S4C

Navigation

Bydd un gêm gynghrair yn cael ei chwarae nos Fawrth wrth i Met Caerdydd groesawu Hwlffordd i Gampws Cyncoed

 

Nos Fawrth, 29 Medi

Met Caerdydd (9fed) v Hwlffordd (11eg) | Nos Fawrth – 19:45

Ar ôl dechreuad campus i’r tymor, mae Met Caerdydd wedi arafu gan syrthio i’r 9fed safle yn dilyn cyfnod o bedair gêm heb fuddugoliaeth (cyfartal 3, colli 1).

Er hynny, mae’r myfyrwyr bum pwynt uwchben Hwlffordd, sydd ond wedi sgorio saith gôl yn eu 10 gêm gynghrair hyd yma.

Tydi Hwlffordd heb ennill dim un o’u pedair gêm oddi cartref y tymor yma, gan sgorio dim ond un gôl (Cei 1-1 Hwlffordd).

Ond dyw Hwlffordd heb golli yn eu 10 gêm gynghrair ddiwethaf yn erbyn Met Caerdydd, ac mae wyth o’r 12 gornest ddiwethaf rhwng y clybiau ym mhob cystadleuaeth wedi gorffen yn gyfartal ar ôl 90 munud.

 

Record cynghrair diweddar:

Met Caerdydd: ͏✅➖➖❌➖

Hwlffordd: ͏ ✅➖✅✅❌

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?