Un gêm sydd ar ôl i’w chwarae yn nhymor Uwch Gynghrair Cymru ac mae’n gêm anferthol wrth i Gaernarfon herio’r Drenewydd yn rownd derfynol y gemau ail gyfle gyda’r enillwyr yn sicrhau lle yng nghystadleuaeth newydd UEFA, Cyngres Europa, yn ogystal â gwobr o dros €200,000!
ROWND DERFYNOL GEMAU AIL GYFLE 2020/21
Caernarfon (6ed) v Y Drenewydd (7fed) | Dydd Sadwrn – 12:00 (S4C)
Ar ôl curo’r Barri ar Barc Jenner am y tro cyntaf ers 2004 y penwythnos diwethaf, bellach, dim ond 90 munud sydd yn gwahanu Caernarfon a’r wobr amhrisiadwy o gael cynrychioli Cymru yn Ewrop.
Tydi Caernarfon erioed wedi chwarae yn Ewrop o’r blaen felly teg dweud bod hon yn un o gemau mwyaf holl hanes y Caneris.
Dyma’r tro cyntaf hefyd i’r Cofis gyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle ar ôl baglu yn y rownd gynderfynol yn erbyn Met Caerdydd ‘nôl yn 2019 (colli 2-3 ar yr Oval).
Mae hi wedi bod yn flwyddyn rwystredig i gefnogwyr Caernarfon sydd wedi bod yn ysu i gael heidio i’r Oval i gefnogi eu harwyr lleol, ond byddai tocyn i Ewrop yn rodd perffaith i’r Cofi Army.
Yn wahanol i Gaernarfon, mae gan Y Drenewydd brofiad o ennill y gemau ail gyfle, a felly phrofiad o chwarae yn Ewrop.
Mae Robiniaid y canolbarth wedi cystadlu yn chwech o’r saith gemau ail gyfle diwethaf, gan ddod yn fuddugol yn nhymor 2014/15.
Roedd ymgyrch Ewropeaidd haf 2015 yn un cofiadwy i dîm Chris Hughes – curo Valletta o Malta ddwywaith i gyrraedd ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa, a chwarae yn erbyn cewri Denmarc, Copenhagen (colli 1-5 dros y ddau gymal).
Mae chwaraewyr fel David Jones, Craig Williams, Shane Sutton a Kieran Mills-Evans wedi cael blas o chwarae’n Ewrop i’r Robiniaid ac yn awyddus i gael tro arall arni.
Mae 12 chwaraewr yng ngharfan Y Drenewydd â phrofiad o bêl-droed Ewropeaidd, yn cynnwys James Davies a Jordan Evans chwaraeodd i Derwyddon Cefn dan arweiniad Huw Griffiths yn 2018 ar ôl ennill y gemau ail gyfle.
O garfan Caernarfon, y golwr Lewis Brass a’r blaenwr Mike Hayes yw’r ddau sydd â phrofiad gwirioneddol o chwarae’n Ewrop.
Y ddau wedi gwneud chwe ymddangosiad yn Ewrop gyda Brass yn cadw llechen lân yn y fuddugoliaeth enwog i Gei Connah oddi cartref yn erbyn Kilmarnock yn 2019.
Er gorffen y tymor yn y Chwech Isaf, mae’r Drenewydd wedi gallu adeiladu momentwm yn ail ran y tymor gan ennill saith o’u 10 gem wedi’r hollt, gyda Caernarfon yn ennill dim ond unwaith yn y Chwech Uchaf.
Dyma’r 10fed tro i glwb gael camu i Ewrop trwy’r gemau ail gyfle yng Nghymru, ac yn y naw ymgyrch diwethaf dim ond unwaith mae’r tîm sy’n 6ed wedi ennill ffeinal y gemau ail gyfle, sef Y Drenewydd yn 2014/15.
Ystadegyn arall fydd efallai’n poeni’r Cofis yw bod y tîm sydd wedi gorffen yn 6ed wedi colli’r bedair rownd derfynol diwethaf yn olynol.
Newyddion da i’r Drenewydd felly, gan fod y clwb sy’n 7fed wedi ennill y gemau ail gyfle ddwywaith (Met Caerdydd 18/19 a’r Bala 12/13).
Bangor yw’r unig glwb i ennill y gemau ail gyfle ddwywaith (12/13 a 16/17), ond bydd Y Drenewydd yn gobeithio ymuno â’r clwb hwnnw ddydd Sadwrn.
Bydd yr enillwyr yn cynrychioli Cymru yn rownd ragbrofol gyntaf Cyngres Europa ym mis Gorffennaf, ynghyd â’r Seintiau Newydd a’r Bala, gyda’r gemau’n cael eu dethol ar 15 Mehefin.
Canlyniadau tymor yma: Y Drenewydd 2-3 Caernarfon, Caernarfon 1-1 Y Drenewydd
Record diweddar:
Caernarfon: ➖✅❌❌✅
Y Drenewydd: ✅❌✅❌✅