S4C

Navigation

Roedd llifoleuadau Stadiwm Dinas Caerdydd wedi goleuo sawl perfformiad disglair gan Gymru ers i’r lleoliad ddod yn gartref i’r tîm cenedlaethol yn y blynyddoedd diweddar.

Ond roedd angen 90 munud arbennig iawn ar Gymru nos Fawrth i sicrhau ei lle yn rowndiau terfynol Euro 2024 yn yr Almaen yn ddiweddarach eleni.

Yn y pen draw – doedd 90 munud ddim yn ddigon i selio buddugoliaeth, na’r 30 munud ychwanegol ddaeth wedyn. Ag fe ddaeth y canlyniad ar ddiwedd y ffordd fwyaf creulon o ddewis enillydd, gyda chiciau o’r smotyn.

Ac nid Cymru aeth â hi – ond Gwlad Pwyl – o 5-4.

Gyda phob tocyn wedi ei werthu cyn y chwiban gyntaf, a’r awyrgylch drydanol arferol yn atseinio yn rhengoedd y Wal Goch, fe fyddai angen i bob un o grysau cochion y tîm cartref fod ar eu gorau i guro gwlad nad yw Cymru wedi ei churo ar gae pêl droed ers 51 mlynedd.

Ac er fod y fuddugoliaeth o 4-1 yn erbyn y Ffindir nos Iau ddiwethaf wedi codi gobeithion, roedd curo Robert Lewandowski a’i gyfeillion am fod yn her dra gwahanol.

Mwy o Moore

Roedd Kieffer Moore yn dechrau yn y llinell flaen i Gymru ar ddechrau’r chwarae nos Fawrth, ar ôl dod ymlaen fel eilydd yn erbyn y Ffindir yr wythnos flaenorol.

Daniele Orsato o’r Eidal oedd y dyfarnwr oedd gyda’r dasg o gadw trefn ym merw’r stadiwm.

Wedi cwta funud a hanner fe gafodd Gwlad Pwyl gic gosb am drosedd gan Moore ar Dawidowicz.

Ddau funud yn ddiweddarach fe gafodd y Pwyliaid yn y crysau gwyn gic gosb arall hefyd – y tro yma wedi trosedd ar Zalewski gan Roberts.

Tro Cymru oedd hi wedyn i gael cic gosb – trosedd y tro yma ar Johnson gan Piotrowski.

Nerfau

Roedd y 10 munud cyntaf yn un digon nerfus i’r ddau dîm gyda’r brwydro am ddyrchafiad yn digwydd ran fwyaf yng nghanol y cae.

Wedi cwta chwarter awr o chwarae fe ddaeth cyfle i’r Pwyliaid, gyda Frankowski yn chwipio’r bêl o’r dde i Swiderski. Er mawr rhyddhad fe gafodd ei chlirio.

Daeth mwy o bwysau gan yr ymwelwyr gyda chic gornel yn fuan wedyn ond fe lwyddodd Ampadu i glirio i Gymru gan ruthro ymlaen.

Llwyddodd Jordan James i ennill y gic gornel i Gymru ond aeth y bêl heibio i bawb wedi i Kieffer Moore ruthro i mewn.

Roedd y Cymry’n mwynhau cyfnod llewyrchus ar ôl dechrau ychydig yn sigledig, ac roedd bylchau’n ymddangos yn amddiffyn yr ymwelwyr am y tro cyntaf.

Wedi 25 munud roedd yn parhau yn ddi-sgôr, gyda’r dorf yn tawelu ychydig gyda’r tyndra’n amlwg ar wynebau pawb.

Daeth cic gornel i Wlad Pwyl yn fuan wedyn, ond gwastraff oedd yr ymdrech.

Aeth Harry Wilson ar rediad gan daro’r bêl ar draws y gôl ond doedd neb yno i elwa ar y symudiad.

