S4C

Navigation

Bu Dylan Ebenezer yn hel atgofion gyda chyn reolwr Cymru, Mike England am y fuddugoliaeth dros Lloegr 40 mlynedd yn ôl

Cymru 4-1 Lloegr | Blog Dylan Ebenezer

Dyma’r prynhawn perffaith. Tywydd gwych, kits cool a Chymru yn chwalu’r hen elyn ar y Cae Ras. Mae deugain mlynedd wedi mynd erbyn hyn ond mae’r delweddau disglair yr un mor drawiadol. Dyma un o’r canlyniadau mawr – gêm sydd yn rhan o chwedloniaeth pêl droed Cymru.

Dyma hefyd oedd gêm gyntaf Mike England fel rheolwr Cymru. England yn chwalu England. Am ffordd i ddechrau eich cyfnod yng ngofal y tîm.

O’n i ddigon ffodus i gael sgwrs gyda Mike yn ddiweddar. Er bo’ fi ddim yn ei gêm gyntaf – mi o’n i yn lot fawr o’r gemau dros y blynyddoedd nesaf.

Dychmygwch fod yn blentyn 9 oed yn gwylio Cymru yn curo Lloegr unwaith eto ym 1984 – diolch i gôl gyntaf Mark Hughes – a hynny yn ei gêm gyntaf. A dwi dal methu credu beth welais flwyddyn yn ddiweddarach – foli wallgof Sparky wrth i Gymru guro Sbaen o 3-0.

Sgoriodd Ian Rush ddwy yn y gêm yna – un o’r arwyr newydd oedd wedi dod drwodd yng nghyfnod Mike England. Rush, Hughes, Kevin Ratcliffe a Neville Southall. Rhai o’r chwaraewyr gorau yn y byd.

Bu England wrth y llyw am bron i wyth mlynedd – un o’r cyfnodau hiraf yng ngofal y tîm cenedlaethol. Ac un o’r cyfnodau mwyaf creulon hefyd.

Tase yna wobr am fethiant gogoneddus mi fyddai Cymru yn feistri corn.

Daeth y tîm o fewn trwch blewyn i gyrraedd pedair cystadleuaeth yn olynol – Cwpan y Byd 1982 a 1986 – ac Euro 1984 a 1988. Am bob diwrnod da fel Lloegr a Sbaen mae yna atgofion am gemau cyfartal costus.

Gwlad yr Ia ar y Vetch yn 81 ar ôl i’r llifoleuadau ddiffodd – ac wrth gwrs Yr Alban ar Barc Ninian yn 85.

Roedd Cymru angen ennill i gyrraedd Cwpan y Byd 86 ym Mecsico – a gyda 7 munud yn unig yn weddill roedd y cochion ar y blaen diolch i gôl gynnar Mark Hughes. Ond yn sydyn tarodd y bêl fraich Dave Phillips – pwyntiodd y dyfarnwr i’r smotyn ac roedd y freuddwyd ar ben. Eto…

Ond roedd trasiedi fwy i ddilyn. Cafodd rheolwr Yr Alban, Jock Stein drawiad ar ei galon wrth ochr y cae. Bu farw ar y ffordd i’r ysbyty.

Er ambell i atgof anodd roedd hi’n wych sgwrsio gyda Mike eto. Mae’n 78 oed erbyn hyn ond yn llawn bywyd – ac yn llawn straeon.

Fel chwaraewr roedd yn gapten ar Gymru ac yn arwr i Tottenham. Cafodd gyfnod gwych yn America gan chwarae gyda – ac yn erbyn – rhai enwau mawr y gêm.

Roedd John Charles ac Ivor Allchurch yn y tîm pan ddechreuodd gyda Chymru – yn Spurs chwaraeodd gyda Jimmy Greaves ac Alan Gilzean gan ennill Cwpan FA Lloegr, Cwpan UEFA a Chwpan y Gynghrair ddwywaith. Chwaraeodd yn erbyn Riva, Gerd Muller ac wrth gwrs Pele.

Daeth ei yrfa fel chwaraewr i ben yng ngêm gystadleuol olaf Pele i’r Cosmos yn Efrog Newydd…

Mae’r straeon yn ddiddiwedd.

Roedd hi’n fraint sgwrsio gyda fe.

Diolch am y sgwrs Mike, a diolch am yr atgofion.

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?