Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau strwythur newydd ar gyfer Uwch Gynghrair JD Cymru ar gyfer tymor 2026/27 ymlaen.
Yn dilyn rhyddhad y strategaeth JD Cymru Premier yn gynharach yn y flwyddyn, mae adolygiad helaeth o’r strwythur wedi digwydd gyda sawl fformat cynghrair yn cael eu harchwilio a’u hasesu.
Aseswyd y fformatau yn erbyn nodau craidd strategaeth JD Cymru Premier i:
• Sicrhau cystadleuaeth gyffrous i bawb sy’n gysylltiedig â’r gynghrair
• Adeiladu proffil, brand ac ymwybyddiaeth y Gynghrair
• Tyfu presenoldeb cyfartalog gemau
• Cryfhau cynnyrch ar y cae chwarae a chydbwysedd cystadleuol
• Datblygu portffolio masnachol y Gynghrair
Strwythur newydd JD Cymru Premier
O’r tymor 2026/27 ymlaen, bydd JD Cymru Premier yn cynyddu o’r fformat 12 tîm presennol i gystadleuaeth 16 tîm.
Bydd pob clwb yn chwarae yn erbyn ei gilydd ddwywaith, unwaith adref ac unwaith i ffwrdd.
Ar ôl Diwrnod Gêm 30, bydd y gynghrair yn rhannu’n dri grŵp.
Bydd y chwech uchaf yn y tabl yn chwarae yn erbyn ei gilydd unwaith eto, gyda’r clwb ar frig y tabl ar ôl Diwrnod Gêm 35 yn cael ei goroni’n bencampwyr.
Bydd y clybiau yn yr ail safle i’r chweched safle yn gymwys i’r gemau ail gyfle ar gyfer
cymwysterau Ewropeaidd diwedd y tymor.
Bydd y clybiau yn y safleoedd seithfed i’r degfed yn chwarae yn erbyn ei gilydd unwaith eto, gyda’r clwb yn y seithfed safle ar ôl Diwrnod Gêm 33 yn hawlio’r lle olaf a fawrygir yn y gemau ail gyfle cymhwyster Ewropeaidd diwedd y tymor.
Yn olaf, bydd y clybiau yn y safleoedd 11eg i’r 16eg hefyd yn chwarae yn erbyn ei gilydd unwaith eto. Ar ddiwedd Diwrnod Gêm 35, bydd y clybiau yn y 15fed a’r 16eg safle yn cael eu hisraddio’n awtomatig, tra bydd y clwb yn y 14eg safle yn cystadlu mewn gêm ail gyfle.
Yma, byddant yn cwrdd â’r enillydd rhwng yr ail safle yn JD Cymru North a’r ail safle
yn JD Cymru South am yr hawl i aros yn JD Cymru Premier.