S4C

Navigation

Ar y cyfan, roedd hi’n wythnos siomedig i glybiau Cymru yn Ewrop gan i’r Seintiau Newydd, Cei Connah, Caernarfon a Pen-y-bont fethu ag ennill eu gemau agoriadol. 

Di-sgôr oedd hi rhwng Cei Connah a Ballkani yn rownd ragbrofol gyntaf Cyngres UEFA, ond colli bu hanes Y Seintiau Newydd, Caernarfon a Pen-y-bont yn y cymal cyntaf. 

Ar y cyfan fe ildiodd clybiau Cymru wyth gôl rhyngddynt gan fethu â sgorio dim un gôl ar draws y bedair gêm. 

Bydd Y Seintiau Newydd yn croesawu Sabah i Groesoswallt nos Fawrth, tra bydd Cei Connah, Caernarfon a Pen-y-bont i gyd yn teithio oddi cartref ar gyfer yr ail gymal. 

 

 

Y Seintiau Newydd (0) v (2) Sabah | Nos Fawrth, 14 Gorffennaf – 18:30 (Yn fyw arlein) 

(Neuadd y Parc, Croesoswallt – Ail Gymal Rownd Ragbrofol Gyntaf Cynghrair y Pencampwyr 2026/27) 

Wedi gornest galed yn Azerbaijan bydd angen i’r Seintiau sgorio ddwywaith nos Fawrth yma os am aros yng Nghynghrair y Pencampwyr.  

Fe wnaeth Sabah llwyr reoli’r cymal cyntaf, ond fe gymrodd hi 66 munud cyn iddyn nhw rwydo’r gôl agoriadol o gic gornel gyda Veljko Simic yn cael peniad rhydd chwe llath o flaen gôl. 

A Simic grêodd yr ail gyda phas dreiddgar i Kaheem Parris, a gododd y bêl yn gynnil dros y golwr, Nathan Shepperd wedi 84 munud. 

Fe gafodd amddiffynnwr Sabah, Steve Solvet ei anfon o’r cae wedi 92 munud ar ôl derbyn ei ail gerdyn melyn, ond roedd hi’n rhy hwyr i’r Seintiau fedru manteisio ar y dyn ychwanegol. 

Dyw clwb Sabah m’ond wedi bodoli ers naw mlynedd, ac fe enillon nhw bencampwriaeth Azerbaijan am y tro cyntaf erioed y tymor diwethaf gan orffen naw pwynt uwchben Qarabag, a oedd wedi ennill 11 o’r 12 pencampwriaeth blaenorol. 

Mae Sabah wedi cyrraedd Ewrop am y pedwerydd tymor o’r bron gan ennill tair o’u saith rownd ragbrofol hyd yma, ond dyw’r clwb erioed wedi mynd heibio’r drydedd rownd ragbrofol.  

Y Seintiau Newydd yw clwb mwyaf llwyddiannus Cymru yn Ewrop gan i’r tîm o Groesoswallt chwarae’n gyson ar y cyfandir ers 1996. 

Llwyddodd y Seintiau i fynd heibio’r rowndiau rhagbrofol am y tro cyntaf erioed yn 2024 a chystadlu yn rownd y gynghrair Cyngres UEFA ble chwaraeon nhw yn erbyn Panathinaikos a Fiorentina. 

Ond doedd yr ymgyrch ddiwethaf ddim mor llwyddiannus gyda’r Seintiau’n methu ag ennill dim un o’u pedair gêm Ewropeaidd yn 2025 (cyfartal 1, colli 3). 

Bydd enillwyr y rownd hon yn wynebu Vardar (Gog. Macedonia) neu KuPS (Y Ffindir) yn yr ail rownd ragbrofol, tra bydd y collwyr yn syrthio i Gyngres UEFA i herio Flora Tallinn (Estonia) neu Iberia Tbilisi (Georgia). 

 

Record YSN yn Ewrop: 

Rowndiau: 52 (ennill 12, colli 40) / Gemau: 97 (ennill 20, cyfartal 16, colli 61) 

Tro diwethaf: (2025/26) Colli eu dwy rownd llynedd. Colli wedi amser ychwanegol yn erbyn Shkëndija yng Nghynghrair y Pencampwyr (1-2 dros y ddau gymal) cyn colli’n erbyn Differdange yng Nghyngres UEFA (0-2 dros y ddau gymal). 

