Mae UEFA wedi cadarnhau bod pencampwriaeth ryngwladol Ewrop 2020 wedi ei ohirio am flwyddyn oherywydd pandemig COVID-19. Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal rhwng 11 Mehefin a 11 Gorffennaf 2021.
Mae UEFA wedi cadarnhau bydd Ewro 2020 yn cael ei ohirio am flwyddyn oherwydd pandemig coronafeirws.
Cafodd y penderfyniad ei greu mewn cynhadledd fideo rhwng UEFA a chymdeithasau pêl-droed Ewrop ar ddydd Mawrth, 17 Mawrth.
Bydd y gystadleuaeth y nawr yn cael ei gynnal rhwng 11 Mehefin ac 11 Gorffennaf 2021.
Mae’r penderfyniad yn golygu bod modd cynnal gemau sy’n weddill yn y cynghreiriau domestig yn ystod cyfnod yr haf.
Gymdeithas Bêl-droed yn gohirio pêl-droed yng Nghymru.
Mae’r gymdeithas bêl-droed eisoes wedi cadarnhau bod gemau cyfeillgar Cymru ym mis Mawrth wedi canslo, yn ogystal â gohirio pêl-droed yng Nghymru tan mis Ebrill.
Roedd Cymru i fod i wynebu Awstria ac America – cyn i’r gemau cael eu canslo wythnos diwethaf.