S4C

Navigation

Mae’n benwythnos rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG a bydd y deiliad Cei Connah yn anelu i gyrraedd y rownd gynderfynol er mwyn dal eu gafael ar y cwpan sydd wedi bod yn nwylo’r Nomadiaid ers tymor 2019/20. 

 

 

Dydd Sadwrn, 27 Tachwedd 

 

Cei Connah v Ffynnon Taf | Dydd Sadwrn – 13:00 

 

Enillodd Cei Connah y cwpan yn nhymor 2019/20 drwy guro STM Sports o 3-0, ac ar ôl blwyddyn o seibiant oherwydd Covid-19 fe enillodd y Nomadiaid y gystadleuaeth unwaith eto’r tymor diwethaf, ac hynny ar ôl rownd epig o giciau o’r smotyn yn erbyn Met Caerdydd. 

 

Gorffennodd hi’n ddi-sgôr rhwng Cei Connah a Met Caerdydd yn y rownd derfynol llynedd, ond roedd angen 24 o giciau o’r smotyn i wahanu’r ddau dîm gyda’r Nomadiaid yn fuddugol o 10-9 yn y pen draw ac yn dal eu gafael ar y tlws. 

 

Tymor 2014/15 oedd y tro diwethaf i Gei Connah fethu a chyrraedd rownd gynderfynol y gystadleuaeth hon, ac ar ôl ennill y tlws ddwywaith yn olynol bydd Neil Gibson yn awyddus i’w gwneud hi’n hatric er mwyn sicrhau ei dlws cyntaf fel rheolwr y Nomadiaid. 

 

Ffynnon Taf yw’r unig glwb o’r ail haen sy’n dal yn y gystadleuaeth, ac mi fyddan nhw’n gobeithio efelychu campau Dinbych, Y Barri, Cambrian a Clydach a STM Sports, sef y pedwar clwb o’r ail haen sydd wedi llwyddo i gyrraedd y rownd gynderfynol ers 2016. 

 

Mae’r clwb o’r Rhondda yn eistedd yng nghanol tabl Cynghrair y De ar hyn o bryd, ac wedi gorfod trechu Ynyshir, Trefelin, Hwlffordd a Lido Afan i gyrraedd y rownd gynderfynol am y tro cyntaf yn eu hanes. 

 

Mae Cei Connah wedi curo’r Seintiau Newydd, Treffynnon a Rhuthun yn y gystadleuaeth eleni, a tydi’r freuddwyd o ennill y trebl ddim allan o afael y tîm o Lannau Dyfrdwy. 

 

Roedd Cei Connah wedi ennill 11 gêm yn olynol cyn eu gêm gyfartal 3-3 yn erbyn Caernarfon nos Wener ddiwethaf, sef y tro cyntaf i’r Nomadiaid fethu ag ennill gartref ers mis Chwefror. 

 

 

Y Bala v Met Caerdydd | Dydd Sadwrn – 13:00 

Am yr ail wythnos yn olynol bydd Y Bala’n wynebu Met Caerdydd, ac ar ôl colli’n y brifddinas brynhawn Sadwrn bydd criw Colin Caton yn ysu i dalu’r pwyth yn ôl y penwythnos yma. 

 

Sgoriodd Eliot Evans unig gôl y gêm o’r smotyn ar Gampws Cyncoed ddydd Sadwrn cyn i gapten Y Bala, Chris Venables dderbyn cerdyn coch yn y munudau hwyr. 

 

Bydd Y Bala’n anelu i sicrhau eu lle yn y rownd derfynol am y tro cyntaf ers tymor 2014/15, tra bod Met Caerdydd yn hen gyfarwydd â chwarae’n y ffeinal ar ôl cyrraedd tair o’r bedair rownd derfynol ddiwethaf. 

 

Dyw’r Bala erioed wedi codi’r cwpan ar ôl colli yn eu hunig ymddangosiad yn y rownd derfynol yn erbyn YSN yn 2014/15, ond mae enw’r myfyrwyr ar y tlws ar ôl curo Cambrian a Clydach yn nhymor 2018/19. 

 

Mae’r Bala wedi gorfod ennill yn erbyn Y Waun, Caernarfon a Gresffordd i gyrraedd y rownd gynderfynol eleni, tra bod Met Caerdydd wedi trechu Y Drenewydd, Aberystwyth a Rhydaman. 

 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?