S4C

Navigation

Mae Craig Bellamy wedi cael ei benodi’n rheolwr newydd ar dîm pêl-droed Cymru.

Fe wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru cadarnhau’r penderfyniad fore dydd Mawrth ychydig wythnosau wedi iddynt ddiswyddo Rob Page yn dilyn nifer o ganlyniadau siomedig.

Fe ymddangosodd Bellamy 78 o weithiau i Gymru cyn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol yn 2013.

Daeth yn agos at gael y swydd yn ôl yn 2018 cyn i’r Gymdeithas benodi Ryan Giggs.

Mae Bellamy, sy’n dal Trwydded Pro UEFA trwy system Addysg Hyfforddi FAW, wedi bod yn hyfforddwr ers ymddeol o chwarae yn 2014, ac yn ddiweddar bu’n Hyfforddwr Cynorthwyol yn Burnley yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Cyn ymuno â Burnley, roedd Bellamy yn Rheolwr Tîm Dan 21 ac yn Hyfforddwr Cynorthwyol Tîm Hŷn Anderlecht, yn ogystal a gweithio yn academi CPD Dinas Caerdydd.

Ar ei benodiad, dywedodd Bellamy: “Mae’n anrhydedd anhygoel i mi gael y cyfle i arwain fy ngwlad ac yr anrhydedd mwyaf yn fy mywyd.

“Unwaith ddaeth y cyfle hyn ar gael roeddwn yn cyffrous ac yn barod am yr her i ddatblygu’r tîm hyn i ddod â llwyddiant parhaus i bêl-droed Cymru. Rwy’n methu aros i ddechrau gyda’n gemau Cynghrair y Cenhedloedd ym mis Medi.”

Dywedodd Prif Swyddog Pêl-droed y FAW, Dr David Adams: “Roedd y broses recriwtio yn un drylwyr ar gyfer penodi Prif Hyfforddwr Tîm Cenedlaethol Dynion newydd ac rwy’n hynod falch o gyhoeddi Craig fel ein prif hyfforddwr newydd.

“Rydym i gyd yn edrych ymlaen at gemau Cynghrair y Cenhedloedd ac i weithio gyda Craig i sicrhau llwyddiant i Bêl-droed Cymru.”

Bydd gêm gyntaf Bellamy yn ei swydd newydd ar ddydd Gwener 6 Medi yn erbyn Twrci yn Stadiwm Dinas Caerdydd, lle bydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd UEFA.

 

Erthygl Newyddion S4C

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?