S4C

Navigation

Y Barri sydd ar y brig yn Uwch Gynghrair Cymru ar ôl ennill eu pedair gêm agoriadol y tymor yma, tra bod yna bedwar tîm yn parhau i aros am eu pwyntiau cyntaf. 

Dau o’r clybiau rheiny ar waelod y gynghrair yw Hwlffordd a Trefelin – dau glwb sydd wedi methu a sgorio yn eu pedair gêm agoriadol, tra mae’r Seintiau Newydd yw’r unig dîm sydd eto i ildio gôl gynghrair. 

 

Nos Wener, 28 Awst 

Cei Connah (4ydd) v Cambrian (7fed) | Nos Wener – 19:45 

Mae Cei Connah wedi codi i’r 4ydd safle ar ôl rhediad rhagorol o dair buddugoliaeth yn olynol. 

Y Nomadiaid yw prif sgorwyr y gynghrair (12 gôl), ac mae’r triawd ymosodol o Hussein Mehasseb (sgorio 4, creu 1), Callum West (sgorio 1, creu 5) a Harry Franklin (3 gôl) wedi profi’n ffrwythlon hyd yma. 

Roedd hi’n fuddugoliaeth felys i Cambrian oddi cartref yn Hwlffordd nos Wener gyda’r clwb yn codi allan o’r Chwech Isaf (Hwl 0-3 Cam).  

Hon fydd yr ornest gyntaf erioed rhwng y clybiau wrth i’r ddau dîm geisio parhau â’u rhediadau cadarn. 

Record cynghrair diweddar:  

Cei Connah: ͏❌✅✅✅ 

Cambrian: ͏͏➖✅✅ 

 

Llandudno (5ed) v Hwlffordd (14eg) | Nos Wener – 19:45  

Ar ôl ennill eu tair gêm agoriadol wedi’r dyrchafiad dros yr haf, daeth dechreuad perffaith Llandudno i ben oddi cartref ym Mhen-y-bont nos Wener diwethaf (Pen 2-1 Lldo). 

Dyw hi’n bendant heb fod yn ddechreuad perffaith i Hwlffordd gan fod yr Adar Gleision yn dal heb sicrhau pwynt, nac wedi sgorio r’un gôl wedi pedair gêm. 

Wedi’r golled o 0-3 gartref yn erbyn Cambrian nos Wener diwethaf fe ddywedodd Tony Pennock mae dyma’r isaf y mae wedi ei deimlo yn ei bedair blynedd fel rheolwr Hwlffordd oherwydd diffyg dewrder ac ymroddiad ei chwaraewyr. 

Bydd Llandudno’n hyderus felly o hawlio canlyniad cadarnhaol gan eu bod wedi ennill eu 22 gêm gartref ddiwethaf ers colli 2-3 yn erbyn Bwcle ym mis Mawrth 2025. 

Dyma’r gêm gyntaf rhwng y ddau glwb ers 11 mlynedd pan enillodd Llandudno o 1-0 ar Barc Maesdu yn nhymor 2015/16. 

Record cynghrair diweddar:  

Llandudno: ͏✅✅✅❌ 

Hwlffordd: ͏❌❌❌❌ 

 

Met Caerdydd (10fed) v Llansawel (8fed) | Nos Wener – 19:45 

Fe gafodd Met Caerdydd grasfa o 0-5 gartref yn erbyn Y Seintiau Newydd nos Wener diwethaf ar ôl i James Clarke weld cerdyn coch ar ddiwedd yr hanner cyntaf am dynnu gwallt un o’i wrthwynebwyr. 

Ar Gae y Castell, roedd Llansawel yn llawn llawenydd ar ôl sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn erbyn Y Fflint (Ffl 0-1 Lls). 

Mae Llansawel wedi amddiffyn yn effeithiol hyd yma gan ildio dim ond tair gôl mewn pedair gêm gynghrair, ond y fuddugoliaeth yn Y Fflint oedd eu llechen lân gynta’r tymor hwn. 

Dyw’r Cochion heb golli dim un o’u pum gêm ddiwethaf yn erbyn Met Caerdydd (ennill 3, cyfartal 2), ond bydd rhaid cadw eu cyn-chwaraewr Jasper Payne yn dawel, sef cydradd brif sgoriwr y gynghrair (4 gôl). 

Record cynghrair diweddar:  

Met Caerdydd: ͏✅✅❌❌ 

Llansawel: ͏✅➖❌͏ 

 

Pen-y-bont (3ydd) v Y Fflint (13eg) | Nos Wener – 19:45  

Mae Pen-y-bont yn un o’r tri thîm sy’n ddi-guro wedi pedair gêm a bydd y Gleision yn disgwyl parhau â’r record hwnnw nos Wener. 

Mae’r Fflint ar y llaw arall wedi cael dechrau difrifol i’r tymor, ac roedd gôl ryfeddol Jack Thorn i’w rwyd ei hun y penwythnos diwethaf yn croniclo hynny (Ffl 0-1 Lls).  

A dyw pethau’n mynd dim haws i dîm Lee Fowler wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Cei Connah (c), Caernarfon (oc), Met Caerdydd (c) a’r Seintiau Newydd (oc) yn eu gemau nesaf. 

