S4C

Navigation

Cymru’n curo’r Weriniaeth Tsiec 1-0 yn eu hail gêm yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022.

Sgoriodd Dan James unig gôl y gêm wedi 82 munud, gyda Cymru yn codi i’r trydydd safle yng ngrŵp ragbrofol E – un pwynt tu ôl i’r Weriniaeth Tsiec gyda Chymru â gêm wrth gefn.

Fe enillodd Gareth Bale cap rhif 90 heno a’r capten creodd y gôl gan chwipio’r bêl o’r asgell chwith i ganfod Dan James – gyda pheniad yr asgellwr yn curo Vaclík, golwr Gweriniaeth Tsiec.

Mae Gareth Bale wedi bod yn rhan o 14 o goliau Cymru yn eu 19 ymddangosiad diwethaf (sgorio 7 a chreu 7) – gan greu ym mhob un o’i bedwar ymddangosiad diwethaf i’w wlad.

Roedd rhaid galw ar Amddiffyn arwrol ym munudau ola’r gem wrth i Rodon arbed ergyd Celustka drwy roi ei gorff rhwng y bel a’r gôl.

Fe welodd Patrik Schick garden goch yn fuan yn yr ail hanner am lorio Connor Roberts, gyda Roberts yn cael ei hel o’r maes ei hun yn hwyrach yn y gêm ar ôl derbyn ail gerdyn melyn.

Bydd Cymru yn teithio i Belarws ar gyfer eu gêm nesaf yn yr ymgyrch ragbrofol ym mis Medi, cyn croesawu Estonia i Gaerdydd.

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?