S4C

Navigation

Llandudno a’r Barri yw’r ddau glwb sydd â record 100% wedi eu tair gêm agoriadol, tra bod yna bedwar tîm yn parhau i aros am eu pwyntiau cyntaf. 

Dau o’r clybiau rheiny ar waelod y gynghrair yw Hwlffordd a Trefelin – dau glwb sydd wedi methu a sgorio yn eu tair gêm agoriadol, tra mae’r Seintiau Newydd yw’r unig dîm sydd eto i ildio gôl gynghrair. 

Nos Wener, 21 Awst 

Bae Colwyn (11eg) v Airbus UK Brychdyn (8fed) | Nos Wener – 19:45 

Roedd hi’n berfformiad siomedig gan Fae Colwyn nos Sadwrn wrth i’r Gwylanod golli o 3-0 oddi cartref yn erbyn Caernarfon. 

Mae carfan Michael Wilde wedi llithro i’r Chwech Isaf felly, ac mae gemau caled ar y gweill i ddod yn yr wythnosau nesaf: YSN (oc), Llandudno (c), Pen-y-bont (oc), Cei Connah (c). 

Bydd Airbus yn fwy na bodlon gyda’u canlyniadau hyd yma, yn curo Hwlffordd a Rhydaman yn y cyfnod agoriadol, sy’n golygu bod bechgyn Brychdyn wedi ennill mwy o gemau yn eu tair gêm agoriadol (2) nac y gwnaethon nhw yn eu 50 gêm flaenorol yn yr uwch gynghrair. 

Mae’r clybiau wedi cyfarfod ar sawl achlysur yn yr ail haen, ond hon fydd yr ornest gyntaf rhwng y timau yn y Cymru Premier. 

Record cynghrair diweddar:  

Bae Colwyn: ͏✅➖❌ 

Airbus UK: ͏✅❌✅ 

Hwlffordd (14eg) v Cambrian (10fed) | Nos Wener – 19:45  

Mae Hwlffordd wedi cael dechrau araf i’r tymor ac heb sgorio gôl yn eu tair colled hyd yma (Hwl 0-1 Air, YSN 2-0 Hwl, Hwl 0-3 Pen). 

Y golled gartre’n erbyn Airbus ar y penwythnos agoriadol oedd yr un fwyaf siomedig i dîm Tony Pennock, tra bo’r ddwy gêm ddiwethaf wedi bod yn rhai anoddach i’r Adar Gleision. 

Sicrhaodd Cambrian eu buddugoliaeth gyntaf nos Wener diwethaf yn curo’r Fflint gyda Liam Eason yn sgorio o’r smotyn i’w gwneud hi’n dair gôl mewn tair gêm i arwr y Rhondda. 

Dyw’r timau heb gyfarfod ers Ionawr 2020, pan enillodd Hwlffordd o 4-1 yng Nghynghrair y De. 

Record cynghrair diweddar:  

Hwlffordd: ͏❌❌❌ 

Cambrian: ͏͏➖✅ 

Met Caerdydd (6ed) v Y Seintiau Newydd (4ydd) | Nos Wener – 19:45 

Daeth dechrau perffaith Met Caerdydd i ben ar Barc Jenner wrth i’r myfyrwyr golli o 1-0 yn erbyn Y Barri brynhawn Sadwrn. 

Y Seintiau Newydd yw’r unig glwb sydd heb ildio gôl yn eu tair gêm agoriadol, ond dyw cewri Croesoswallt heb fod ar eu gorau’n ymosodol gan mae dim ond Hwlffordd a Trefelin (0) sydd wedi sgorio llai o goliau na’r pencampwyr (3).  

Mae ymosodwr Met Caerdydd, Jasper Payne wedi sgorio mwy na’r Seintiau ar ei ben ei hun ar ôl taro pedair gôl mewn tair gêm hyd yma. 

Mae Met Caerdydd wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Y Seintiau Newydd, yn curo’r pencampwyr yn y gynghrair ym mis Tachwedd, cyn eu trechu eto yng Nghwpan Cymru bythefnos yn ddiweddarach. 

Record cynghrair diweddar:  

Met Caerdydd: ͏✅✅❌ 

Y Seintiau Newydd: ͏͏➖✅✅ 

Pen-y-bont (3ydd) v Llandudno (1af) | Nos Wener – 19:45  

Bydd un o gemau mwya’r penwythnos i’w gweld yn Stadiwm Dragonbet rhwng dau dîm sydd heb golli yn eu tair gêm agoriadol. 

Llandudno sy’n arwain y gâd gyda record 100% ar ôl ennill eu tair gêm gyntaf ers eu dyrchafiad dros yr haf (Llandudno 3-2 Fflint, Trefelin 0-4 Llandudno, Llandudno 3-1 Treffynnon). 

Ond mae Pen-y-bont wedi cryfhau’n sylweddol gan ennill eu dwy gêm ddiwethaf yn dilyn gêm ddi-sgôr yn erbyn Y Seintiau Newydd ar y penwythnos agoriadol. 

