S4C

Navigation

Does dim seibiant i’w gael i dimau Uwch Gynghrair Cymru gyda chwe gêm arall i’w chwarae nos Fawrth, yn cynnwys y gêm fyw ar Facebook a Youtube rhwng Cei Connah a Chaernarfon am 19:45.

Nos Fawrth, 6 Hydref

Cei Connah v Caernarfon | Nos Fawrth – 19:45 (Facebook / Youtube)
Y pencampwyr Cei Connah sy’n arwain y pac ar ôl ennill eu pedair gêm gynghrair ddiwethaf yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Y Bala ar y penwythnos agoriadol.

Mae Caernarfon wedi ennill hanner eu gemau cynghrair y tymor yma – dechrau digon parchus o ystyried sawl chwaraewr allweddol sydd wedi gadael dros yr haf (Alex Ramsay, Nathan Craig, Leo Smith, Jamie Breese a mwy).

Dyw Cei Connah heb golli gartref yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy ers blwyddyn hanner (0-2 yn erbyn Y Seintiau Newydd ym mis Mawrth 2019), ac mae’r Nomadiaid wedi sgorio 14 gôl yn eu tair gêm gartref ddiwethaf yn erbyn Caernarfon (Cei 4-0 Cfon / Cei 4-2 Cfon / Cei 6-2 Cfon).

Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ➖✅✅✅✅
Caernarfon: ➖✅❌❌✅✅

Derwyddon Cefn v Aberystwyth | Nos Fawrth – 19:45
Mae Bruno Lopes wedi cael dechrau caled i fywyd fel rheolwr yn Uwch Gynghrair Cymru a gyda dim ond un pwynt i’w henw ar ôl pum gêm, y Derwyddon sy’n dechrau’r penwythnos ar waelod y tabl.

Gwahaniaeth goliau’n unig sy’n gwahanu Aberystwyth a safleoedd y cwymp ac roedd Gavin Allen yn amlwg yn siomedig ar ôl colli yn erbyn 10 dyn Y Barri brynhawn Sadwrn ar ôl bod ar y blaen.

2-2 oedd hi rhwng y ddau dîm yma ar y Graig nôl ym mis Mawrth, sef gêm olaf y clybiau’r tymor diwethaf, a gêm olaf Stuart Gelling wrth y llyw i’r Derwyddon.

Record cynghrair diweddar:
Derwyddon Cefn: ❌❌➖❌❌
Aberystwyth: ➖✅➖❌❌

Hwlffordd v Pen-y-bont | Nos Fawrth – 19:45
Roedd y ddau dîm yma’n dathlu dros y penwythnos ar ôl brwydro nôl i gipio’r triphwynt yn erbyn Y Bala a’r Drenewydd, ac adeiladu ar y canlyniadau hynny fydd y nod nos Fawrth.

Mae Hwlffordd wedi codi i’r 10fed safle ac yn anelu i agor bwlch uwchben y ddau isaf, tra byddai buddugoliaeth i Ben-y-bont yn dechrau tanio eu gobeithion o gyrraedd y Chwech Uchaf.

Mae’r clybiau’n gyfarwydd iawn â’i gilydd o’u cyfnod yng Nghynghrair y De, ond hon fydd y gêm gyntaf erioed rhwng y ddau dîm yn Uwch Gynghrair Cymru.

Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ➖➖❌❌✅
Pen-y-bont: ➖❌❌✅✅

Y Barri v Met Caerdydd | Nos Fawrth – 19:45
Ar ôl colled siomedig yn Ewrop dros yr haf ac yna colli’n drwm yn erbyn y Seintiau ar benwythnos agoriadol y tymor newydd mae’r Barri wedi troi’r gornel, a bellach mae tîm Gavin Chesterfield ar rediad o bedair buddugoliaeth yn olynol a dim ond un pwynt oddi ar frig y tabl.

Mae Met wedi colli tri ymosodwr dylanwadol yn ystod y flwyddyn diwethaf (Adam Roscrow, Will Evans, Jordan Lam) ac mae hynny wedi profi’n gostus gan mae’r myfyrwyr sydd â’r record ymosodol salaf yn y gynghrair (4 gôl mewn 6 gêm).

Ar ôl curo Aberystwyth ar y penwythnos agoriadol mae Met Caerdydd wedi mynd ar rediad o bum gêm heb ennill gan syrthio i safleoedd y cwymp.

Dyw Met Caerdydd heb ennill oddi cartref yn erbyn Y Barri ers tair blynedd, hynny yng Nghwpan y Gynghrair, ond dyw’r myfyrwyr erioed wedi ennill ar Barc Jenner yn Uwch Gynghrair Cymru.

Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ❌✅✅✅✅
Met Caerdydd: ➖❌➖❌❌

Y Fflint v Y Bala | Nos Fawrth – 19:45
Bydd y ddau dîm yn ysu am ymateb ar ôl colledion siomedig dros y penwythnos – Y Bala’n colli gartref yn erbyn Hwlffordd, a’r Fflint yn dioddef crasfa yng Nghroesoswallt.

Er bod degawd wedi mynd heibio ers i’r timau gwrdd mewn gêm gynghrair, mae’r clybiau wedi herio’i gilydd ar sawl achlysur mewn gemau cwpan dros y tymhorau diwethaf, a’r Fflint oedd yn fuddugol yn y frwydr ddiweddaraf rhwng y timau, llai na blwyddyn yn ôl yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru (Fflint 2-0 Bala).

Dim ond pwynt sy’n gwahanu’r ddau dîm yng nghanol y tabl, ond mae gan Y Bala gemau wrth gefn gan y bydd rhaid ail-chwarae eu gêm yn erbyn Y Seintiau Newydd gafodd ei gohirio wedi 87 munud oherwydd nam gyda’r llifoleuadau.

Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ❌✅❌❌❌
Y Bala: ➖✅✅❌

Y Seintiau Newydd v Y Drenewydd | Nos Fawrth – 19:45
Mae’r Seintiau Newydd yn benderfynol i adennill tlws y cynghrair ac ar ôl ennill eu pedair gêm agoriadol gan sgorio 19 gôl a pheidio ildio unwaith mae tîm Scott Ruscoe yn sicr ar y trywydd cywir.

Torrodd Greg Draper record sgorio’r clwb brynhawn Sadwrn gan daro pump yn erbyn Y Fflint, a fo bellach yw prif sgoriwr holl hanes Y Seintiau Newydd gyda 156 o goliau cynghrair.

Mae’r Drenewydd wedi cael dechrau digon diflas i’r tymor gan ennill dim ond un o’u chwe gêm agoriadol, gyda dim ond un o’r gemau rheiny yn erbyn clwb orffennodd yn y Chwech Uchaf y tymor diwethaf (Cfon).

Y Robiniaid oedd yn fuddugol yn y gêm gynghrair ddiwethaf rhwng y timau yn Neuadd y Parc nôl ym mis Chwefror, ond cafodd y Seintiau ddial wythnosau’n ddiweddarach gan drechu’r Drenewydd 6-1 yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru.

Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅
Y Drenewydd: ❌➖➖✅❌

Bydd uchafbwyntiau’r gemau i’w gweld ar Mwy o Sgorio nos Fercher am 10:00.

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?