 

FC Ballkani (0) v (0) Cei Connah | Nos Iau, 16 Gorffennaf – 19:00 

(Stadiwm Fadil Vokrri, Pristina – Ail Gymal Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres UEFA 2026/27) 

Cei Connah sydd yn y safle gorau o’r pedwar clwb Cymreig yn dilyn eu gêm ddi-sgôr yn y cymal cyntaf ym Mae Colwyn nos Fercher. 

Fe gafodd y Nomadiaid y gorau o’r cyfleoedd ar Ffordd Llanelian a bu dim rhaid i golwr newydd Cei Connah, Chris Renshaw wneud dim un arbediad drwy gydol y gêm. 

Roedd Renshaw yn un o naw o chwaraewyr i wneud eu ymddangosiadau cystadleuol cyntaf i dîm John Disney. 

Am yr eildro mewn pum mlynedd bydd Cei Connah yn dychwelyd i Gosofo ar gyfer gêm Ewropeaidd. 

Collodd Cei Connah o 5-6 dros y ddau gymal yn erbyn Prishtina yn 2021/22, a bydd y Nomadiaid yn gobeithio am well canlyniad yn erbyn FC Ballkani y tymor hwn.  

Sefydlwyd FC Ballkani yn 1947, ond daeth eu hymddangosiad cyntaf yn Ewrop ddim tan tymor 2022/23. 

Ers hynny, mae’r clwb wedi chwarae 39 gêm yn Ewrop mewn dim ond pedair mlynedd, gan llwyddo i fynd heibio rowndiau rhagbrofol Cyngres UEFA ar ddau achlysur, yn 2022/23 a 2023/24.  

FC Ballkani oedd y clwb cyntaf o Gosofo i fynd heibio rowndiau rhagbrofol Ewrop, ond tydyn nhw erioed wedi wynebu tîm o Gymru cyn eleni. 

Mae’r Nomadiad hefyd yn hen bennau ar gystadlu’n Ewrop bellach ar ôl chwarae 23 gêm a churo pump, gan gamu ‘mlaen ar ddau achlysur yn dilyn buddugoliaethau yn erbyn Stabaek yn 2016/17 a Kilmarnock yn 2019/20. 

Bydd enillwyr y rownd hon yn camu ymlaen i wynebu unai Bohemians (Iwerddon) neu St Joseph’s (Gibraltar) yn ail rownd ragbrofol Cyngres UEFA. 

 

Record Cei Connah yn Ewrop: 

Rowndiau: 12 (ennill 2, colli 10) / Gemau: 23 (ennill 5, cyfartal 3, colli 15) 

Tro diwethaf: (2024/25) Colli wedi amser ychwanegol yn erbyn Bravo (1-2 dros ddau gymal). 

  

Levadia Tallinn (5) v (0) Caernarfon | Nos Iau, 16 Gorffennaf – 17:30  

(A. Le Coq Arena, Tallinn – Ail Gymal Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres UEFA 2026/27) 

Roedd hi wastad am fod yn her i Gaernarfon yn dechrau eu hymgyrch ar yr Oval yn erbyn y tîm sydd ar frig cynghrair Estonia, Levadia Tallin. 

Er waetha’r sgôr roedd hi’n noson arbennig i Gaernarfon wrth iddyn nhw ddychwelyd i’r Oval wedi blwyddyn o waith adnewyddu, gan chwarae eu gêm Ewropeaidd gyntaf erioed yno. 

Ac er i’r Caneris gystadlu’n frwd am y chwarter awr agoriadol fe agorodd y llif-ddorau wedi hynny gyda capten yr ymwelwyr, Rasmus Peetson yn rasio trwy amddiffyn Caernarfon i gyfarfod croesiad Mikhel Ainsalu a phenio’r bêl i gefn y rhwyd. 

Roedd hi’n 2-0 ugain munud yn ddiweddarach wrth i’r bêl dasgu i ymyl y cwrt cosbi i draed Joao Pedro, a’i ergyd wych i gornel dde Connor Roberts yn rhoi mantais clir i’r clwb o Estonia. 

Funudau cyn yr egwyl daeth y drydedd i Levadia Tallin – anrhefn yn amddiffyn y Cofis yn golygu cyfle rhwydd o flaen gôl i Mark Roosnupp ar gyfer ei chweched gôl y tymor yma. 

