Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi eu bod wedi dod a chytundeb Rob Page fel rheolwr tîm pêl-droed Cymru i ben.
Mae Page wedi bod o dan bwysau cynyddol yn ddiweddar, wedi i Gymru gael canlyniadau siomedig yn eu gemau cyfeillgar diwethaf yn erbyn Gibraltar a Slofacia – gydag un gêm yn ddi-sgor, a cholli’n drwm yn yr ail gêm.
Methodd Cymru â chyrraedd Pencampwriaeth Euro 2024 yr haf hwn hefyd, wedi iddyn nhw golli yn erbyn Gwlad Pwyl yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle ym mis Mawrth eleni.
Ym mis Awst 2019, fe gafodd Page ei benodi yn is hyfforddwr i’r tîm cyntaf, a hynny o dan y rheolwr ar y pryd, Ryan Giggs.
Cafodd ei benodi yn rheolwr dros dro y tîm ym mis Tachwedd 2020, wedi i Ryan Giggs gael ei arestio ar amheuaeth o ymosod.
Fe ollyngwyd y cyhuddiadau yn erbyn Giggs yn ddiweddarach, ond erbyn hynny roedd wedi ymddiswyddo o’i swydd fel rheolwr Cymru, gyda Page wedi cymryd drosodd yn barhaol.
Ym mis Ebrill 2021, cadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru y byddai Page yn rheoli Cymru ym mhencampwriaeth yr Euros.
Llwyddodd y tîm i gyrraedd yr 16 olaf cyn i Denmarc eu curo 4-0.
Cwpan y Byd
Arweiniodd Page Gymru i’w Cwpan y Byd cyntaf ers 1958, ond roedd eu perfformiadau yn Qatar yn siomedig, gan golli yn erbyn Lloegr ac Iran, gyda’u hunig bwynt yn dod o gêm gyfartal gyda’r Unol Daleithiau.
Ym mis Medi 2022, arwyddodd gytundeb pedair blynedd gyda’r Gymdeithas.
Wrth gyhoeddi’r newyddion am ddiswyddo Page, dywedodd Dave Adams, Prif Swyddog Pêl-droed CBDC: “Hoffwn ddiolch i Rob am ei waith gyda’r Gymdeithas dros y saith mlynedd diwethaf, yn gyntaf fel Prif Hyfforddwr y tîm D21 ac yna fel Rheolwr Cymru.”
“Mae gwaith Rob wedi arwain at lwyddiant dros y blynyddoedd diwethaf, gan gyrraedd y rownd 16 olaf yn EURO 2020 a chymryd y tîm i bencampwriaeth Cwpan y Byd FIFA 2022.
“Yn ystod ei gyfnod fel Rheolwr, fe wnaeth 18 chwaraewr cynrychioli Cymru am y tro gyntaf. Wrth edrych tuag at y dyfodol, bydd y profiadau hyn yn cefnogi ein nod i sicrhau bod Tîm Cenedlaethol y Dynion yn cyrraedd pencampwriaethau EURO a Chwpan y Byd yn gyson.”
Dywedodd Noel Mooney, Prif Weithredwr CBDC, “Ar ran fy hun a’r holl Gymdeithas, hoffwn estyn ein diolch i Rob Page am ei ymrwymiad a’i ymroddiad i’w swyddi efo’r Timoedd Cenedlaethol.
“O dan arweinyddiaeth Rob Page, mae ein tîm dynion Cymru wedi dathlu buddugoliaethau arwyddocaol sydd wedi creu nifer o atgofion anhygoel i’n cenedl, yn fwyaf nodedig ein Cwpan y Byd cyntaf mewn chwe deg pedair o flynyddoedd.”
“Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ein ‘Rhagoriaeth’, un o werthoedd CBDC, ac yn edrych ymlaen at y cyfleoedd ar gyfer ein timoedd cenedlaethol a Phêl-droed Cymru.”