Roedd bylchau’n dechrau ymddangos ar hyd yr ochr chwith yn amddiffyn Gwlad Pwyl – gyda Cymru’n dechrau tyfu mewn hyder.

Cafodd Gymru gôl yn y munudau olaf o’r hanner cyntaf – peniad gan Moore yn dod o hyd i ben Ben Davies – ond roedd yn camsefyll yn ôl y llimanwr. Eiliad o ryddhad i’r Pwyliaid a rhwystredigaeth i’r Wal Goch cyn y chwiban wedi 45 munud.

Hanner amser

Daeth cerdyn cyntaf y noson i Jakub Piotrowski am drosedd ar Moore.

Daeth cic rydd i o hynny i Gymru wedi 47 o funudau – gyda Kieffer Moore yn penio i gyfeiriad y gôl ond fe ddaeth arbediad wych gan Wojciech Szczesny.

Daeth cerdyn cyntaf y noson Gymru wedi 55 munud – Jordan James yn tro hwn yn troseddu.

Fe welwyd fflach o allu Robert Lewandowski funud yn ddiweddarach – ond ei beniad yn gwyro dros y trawst.

Wedi awr o chwarae fe ddaeth cyfnod go flêr i Gymru – ag ambell gic rydd i’r ymwelwyr ond nid oedd modd iddynt fanteisio ar y cyfleoedd.

Fe ddechreuodd y Wal Goch ganu enw David Brooks wedi cyfnod o bwysau gan y Pwyliaid.

Fe ddaeth cic o’r gornel i Wlad Pwyl wedi 64 munud – gyda chyfle eithaf agos i Bednarek yn y cwrt cosbi.

Ychydig o ansicrwydd

Dechreuodd yr ymwelwyr synhwyro nerfusrwydd y Cymry wrth i’r ail hanner ddatblygu.

Daeth cic rydd arall i Wlad Pwyl wedi 67 munud ond doedd neb ar ben arall y bêl wrth iddi wyro i gyfeiriad gôl Cymru.

Daeth cyfle i Gymru funud yn ddiweddarach wedi i Johnson ddarganfod lle ar yr asgell cyn croesi i Moore – ond siomedig oedd ei beniad yn y pen draw ac arbediad hawdd i Szczesny.

Fe gafodd Brennan Johnson ei eilyddio am Dan James wedi 70 munud, gan gynnig cyflymder o’r newydd yn y llinell flaen i Gymru.

Cerdyn melyn wedyn i Wlad Pwyl – i Nicola Zalewski ar ôl 72 munud am ei drosedd.

Cyfle i Gymru – Chris Mepham â pheniad ar un pen i’r cae cyn i’r ymwelwyr gael cyfle wedyn ond ergyd wyllt gan Zalewski’n llawer rhy uchel i daro’r nod.

Gydag ychydig dros 10 munud yn weddill fe ddaeth dau eilydd ar y cae i Wlad Pwyl – Bartosz Salamon a Krzystof Piatek ymlaen yn lle Karol Swiderski a Jan Bednarek.

Daeth cyfle i Dan James ar y postyn pellaf wedi tafliad hir o’r ochr gan Roberts. Ond yn fuan wedyn fe ddioddefodd Roberts anaf gan adael y cae wedi 83 munud.

Daeth David Brooks ymlaen yn ei le – gyda’r tensiwn yn tyfu wrth i’r eiliadau fynd heibio.

Roedd y tensiwn ar wynebau’r cefnogwyr i’w weld yn glir wrth i ddiwedd y 90 munud agosau – a chynyddu wnaeth y tensiwn hwnnw pan gymerodd Lewandowski gic o bell, ond fe wyrodd i’r chwith.

Roed ei ymdrech brin yn arwydd o lwyddiant y Cymry i dawelu’r chwaraewr dylanwadol hwn drwy gydol y gêm.

Yn y munud olaf o’r 90 fe ddaeth awgrym fod trosedd wedi bod ar Moore yn y cwrt cosbi, ond doedd dim tycio ar benderfyniad y dyfarnwr.

