S4C

Navigation

Cymru 1-0 Mecsico
Cymru yn curo Mecsico mewn gêm gyfeillgar wrth i Chris Gunter ennill ei 100fed cap.

Cymru 1-0 Mecsico
Cymru yn curo Mecsico mewn gêm gyfeillgar wrth i Chris Gunter ennill ei 100fed cap.

Llwyddodd Cymru i guro Mecsico mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sadwrn wrth i Kieffer Moore sgorio unig gôl y gêm.

Fe enillodd Chris Gunter ei 100fed cap yn y gêm – y cyntaf yn hanes tîm rhyngwladol dynion Cymru.

Agorodd Cymru y sgorio wedi 10 munud o chwarae, gwaith da gan Jonny Williams ar yr asgell dde i groesi i’r cwrt chwech gyda Kieffer Moore yno i rwydo heibio Ochoa, golwr Mecsico.

Roedd edrychiad hollol gwahanol i dîm Cymru nath golli yn erbyn Gwlad Belg nos Iau, gyda Robert Page y rheolwr dros dro yn arbrofi gyda’r 11 dechreuodd y gêm.

Cafodd Ben Cabango, Rabbi Matondo a Dylan Levitt gyfle i ddechrau – gyda’r canlyniad yn un da yn erbyn tîm Mecsico sy’n nawfed yn y byd yn netholion Fifa.

Bydd Cymru yn troi eu sylw yn ôl i gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd 2022, gyda’r Weriniaeth Tsiec yn teithio i Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth ar gyfer ail gêm Cymru yn y gemau rhagbrofol.

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?