Mae’n gaddo i fod yn benwythnos cyffrous yn y Cymru Premier, yn enwedig yn y ras i gyrraedd y Chwech Uchaf.
Dau bwynt sy’n gwahanu Met Caerdydd (8fed) ac Airbus (6ed), a dau bwynt hefyd sydd rhwng Y Barri (7fed) a Chaernarfon (5ed), ac felly bydd canlyniadau’r gemau rheiny yn arwyddocaol wrth i ni agoshau at yr hollt.
Ar waelod y tabl, bydd Treffynnon yn benderfynol o sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf wrth iddyn nhw groesawu Llandudno, sydd heb ennill mewn 10 gêm gynghrair.
Bydd y tîm ar y brig, Y Seintiau Newydd, yn awyddus i barhau â’u record di-guro oddi cartref yn Y Fflint, tra bod Pen-y-bont (2il) a Cei Connah (3ydd) yn wynebu gemau heriol oddi cartref.
Nos Wener, 27 Tachwedd
Bae Colwyn (4ydd) v Rhydaman (14eg) | Nos Wener – 19:45
Mae Bae Colwyn wedi codi i’r 4ydd safle ar ôl colli dim ond un o’u 12 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth (ennill 10, cyfartal 1).
Dyw Rhydaman m’ond wedi ennill un o’u naw gêm oddi cartref yn y gynghrair y tymor hwn (Cam 0-1 Aman), gan golli pob un o’u pedair gêm yn y gogledd hyd yma, ac hynny heb sgorio gôl (Air 2-0 Aman, Lldo 2-0 Aman, Ffl 3-0 Aman, YSN 9-0 Aman).
Fe gafodd prif sgoriwr Rhydaman, Matthew Delaney ei anfon o’r maes yn erbyn Met Caerdydd nos Wener, ac honno oedd 7fed cerdyn coch y tîm y tymor hwn, sef y swm uchaf gan unrhyw glwb o’r gynghrair.
Gorffennodd hi’n 2-2 yn y gêm gyfatebol ar y Rec ym mis Awst ble hawliodd Rhydaman eu pwynt cyntaf erioed yn yr uwch gynghrair.
Record cynghrair diweddar:
Bae Colwyn: ͏✅➖✅✅✅
Rhydaman: ͏✅❌❌✅❌
Cambrian (9fed) v Trefelin (15fed) | Nos Wener – 19:45
Does neb wedi sgorio llai o goliau na Trefelin y tymor hwn (9 gôl mewn 17 gêm), ac mae’r newydd-ddyfodiaid yn dal yn safleoedd y cwymp ar ôl ennill dim ond unwaith hyd yma.
Un cysur i Trefelin yw bod 66% o’u goliau wedi cael eu sgorio oddi cartref, tra bo Cambrian heb ennill yn eu tair gêm gartref ddiwethaf yn y gynghrair.
Mae Cambrian wedi sgorio deirgwaith yn fwy o goliau na Trefelin, ond mae record amddiffynnol y timau yr un fath, gyda’r ddau glwb wedi ildio 41 gôl mewn 17 gêm (2.4 gôl y gêm).
Mae Cambrian wedi ennill o 4-0 yn eu dwy gornest flaenorol yn erbyn Trefelin, yn cynnwys y gêm gyfatebol ar Barc Ynys y tymor hwn, ble sgoriodd Alex John a Liam Eason ddwy gôl yr un.
Record cynghrair diweddar:
Cambrian: ͏❌❌❌➖✅
Trefelin: ͏✅❌❌❌❌
Hwlffordd (12fed) v Cei Connah (3ydd) | Nos Wener – 19:45
Mae Hwlffordd wedi penodi Antonio Corbisiero fel rheolwr dros-dro gyda’r clwb yn parhau i chwilio am apwyntiad parhaol i’r rôl.
Mae gan Corbisiero brofiad o reoli’n y Cymru Premier gydag Aberystwyth, ac fe gafodd gyfnod llewyrchus yn y gynghrair fel chwaraewr gyda Llanelli.
Dyw hi heb fod yn dymor hawdd i Hwlffordd sydd yn dal i geisio dringo allan o’r Chwech Isaf ar ôl colli eu tair gêm gartref ddiwethaf yn y gynghrair.
Er hynny, mae’r Adar Gleision wedi ennill pedair o’u chwe gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth.
Roedd Cei Connah wedi mynd ar rediad o 10 gêm heb golli cyn cael eu curo o 1-0 gan Gaernarfon nos Wener, gyda’r Cofis yn cwblhau’r dwbl dros y Nomadiaid y tymor yma.
Doedd y Nomadiaid heb ildio mewn pum gêm cyn ildio’r gôl hwyr ar yr Oval nos Wener, a bydd John Disney’n disgwyl ymateb gan ei garfan y penwythnos yma.
Mae tair o’r bedair ornest ddiwethaf rhwng y clybiau yma wedi gorffen yn gyfartal, yn cynnwys y gêm gyfatebol ar Gae y Castell ym mis Medi (Cei 1-1 Hwl).
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ͏❌✅✅❌❌
Cei Connah: ͏✅✅➖✅❌
Llansawel (10fed) v Pen-y-bont (2il) | Nos Wener – 19:45
Mae Llansawel wedi codi allan or Chwech Isaf am y tro cyntaf ers mis Awst ar ôl ennill dwy o’u tair gêm gynghrair ddiwethaf.
Ar ôl trechu Treffynnon nos Fawrth, mae Pen-y-bont wedi ennill 12 o’u 13 gêm ddiwethaf, a bellach does dim ond pum pwynt yn gwahanu’r Gleision a’r ceffylau blaen, Y Seintiau Newydd, cyn y gêm fawr rhwng y ddau glwb ymhen pythefnos.
