S4C

Navigation

Bydd rhaid i Gymru geisio cyrraedd Ewro 2024 drwy’r gemau ail gyfle ar ôl gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Twrci yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Methodd Cymru a sicrhau yr ail safle yn eu grŵp gan olygu y bydd rhaid iddyn nhw chwarae yn y gemau ail gyfle ym mis Mawrth.

Fe fydd cyhoeddiad ddydd Iau i weld ai’r Ffindir, Gwlad yr Iâ neu Wcráin fydd eu gwrthwynebwyr.

Daw’r perfformiad heddiw wedi gêm gyfartal siomedig yn erbyn Armenia yn Yerevan ddydd Sadwrn.

Yn dilyn y gêm honno roedd Cymru yn gwybod fod angen iddyn nhw guro Twrci a gobeithio fod Croatia yn colli pwyntiau yn erbyn Armenia er mwyn cyrraedd Euro 2024.

Roedd Twrci yn y cyfamser eisoes wedi sicrhau lle yn Ewro 2024 ac yn dod i mewn i’r gêm yn llawn hyder ar ôl curo’r Almaen mewn gêm gyfeillgar yn Berlin ddydd Sadwrn.

Serch hynny llwyddodd Cymru i sgorio eu gôl gyntaf wedi wyth munud yn unig drwy’r amddiffynnwr Neco Williams, wedi pas gan Jordan James.

Parhaodd Cymru ar y droed flaen am weddill yr hanner ac wrth i’r chwiban fynd roedd yn ymddangos fod gobaith gwirioneddol gyda nhw o gymhwyso.

Siom

Ond yna daeth y newyddion bod Croatia wedi mynd ar y blaen o 1-0 drwy Ante Budimir yn erbyn Armenia a hynny yn golygu bod dyfodol y crysau cochion allan o’u dwylo eu hunain.

Daeth siom pellach yn yr ail hanner wrth i’r dyfarnwr chwythu am gic o’r smotyn dadleuol wedi iddo benderfynu bod Ben Davies wedi troseddu yn erbyn Kenan Yildiz.

Llwyddodd Yusuf Yazici i yrru Danny Ward y ffordd anghywir ac unioni’r sgôr.

Tynnodd hynny’r gwynt o hwyliau Cymru ac roedd Twrci yn edrych y mwyaf tebygol o sgorio eto gyda chwarter awr i fynd.

Roedd llygedyn o obaith i Gymru ar 83 munud wedi i David Brooks rwydo ar ôl pas gan Brennan Johnson, ond roedd y fflag camsefyll eisoes i fyny.

Daeth cyfle olaf yn yr amser ychwanegol wrth i Gymru ennill cic gosb ac yna cic gornel ond chwaraewyr Twrci oedd yn dathlu a rhai Cymru a’u pennau yn eu plu ar y chwiban olaf er gwaethaf y sgôr cyfartal.

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Can't find what you're looking for?