Aeth pethau ddrwg i waeth yn yr ail hanner wrth i Mikhel Ainsalu godi’r bêl dros Connor Roberts ar ôl cyfuniad da gyda’r rhif naw, Bubacarr Tambedou i rwydo pedwaredd Tallinn.  

Cafodd Ben Nash ei anfon o’r cae am yr hanner awr olaf, ac fe fethodd Levadia gic o’r smotyn, ond daeth y bumed cyn y chwiban olaf gyda’r eilydd Enock Otoo yn ergydio o ddeg llath o flaen gôl i adael y Caneris â mynydd i’w ddringo yn yr A. Le Coq Arena. 

Tydi’r clwb o Estonia erioed wedi mynd heibio’r rowndiau rhagbrofol yn Ewrop, ac ar ôl cymal cyntaf llwyddiannus ar yr Oval, byddent yn hyderus i gyrraedd yr ail rownd ragbrofol am y pumed tro mewn chwe tymor. 

Bydd hi’n brofiad arbennig i’r Cofi Army draw yn Tallinn wrth i’r tîm gystadlu yn yr un stadiwm a ble enillodd Cymru o 1-0 yn erbyn Estonia yn 2021 diolch i gôl Kieffer Moore. 

Bydd yr enillwyr yn camu ymlaen i wynebu IFK Goteborg (Sweden) yn ail rownd ragbrofol Cyngres UEFA. 

 

Record Caernarfon yn Ewrop: 

Rowndiau: 2 (ennill 1, colli 1) / Gemau: 5 (ennill 1, colli 4) 

Tro diwethaf: (2024/25) Curo Crusaders ar g.o.s (3-3 dros ddau gymal) cyn colli yn erbyn Legia Warsaw (0-11 dros ddau gymal). 

 

Santa Coloma (1) v (0) Pen-y-bont | Nos Iau, 16 Gorffennaf – 18:00  

(Estadi Naconal, Andorra – Ail Gymal Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres UEFA 2026/27) 

Bydd Pen-y-bont yn rhwystredig gyda chanlyniad y cymal cyntaf gan ystyried bod y Gleision wedi cael cyfle gwych i orffen y gêm yn gyfartal. 

Peniodd Guillaume Lopez i gefn y rhwyd i roi‘r ymwelwyr ar y blaen wedi chwarter awr yn dilyn croesiad gwych gan y rhif naw Pedra Munoz o’r asgell dde. 

Ond saith munud wedi’r egwyl fe gafodd Pen-y-bont gic o’r smotyn yn dilyn llawio’n y cwrt gan un o amddiffynwyr y clwb o Andorra. 

Yr arwyddiad newydd o Aldershot Town, Ryan Hill gymrodd y cyfrifoldeb o 12 llath, ond fe ddyfalodd y golwr Mecsicanaidd, Alcaraz Diaz yn gywir gan ddeifio’n isel i’w dde i wneud arbediad safonol i gadw Santa Coloma ar y blaen. 

Er fod Pen-y-bont wedi cael y mwyaf o’r meddiant, doedd dim ffordd heibio’r golwr o Mecsico, ac mae’r fantais fain gan Santa Coloma cyn yr ail gymal. 

Mae Pen-y-bont wedi cyrraedd Ewrop am y trydydd tro yn eu hanes ar ôl gorffen y tymor diwethaf yn llwyddiannus wrth guro Hwlffordd yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle.  

Dyma’r eildro i’r timau yma gyfarfod yn Ewrop, gyda’r ornest gyntaf yn dod yn 2024, sef ymddangosiad cyntaf Pen-y-bont yn Ewrop, pan enillodd Santa Coloma’r ail gymal yn yr amser ychwanegol.  

Mae gan Santa Coloma cryn dipyn o brofiad yn Ewrop – clwb mwyaf llwyddiannus yn holl hanes y Primera Divisio yn Andorra ar ôl ennill y bencampwriaeth ar 13 achlysur. 

Bydd yr enillwyr yn wynebu Rapid Wien (Awstria) yn ail rownd ragbrofol Cyngres UEFA. 

 

Record Pen-y-bont yn Ewrop: 

Rowndiau: 2 (ennill 0, colli 2) / Gemau: 5 (cyfartal 2, colli 3) 

Tro diwethaf: (2025/26) Colli yn erbyn Kauno Zalgiris (1-4 dros ddau gymal). 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?