Does neb wedi sgorio mwy o goliau na Llandudno y tymor hwn (10), ond mae amddiffyn Pen-y-bont wedi bod yn ‘styfnig gan ildio dim ond unwaith mewn tair gêm. 

Hon fydd yr ornest gyntaf erioed rhwng y ddau dîm yma, a’r prawf mwyaf i Landudno ers esgyn yn ôl i’r uwch gynghrair. 

Record cynghrair diweddar:  

Pen-y-bont: ͏ ➖✅✅ 

Llandudno: ͏✅✅✅ 

Trefelin (16eg) v Caernarfon (7fed) | Nos Wener – 19:45  

Mae dechrau truenus Trefelin yn parhau gyda pencampwyr y de yn eistedd ar waelod y tabl ar ôl colli eu tair gêm hyd yma, ac hynny heb sgorio gôl. 

Dyw Trefelin heb wynebu dim un o glybiau’r de eto, a Caernarfon fydd eu pedwerydd gwrthwynebwyr o’r gogledd. 

Roedd Richard Davies wrth ei fodd gyda perfformiad y Caneris yn erbyn Bae Colwyn brynhawn Sadwrn (Cfon 3-0 Bae) a bydd yn gobeithio gall ei garfan chwarae cystal ym Mharc Ynys nos Wener er mwyn codi i’r Chwech Uchaf. 

Bydd Trefelin yn ysu i sicrhau eu pwynt cyntaf yn yr uwch gynghrair yn yr ornest gyntaf erioed rhwng y ddau dîm yma. 

Record cynghrair diweddar:  

Trefelin: ͏❌❌❌ 

Caernarfon: ͏✅❌͏ 

Treffynnon (15fed) v Y Barri (2il) | Nos Wener – 19:45 

Ar Ffordd Helygain bydd un clwb yn anelu i barhau â’u record berffaith tra bydd y clwb arall yn benderfynol o hawlio eu pwyntiau cyntaf yn y tymor. 

Mae’r Barri wedi dangos dygnwch i ennill eu tair gêm agoriadol gyda goliau hwyr i gipio’r triphwynt (Barr 2-1 Cam, Ffl 2-3 Barr, Barr 1-0 Met). 

Mae Treffynnon yn waglaw ar ôl eu tair gêm agoriadol, a does neb wedi ildio mwy o goliau na thîm John Haseldin (12). 

Dyw’r Barri heb golli yn eu chwe gêm ddiwethaf yn erbyn Treffynnon (ennill 5, cyfartal 1), ond hon fydd yr ornest gyntaf rhwng y clybiau ers 27 o flynyddoedd. 

Record cynghrair diweddar:  

Treffynnon: ͏❌❌❌ 

Y Barri: ͏✅✅✅ 

Y Fflint (13eg) v Llansawel (9fed) | Nos Wener – 19:45 

Dyw’r Fflint heb gael cychwyn cryf i’r ymgyrch, yn colli eu tair gêm hyd yma ar ôl ildio goliau hwyr (Lldo 3-2 Ffl, Ffl 2-3 Barr, Cam 1-0 Ffl). 

Mae Llansawel yn eistedd yng nghanol y tabl ar ôl ennill un, cael un gêm gyfartal, a cholli 1-0 y penwythnos diwethaf yn erbyn y pencampwyr. 

Dyw’r Fflint erioed wedi colli gêm yn erbyn Llansawel (ennill 4, cyfartal 4), ond mae’r ddwy ornest ddiwethaf rhwng y timau wedi gorffen yn ddi-sgôr. 

Gorffennodd Y Fflint 10 pwynt uwchben Llansawel yn nhymor cyntaf y Cochion yn yr uwch gynghrair yn 2024/25, ond flwyddyn yn ddiweddarach, Llansawel oedd 10 pwynt uwchben Y Fflint ar ddiwedd tymor 2025/26. 

Record cynghrair diweddar:  

Y Fflint: ͏❌❌❌ 

Llansawel: ͏✅➖❌͏ 

Dydd Sadwrn, 22 Awst 

Rhydaman (12fed) v Cei Connah (5ed) | Dydd Sadwrn – 12:30  

Bydd Cei Connah yn disgwyl ei gwneud hi’n dair buddugoliaeth yn olynol ar eu taith i Rydaman ddydd Sadwrn. 

Callum West yw prif grêwr y gynghrair (5) ac mae Hussein Mehasseb yn gydradd brif sgoriwr (4) yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus y Nomadiaid o 6-0 yn erbyn Trefelin nos Wener diwethaf. 

Daeth unig bwynt Rhydaman hyd yma yn eu gêm gartref ddiwethaf yn erbyn Bae Colwyn (Aman 2-2 Bae), felly bydd Wyn Thomas yn gobeithio y gall ei dîm sicrhau canlyniad annisgwyl arall ar Y Rec y penwythnos hwn. 

Hon fydd yr ornest gyntaf erioed rhwng y ddau dîm yma wrth i Rydaman geisio hawlio eu buddugoliaeth gyntaf yn yr uwch gynghrair. 

Record cynghrair diweddar:  

Rhydaman: ͏❌➖❌ 

Cei Connah: ͏❌✅✅ 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?