Mae Tom Mehew (sgorio 11, creu 5) wedi serennu i Pen-y-bont ers ymuno dros yr haf, ac ar ôl sgorio chwe gôl yn ei bedair gêm gynghrair ddiwethaf mae Mehew bellach ymysg prif sgorwyr y gynghrair.
Enillodd Pen-y-bont o 3-2 yn y gêm gyfatebol ym mis Medi, a dyw Llansawel erioed wedi ennill gartref, na sgorio gartref yn erbyn tîm Rhys Griffiths.
Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ͏❌❌✅❌✅
Pen-y-bont: ͏✅✅✅✅✅
Met Caerdydd (8fed) v Airbus UK Brychdyn (6ed) | Nos Wener – 19:45
Daeth rhediad rhagorol Airbus o bum buddugoliaeth yn olynol i ben nos Wener diwethaf wrth i dîm Mark Allen golli o 3-4 yn erbyn Bae Colwyn.
Mae Met Caerdydd wedi ennill eu tair gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth gan sgorio 13 o goliau, ac felly mae’r hyder yn uchel ar Gampws Cyncoed.
Dau bwynt sy’n gwahanu’r clybiau yng nghanol y tabl, a bydd Met Caerdydd yn gobeithio manteisio ar y cyfle i gamu ‘nôl i’r Chwech Uchaf.
Collodd Met Caerdydd o 1-0 ym maes awyr Brychdyn yn eu gêm gyntaf erioed yn y Cymru Premier nôl yn Awst 2016, ond ers yr ornest honno dyw’r myfyrwyr heb golli dim un o’u saith gêm ganlynol yn erbyn Airbus UK (ennill 5, cyfartal 2).
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ͏❌➖❌✅✅
Airbus UK: ͏✅✅✅✅❌
Y Fflint (13eg) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Wener – 19:45
Mae’r Seintiau Newydd bum pwynt yn glir ar frig y tabl, ac yn dal yn ddi-guro yn dilyn eu buddugoliaeth o 3-0 yn erbyn Llansawel nos Wener diwethaf.
Dyw’r Seintiau heb ildio gôl yn eu pum gêm ddiwethaf, ac mae’r golwr Nathan Shepperd wedi cadw 12 llechen lân mewn 17 gêm gynghrair y tymor hwn, gan ildio dim ond chwe gôl hyd yma (0.35 gôl y gêm).
Mae’r Fflint wedi colli tair o’u pedair gêm ddiwethaf ar Gae y Castell, a’r Seintiau Newydd yw’r unig dîm sydd heb golli oddi cartref yn y gynghrair y tymor yma (ennill 6, cyfartal 1).
Dyw’r Fflint heb guro’r Seintiau ers 31 o flynyddoedd, ac yn y naw gornest ddiwethaf rhwng y clybiau mae’r Seintiau wedi sgorio cyfartaledd o 5.2 gôl y gêm, yn cynnwys buddugoliaeth o 5-0 yn gynharach y tymor hwn.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ͏❌✅✅❌❌
Y Seintiau Newydd: ͏͏✅✅➖✅✅
Dydd Sadwrn, 28 Tachwedd
Y Barri (7fed) v Caernarfon (5ed) | Dydd Sadwrn – 12:30
Dau bwynt sy’n gwahanu’r clybiau yn y ras am y Chwech Uchaf, ac felly fydd hi’n gêm allweddol ar Barc Jenner brynhawn Sadwrn.
Dyw’r Barri heb golli yn eu pedair gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, ond mae tair o’r rheiny wedi gorffen yn gyfartal (wedi 90 munud).
Ar ôl colli dwy yn olynol (vs Airbus a Pen-y-bont), mae Caernarfon wedi troi’r gornel drwy guro Treffynnon a Cei Connah yn eu dwy gêm ddiwethaf.
Mae’r Barri wedi ennill eu tair gornest ddiwethaf yn erbyn y Cofis yn cynnwys buddugoliaeth o 0-1 ar yr Oval ym mis Hydref, ble sgoriodd Noah Daley unig gôl y gêm.
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ͏❌❌✅➖➖
Caernarfon: ͏✅✅❌❌✅
Treffynnon (16eg) v Llandudno (11eg) | Dydd Sadwrn – 17:15 (Arlein)
Dros hanner ffordd at yr hollt a dyw Treffynnon yn dal heb ennill gêm gynghrair ers eu dyrchafiad, gan sicrhau dim ond dau bwynt o’r 51 posib hyd yma.
Mae tîm John Haseldin wedi ildio cyfartaledd o 3.35 gôl y gêm gan golli eu chwe gêm gynghrair ddiwethaf.
Er dechrau’n addawol, dyw pethau heb fynd yn llyfn i Llandudno chwaith, gyda carfan Sir Conwy ar rediad o 10 gêm gynghrair heb ennill (cyfartal 2, colli 8).
Mae Llandudno wedi colli saith o’u wyth gêm oddi cartref yn y gynghrair y tymor yma, ond fe enillon nhw y gêm gyfatebol yn erbyn Treffynnon ar Barc Maesdu ym mis Awst (Lldo 3-1 Tffn).
Mae’r gemau rhwng y ddau glwb yma yn tueddu i fod yn rhai tanllyd, gyda pedwar cerdyn coch wedi eu dangos yn y dair gornest ddiwethaf.
Record cynghrair diweddar:
Treffynnon: ͏❌❌❌❌❌
Llandudno: ͏❌❌❌❌➖




