S4C

Navigation

Yn dilyn diwedd y cyfnod ‘clo dros dro’ yng Nghymru bydd clybiau’r Cymru Premier i gyd yn dychwelyd i’r caeau chwarae’r penwythnos yma ar gyfer set llawn o gemau cynghrair.

Nos Wener, 13 Tachwedd

Caernarfon v Cei Connah | Nos Wener – 19:45

Mae’r tair wythnos o seibiant wedi profi’n gostus i’r pencampwyr Cei Connah, gan i’r Seintiau Newydd fanteisio ac agor bwlch o bum pwynt ar gopa’r cynghrair.

 

Ond ar y llaw arall, roedd nifer o chwaraewyr allweddol Cei Connah yn dioddef o anafiadau ac mae’n bosib bod y cyfnod clo dros dro wedi dod ar amser cyfleus iddyn nhw gael dod dros eu hanafiadau.

 

Mae Cei Connah wedi ennill eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon, y tair buddugoliaeth gartref gan sgorio 11 o goliau (o leiaf tair gôl bob gêm), ond di-sgôr oedd hi y tro diwethaf i’r timau gwrdd ar yr Oval ym mis Awst 2019.

 

Ar ôl methu a churo Hwlffordd a’r Derwyddon yn eu dwy gêm ddiwethaf bydd Huw Griffiths yn benderfynol bod y Cofis yn cael rhywbeth o’r gêm hon nos Wener.

 

Record cynghrair diweddar:

Caernarfon: ✅✅❌❌➖

Cei Connah: ✅✅✅➖❌

 

 

Met Caerdydd v Aberystwyth | Nos Wener – 19:45

Dim ond un pwynt sy’n gwahanu’r ddau glwb yma yn yr hanner isaf, a gallai buddugoliaeth i’r naill dîm neu’r llall eu codi i’r hanner uchaf.

 

Roedd Met Caerdydd ar rediad o saith gêm heb fuddugoliaeth cyn ennill gartref yn erbyn Y Fflint yn eu gêm ddiwethaf.

 

Dyw Aber chwaith ond wedi ennill un o’u chwe gêm ddiwethaf, ond fe gawson nhw bwynt da gartref yn erbyn Y Seintiau Newydd cyn y cyfnod clo dros dro.

 

Mae Met wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Aber, yn cynnwys eu buddugoliaeth yng Nghoedlan y Parc ar benwythnos agoriadol y tymor presennol (Aber 2-3 Met).

 

Record cynghrair diweddar:

Met Caerdydd: ❌❌❌❌✅

Aberystwyth: ❌❌✅❌➖

 

 

Dydd Sadwrn, 14 Tachwedd

Derwyddon Cefn v Hwlffordd | Dydd Sadwrn – 14:30

** Wedi ei ohirio**

Mae Hwlffordd yn un o’r clybiau fuodd yn chwarae trwy’r cyfnod clo dros dro, ac er iddyn nhw ond ennill un pwynt o’r chwech posib yn erbyn Y Seintiau Newydd a’r Bala, mae’r Adar Gleision yn sicr wedi creu argraff gan brofi eu bod yn fwy na pharod i frwydro am eu lle i aros yn y gynghrair y tymor hwn.

 

Dyw Hwlffordd heb orffen yn uwch na’r 12fed safle yn Uwch Gynghrair Cymru ers gorffen yn 7fed yn 2008/09 pan oedd 18 clwb yn y gynghrair.

 

Derwyddon Cefn sydd ar waelod y tabl ar ôl ennill dim ond un o’u wyth gêm gynghrair hyd yma.

 

Roedd y timau i fod i gwrdd ar benwythnos agoriadol y tymor ond gohiriwyd y gêm honno gan nad oedd canllawiau diogelwch Covid-19 wedi cael eu dilyn, felly hon fydd y gêm gyntaf rhwng y ddau glwb ers Ebrill 2010.

 

Record cynghrair diweddar:

Derwyddon Cefn: ❌❌❌✅❌

Hwlffordd: ❌✅➖❌➖

 

 

Y Bala v Pen-y-bont | Dydd Sadwrn – 14:30

Dim ond unwaith mae’r Bala wedi colli’r tymor hwn (Bala 1-2 Hwl), ac mae tîm Colin Caton ar rediad o chwe gêm heb golli yn dilyn eu gêm gyfartal yn erbyn YSN y penwythnos diwethaf.

 

Mae Pen-y-bont wedi cael dechrau cadarn i’r tymor, ac ond wedi colli yn erbyn y tri chlwb orffennodd yn y tri uchaf y tymor diwethaf, sef Cei Connah, Y Seintiau Newydd a’r Bala.

 

 

Dyw’r ystadegau benben ddim yn edrych yn rhy ffafriol i Ben-y-bont gan mae’r Bala sydd wedi ennill pob un o’r tair gêm gynghrair flaenorol rhwng y timau gan sgorio 15 o goliau (cyfartaledd o 5 gôl y gêm)!

 

Record cynghrair diweddar:

Y Bala: ✅✅✅➖➖

Pen-y-bont: ✅✅✅❌✅

 

Y Drenewydd v Y Fflint | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae’r ddau glwb yma’n hafal ar bwyntiau yn y 10fed a’r 11eg safle ac felly angen dechrau tanio os am osgoi’r cwymp.

 

Dyw’r Drenewydd ond wedi ennill unwaith y tymor hwn tra bo’r Fflint wedi colli eu chwe gêm ddiwethaf yn olynol.

 

Y Fflint enillodd y gêm gyfatebol rhwng y timau ar benwythnos agoriadol y tymor, Nathan Craig yn sgorio’r unig gôl yn ei ymddangosiad cyntaf i’r clwb.

 

Record cynghrair diweddar:

Y Drenewydd: ✅❌❌➖❌

Y Fflint: ❌❌❌❌❌

 

Y Seintiau Newydd v Y Barri | Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C)

Y Seintiau Newydd sydd ar frig y tabl, a nhw yw’r unig glwb sy’n dal heb golli gêm yn y gynghrair y tymor hwn.

 

Ar ôl rhediad arbennig o bum buddugoliaeth yn olynol rhwng Medi a Hydref mae’r Barri wedi taro wal yn ddiweddar a heb ennill dim un o’u tair gêm ddiwethaf.

 

Y Seintiau Newydd enillodd y gêm gyfatebol rhwng y timau ar benwythnos agoriadol y tymor (Barr 0-3 YSN), ond dyw’r Barri heb golli ar eu dau ymweliad diwethaf â Neuadd y Parc (cyfartal 1, ennill 1).

 

Record cynghrair diweddar:

Y Seintiau Newydd: ✅✅➖✅➖

Y Barri: ✅✅➖❌➖

 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau i’w gweld ar Sgorio nos Lun am 5:30.

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?