gadael ei rôl fel rheolwr Hwlffordd.
Yn ystod ei gyfnod fe arweiniodd Pennock yr Adar Gleision i’w safle uchaf erioed (3ydd yn 2024/25) gan fynd ymlaen i fwynhau nosweithiau cofiadwy yn Ewrop yn erbyn Shkendija, B36 a Floriana.
Dyw hi heb fod yn dymor gwych i Hwlffordd sydd yn eistedd yn y Chwech Isaf, ond fe wnaeth y tîm ennill yng ngêm olaf Pennock brynhawn Sadwrn gan gamu ymlaen i 16 olaf Cwpan Cymru drwy guro Rhydaman o 3-1 ar Ddôl y Bont, ond mae her a hanner o’u blaenau yn erbyn Y Seintiau Newydd yn y rownd nesaf.
Mae Pen-y-bont wedi ennill 10 o’u 11 gêm ddiwethaf, ac yn cadw’n dynn ar sodlau’r ddau uwch eu pennau, sef Cei Connah a’r Seintiau Newydd.
Enillodd y Gleision o 6-0 yn erbyn Draconiaid Caerdydd nos Wener i sicrhau gêm gartref yn erbyn Hotspur Caergybi ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru.
Honno oedd trydedd llechen lân Pen-y-bont yn olynol a dyw tîm Rhys Griffiths heb golli dim un o’u gemau cartref y tymor yma.
Wrth edrych ar y record benben mae’r fantais seicolegol yn sicr gan Pen-y-bont am eu bod ar rediad o 11 gêm heb golli yn erbyn Hwlffordd (ennill 9, cyfartal 2), a dyw’r Adar Gleision m’ond wedi sgorio ddwywaith yn ystod y rhediad hwnnw.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ͏✅❌✅✅✅
Hwlffordd: ͏❌❌✅✅❌
Y Fflint (13eg) v Cambrian (9fed) | Nos Wener – 19:45
Dim ond dau bwynt sy’n gwahanu’r Fflint a Llandudno (10fed), ac felly bydd y Sidanwyr yn anelu i ddringo allan o’r Chwech Isaf nos Wener.
Mae’r Fflint wedi ennill pedair o’u chwe gêm gynghrair ers penodiad Danny Holmes ym mis Medi gan dorri’n glir o’r ddau isaf.
Mae Cambrian wedi camu ymlaen i bedwaredd rownd Cwpan Cymru ar ôl curo Bangor 1876 nos Sul, ac un arall o gewri Gwynedd sydd i ddod yn y rownd nesaf pan fydd carfan y Rhondda yn teithio i Gaernarfon.
Mae Cambrian wedi colli eu tair gêm gynghrair ddiwethaf oddi cartref, yn cynnwys crasfa o 9-1 yng Nghaernarfon, a 9-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd.
Cic o’r smotyn hwyr Liam Eason oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm yn y gêm gyfatebol ym mis Awst (Cam 1-0 Ffl).
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ͏✅❌✅✅❌
Cambrian: ͏❌❌❌❌➖
Y Seintiau Newydd (1af) v Trefelin (15fed) | Nos Wener – 19:45
Mae’r Seintiau Newydd yn parhau chwe phwynt yn glir ar frig y tabl, ac wedi selio eu lle yn rownd nesaf Cwpan Cymru ar ôl buddugoliaeth gyfforddus o 5-0 yn erbyn Llansawel.
Bydd y Seintiau’n herio Hwlffordd yn y rownd nesaf, tra bydd Trefelin yn wynebu Met Caerdydd ar ôl i dîm Andy Hill guro Coedpoeth o 6-0 ddydd Sadwrn.
Dyw’r Seintiau heb ildio gôl yn eu pedair gêm ddiwethaf, ac mae’r golwr Nathan Shepperd wedi cadw 11 llechen lân mewn 16 gêm gynghrair y tymor hwn, gan ildio dim ond chwe gôl hyd yma (0.4 gôl y gêm).
Does neb wedi sgorio llai o goliau na Trefelin y tymor hwn (9 gôl mewn 16 gêm), ac mae’r newydd-ddyfodiaid yn dal yn safleoedd y cwymp ar ôl ennill dim ond unwaith hyd yma.
Ond fe wnaeth Trefelin lwyddo i sgorio’n erbyn y Seintiau yn y gêm gyfatebol ym mis Medi, er hynny, cewri Croesoswallt oedd yn fuddugol (Tfl 1-3 YSN).
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ͏͏✅✅✅➖✅
Trefelin: ͏❌✅❌❌❌