Bydd Pen-y-bont eisiau dial ar Y Fflint wedi i’r Sidanwyr yrru tîm Rhys Griffiths allan o Gwpan Cymru ar giciau o’r smotyn yn dilyn 90 munud di-sgôr yn y gêm ddiwethaf rhwng y timau ym mis Rhagfyr.  

Record cynghrair diweddar:  

Pen-y-bont: ͏ ➖✅✅✅ 

Y Fflint: ͏❌❌❌❌ 

 

Trefelin (16eg) v Rhydaman (12fed) | Nos Wener – 19:45 (Arlein)

Mae dechrau truenus Trefelin yn parhau gyda pencampwyr y de yn eistedd ar waelod y tabl ar ôl colli eu pedair gêm hyd yma, ac hynny heb sgorio gôl. 

Dyw hi heb fod yn ddechrau llawer gwell i Rhydaman, sydd ond wedi cipio un pwynt wedi eu pedair gêm agoriadol.  

Enillodd Trefelin eu dwy gêm gynghrair yn erbyn Rhydaman yn yr ail haen y tymor diwethaf, ac hynny heb ildio gôl (Tfl 2-0 Aman, Aman 0-4 Tfl). 

Bydd y ddau glwb yn gwbl benderfynol o sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn yr uwch gynghrair yn y frwydr fawr hon yn y Chwech Isaf. 

Record cynghrair diweddar:  

Trefelin: ͏❌❌❌❌ 

Rhydaman: ͏❌➖❌❌ 

 

Treffynnon (15fed) v Caernarfon (6ed) | Nos Wener – 19:45 

Mae Treffynnon yn dal i aros am eu pwynt cyntaf ers eu dyrchafiad yn dilyn eu colled ddiweddaraf gartref yn erbyn Y Barri (Tffn 1-3 Barr). 

Mae Caernarfon wedi codi i’r Chwech Uchaf ar ôl buddugoliaeth yn Nhrefelin nos Wener (Tfl 0-2 Cfon), a bydd Richard Davies yn gobeithio am ganlyniad tebyg yn erbyn un arall o’r newydd-ddyfodiaid y penwythnos hwn. 

Treffynnon sydd â’r record amddiffynnol waetha’n y gynghrair ar ôl ildio 15 gôl mewn pedair gêm hyd yma (3.75 gôl y gêm). 

Dyw Treffynnon erioed wedi curo Caernarfon (cyfartal 2, colli 5), ond roedd angen ciciau o’r smotyn ar y Cofis i drechu tîm John Haseldin yn nhrydedd rownd Cwpan Nathaniel MG y tymor diwethaf. 

Record cynghrair diweddar:  

Treffynnon: ͏❌❌❌❌ 

Caernarfon: ͏✅❌͏✅✅ 

 

Y Barri (1af) v Airbus UK (11eg) | Nos Wener – 19:45 

Y Barri sy’n arwain y pac wedi pedair buddugoliaeth ar ddechrau’r tymor, sy’n record syfrdanol o ystyried eu bod wedi colli gymaint o’u prif chwaraewyr dros yr haf. 

Bydd Steve Jenkins yn ysu i barhau â’r cychwyn campus yn erbyn Airbus, ac yna oddi cartre’n Llansawel, cyn teithio i Groesoswallt i wynebu’r Seintiau Newydd ar y 5ed o Fedi. 

Er ennill hanner eu gemau hyd yma, ac ildio llai nac un gôl y gêm, mae Airbus wedi llithro i’r Chwech Isaf ar ôl colli 1-0 ym Mae Colwyn. 

Mae’r Barri wedi ennill eu unig ddwy gêm flaenorol yn erbyn Airbus, ac hynny ar ddechrau tymor 2019/20 (Air 0-1 Barr, Barr 2-0 Air). 

Record cynghrair diweddar:  

Y Barri: ͏✅✅✅✅ 

Airbus UK: ͏✅❌✅❌ 

 

Y Seintiau Newydd (2il) v Bae Colwyn (9fed) | Nos Wener – 19:45 

Wedi dechrau digon tawel a di-fflach, fe ddeffrodd y Seintiau nos Wener diwethaf a churo Met Caerdydd yn y brif ddinas (Met 0-5 YSN). 

Mae’r pencampwyr felly wedi cadw pedair llechen lân mewn pedair gêm, ac yn un o dri o dimau sydd heb golli hyd yn hyn. 

Mae Bae Colwyn yn eistedd yng nghanol y tabl ar ôl trechu Airbus (Bae 1-0 Air), ond mae gemau caled ar y gweill i ddod yn yr wythnosau nesaf: Llandudno (c), Pen-y-bont (oc), Cei Connah (c). 

Bae Colwyn oedd y buddugwyr yn yr ornest ddiwethaf rhwng y timau, yn ennill 0-2 yn Neuadd y Parc ym mis Mawrth gan sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn erbyn Y Seintiau Newydd. 

Record cynghrair diweddar:  

Y Seintiau Newydd: ͏͏➖✅✅✅ 

Bae Colwyn: ͏✅➖❌✅ 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?