0-0 oedd y sgôr ar ddiwedd y 90 – felly roedd yn amser am amser ychwanegol! A’r nerfau’n dipiau…

Amser ychwanegol

Roedd hi’n amser am ymdrech ychwanegol gan yr holl chwaraewyr i gyrraedd y nod.

Cafywd tafliad hir o’r asgell gan Ampadu ar ddechrau’r 30 munud ond doedd dim yn tycio.

Wedi 95 munud o chwarae daeth cic gosb i Gymru – Harry Wilson gydag ymdrech aeth yn syth i mewn i’r mur amddiffynnol.

Cafodd Chris Mepham gerdyn melyn ddau funud wedyn am drosedd – cyn i Moore sicrhau cic gosb i Gymru ar ôl cael ei lorio.

Aeth Zielinski oddi ar y cae wedi 100 munud o chwarae – ac yn fuan wedyn fe ddaeth cyfle i Jakub Piotrowski.

Tro Cymru oedd hi i bwyso – rhediad nerthol gan Moore yn arwain at ddim yn y pen draw yng nghwrt cosbi Gwlad Pwyl.

Di-sgor oedd hi ar ddiwedd y chwarter awr cyntaf o amser ychwanegol – roedd y munudau’n hedfan heibio a’r tensiwn yn cynyddu.

Chwarter awr

Dim ond chwarter awr oedd ar ôl os oedd Cymru am osgoi ciciau o’r smotyn.

Roedd y bylchau’n dechrau tyfu wrth i goesau ddechrau flino – ond pwy fyddai’n manteisio gyntaf? Roedd y Pwyliaid fel eu bod yn fodlon i chwarae’r cloc ag anelu am giciau o’r smotyn.

Daeth Nathan Broadhead ymlaen yn lle Brooks i Gymru gydag ychydig funudau’n weddill – gyda blinder bellach yn effeithio ar bawb.

Bratiog oedd yr ymdrechion olaf ar ddiwedd yr amser ychwanegol – a gyda munud i fynd fe gafod Chris Mepham ail gerdyn melyn, a’i hel o’r cae am drosedd hwyr.

Eiliadau wedi cic rydd fe chwythodd y chwiban i nodi diwedd yr hanner awr ychwanegol. Roedd rhaid wynebu artaith ciciau’r smotyn felly.

Ciciau o’r smotyn

Cerddodd Wojciech Szczesny a Danny Ward gyda’i gylydd i gyfeiriad y Canton End cyn i’r ciciau a’r artaith ddechrau.

Lewandowski aeth gyntaf i Wlad Pwyl – gan daro cic feiddgar i’r chwith.

Ben Davies rwydodd nesaf – er mawr ryddhad i’r Wal Goch, cyn i Szymanski gamu ymlaen a sgorio chwip o gôl i’r ymwelwyr.

Tro Kieffer Moore oedd hi nesaf – ac oddi ar y bar fe aeth y bêl i mewn – yn y pen draw! Ond fe ddaeth Przemyslaw Frankowski i adael ei farc gyda gôl rymus wedyn.

Aeth Harry Wilson ar ei ôl gan sgorio a chadw gobeithion Cymru’n fyw.

Zalewski rwydodd nesaf i Wlad Pwyl – gyda’r pwysau ar sgwyddau Neco Williams yn enfawr. Rhwydodd yntau’n gyfforddus gyda chic i’r dde.

Piatek oedd nesaf – eto’n ergydio’n rymus heibio i Ward aeth i’r ochr anghywir. Roedd gobeithio Cymru yn nwylo Daniel James – ond fe gafodd ei harbed.

Hon oedd cic olaf ymdrech olaf Cymru ar y noson ac yn ystod yr ymgyrch hon – a Gwlad Pwyl oedd yn fuddugol gan ennill 5-4 ar giciau o’r smotyn.

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Can't find what you're looking for?