S4C

Navigation

Roedd hi’n ddechreuad addawol i gyfnod Cymru dan arweiniad Craig Bellamy ond gorffen yn ddi-sgôr yn erbyn Twrci wnaeth ei gêm gyntaf fel rheolwr ei wlad.

Gyda’r Wal Goch yn cyfeilio’n swnllyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd, fe wnaeth Cymru rheoli’r meddiant a symud y bêl yn gelfyd yn ystod yr hanner cyntaf.

Y capten Aaron Ramsey ac Ethan Ampadu ddaeth agosaf wrth i’r cochion fygwth gôl Twrci yn ystod ugain munud cyntaf tanllyd.

Peniodd Ben Davies heibio’r postyn, cyn i Joe Rodon gyfeirio hanner foli dros y trawst wrth i Gymru greu rhagor o gyfleoedd.

Roedd yr asgellwr Sorba Thomas yn credu ei fod wedi rhoi Cymru ar y blaen wedi 37 munud ar ôl codi’r bel dros y golwr, ond ni chafodd ei ganiatáu oherwydd ei fod yn camsefyll.

 

Roedd yr angerdd a’r egni i’w gweld wedi’r egwyl yn ogystal, gyda Thomas yn achosi problemau i amddiffyn Twrci gyda’i rediadau chwim lawr yr asgell chwith.

Cafodd Thomas a Harry Wilson gyfleoedd pellach gydag ergydion o bell wrth i Gymru barhau i bwyso.

Yn ei rwystredigaeth, cafodd ymosodwr Twrci, Barış Alper Yılmaz ei hel o’r maes wedi 61 munud ar ôl derbyn ail gerdyn melyn am dacl hwyr ar Neco Williams.

Ond heb i’r tîm cartref fanteisio ar eu cyfleoedd, roedd Twrci dal yn peri bygythiad, ac roedd yn rhaid i Danny Ward fod yn effro i arbed peniad gan Abdulkerim Bardakci wedi 84 munud.

Roedd un cyfle olaf i Brennan Johnson ym munudau ola’r gêm ond yn y diwedd, ni ddaeth y gôl hollbwysig i’r Cymry.

Ond heb os, roedd yna ddigon yn y perfformiad i gyffroi cefnogwyr Cymru wrth i’w sylw droi at Montenegro, eu gwrthwynebwyr nesaf yng Nghynghrair Cenhedloedd UEFA nos Lun.

 

Erthygl gan S4C Newyddion

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?