100 cap, prif sgoriwr Cymru gyda 44 gôl a gyrfa liwgar ar ac oddi ar y cae…
Sioned Dafydd sy’n cwrdd â Helen Ward yn Vicarage Road, Watford i drafod gyrfa liwgar ymosodwr Cymru ac i daro golwg ar ei chasgliad o grysau pêl-droed.
O ennill Cwpan FA Lloegr gydag Arsenal, yn dychwelyd i’r gêm ar ôl genedigaeth ei phlant a twf gêm y merched gyda Chymru, dyma Sgwrs hir a difyr gydag un o arwyr Cymru.





