Triphwynt yn unig sy’n gwahanu’r pedwar uchaf yn y gynghrair, tra bod yna bedwar clwb y pen arall i’r tabl sy’n dal i aros am eu buddugoliaethau cyntaf y tymor hwn.
Y Seintiau Newydd sydd ar y brig ar ôl ennill pob un o’u saith gêm ddiwethaf yn dilyn canlyniad di-sgôr yn erbyn Pen-y-bont ar y penwythnos agoriadol.
Mae’r Fflint yn un o’r pedwar o glybiau sy’n stryffaglu ger y gwaelod, gyda’r tri tîm arall yn dimau sydd wedi esgyn dros yr haf (Trefelin, Rhydaman, Treffynnon).
Nos Fawrth, 15 Medi
Cei Connah (5ed) v Airbus UK (9fed) | Nos Fawrth – 19:45
Mae hi wedi bod yn bythefnos siomedig i Gei Connah wrth i’r Nomadiaid sicrhau dim ond un pwynt o’u dwy gêm ddiwethaf (Cei 1-1 Hwl, Bae 2-1 Cei).
Bydd Airbus yn fwy na bodlon gyda’u dechreuad hyd yma ar ôl ennill pedair a cholli pedair, ac mae carfan Mark Allen yn eistedd yn daclus yng nghanol y tabl.
Mae degawd wedi pasio ers i Airbus guro Cei Connah ddiwethaf ar ddydd Calan 2016 (Air 3-2 Cei), ac ers hynny mae’r Nomadiaid wedi ennill 13 gêm yn olynol yn erbyn eu cymdogion.
Does dim ond chwe milltir yn gwahanu Cei Connah a Brychdyn, a dyw’r Nomadiaid heb golli yn erbyn un o glybiau Sir y Fflint ers Ionawr 2025 (Fflint 2-1 Cei Connah).
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ͏✅✅✅➖❌
Airbus UK: ͏❌❌✅✅❌
Llandudno (6ed) v Caernarfon (3ydd) | Nos Fawrth – 19:45
Mi fydd hi’n ornest gyffrous yn y gogledd rhwng dau dîm sy’n anelu i sicrhau lle’n y Chwech Uchaf, a dau dîm sy’n hen gyfarwydd â chwarae ar Barc Maesdu wedi i Gaernarfon chwarae eu gemau cartref yno’r tymor diwethaf tra bo’r Oval yn cael ei adnewyddu.
Caernarfon yw prif sgorwyr y gynghrair ar ôl taro cyfartaledd o 2.88 gôl y gêm yn eu wyth gêm agoriadol, ac mae’r blaenwr Zack Clarke yn bell ar y blaen ar frig rhestr prif sgorwyr y gynghrair (9 gôl).
Mae Llandudno wedi cael dechrau cadarn i’w tymor cyntaf yn ôl yn yr uwch gynghrair, ac mae tîm Jordan Hadaway ar rediad rhyfeddol o 24 buddugoliaeth yn olynol gartref ym Mharc Maesdu (ers colli 2-3 yn erbyn Bwcle ym mis Mawrth 2025).
Dyw Llandudno erioed wedi curo Caernarfon, ond fon fydd yr ornest gyntaf rhwng y clybiau ers tymor 2018/29 pan orffennodd y gemau rhwng y timau yn gyfartal, gyda Sion Bradley yn sgorio i’r Cofis yn y ddwy gêm.
Record cynghrair diweddar:
Llandudno: ͏❌✅❌✅❌
Caernarfon: ͏✅✅❌✅✅
Pen-y-bont (4ydd) v Llansawel (12fed) | Nos Fawrth – 19:45
Mae Pen-y-bont yn parhau’n ddi-guro wedi’r wyth gêm gyntaf (ennill 5, cyfartal 3), a bydd y Gleision yn gobeithio cystadlu am le’n Ewrop unwaith eto eleni.
Dringo allan o’r Chwech Isaf yw’r nod i Lansawel gan fod y clwb wedi colli pedair gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf ers dwy flynedd.
Y Seintiau Newydd (3) yw’r unig dîm i ildio llai o goliau na Pen-y-bont (5), a dyw hogiau Rhys Griffiths m’ond wedi ildio dwy gôl gartref mewn pedair gêm.
Dyw Pen-y-bont heb ennill gêm gynghrair yn erbyn Llansawel ers mis Awst 2024, ond fe wnaeth y Gleision guro’r Cochion o 0-5 yn ail rownd Cwpan Cymru y tymor diwethaf.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ͏ ✅➖➖✅✅
Llansawel: ͏✅❌❌❌❌
Trefelin (14eg) v Cambrian (10fed) | Nos Fawrth – 19:45
Ar ôl ennill pencampwriaeth y de y tymor diwethaf, mae canlyniadau Trefelin wedi bod yn siomedig eleni ac mae tîm Andy Hill yn dal i aros em eu buddugoliaeth gyntaf yn yr uwch gynghrair (cyfartal 2, colli 6).
Er gorffen un safle’n îs na Trefelin ar ddiwedd y tymor diwethaf, mae Cambrian wedi cael dechrau tipyn gwell i’w hymgyrch gyntaf yn yr uwch gynghrair gan golli dim ond ddwywaith hyd yma (vs Cei Connah a’r Barri).
Does neb wedi sgorio llai o goliau na Trefelin (3), tra bod Cambrian wedi rhwydo 12 gôl, a’u seren, Liam Eason yn hawlio hanner y goliau rheiny (6).
Mae’r clybiau yn hen gyfarwydd â’i gilydd o’u cyfnod yn yr ail haen, a Cambrian gafodd y gorau o bethau yn yr ornest ddiweddaraf rhwng y ddau dîm, yn ennill o 0-4 ar Barc yr Ynys ym mis Mawrth.
Record cynghrair diweddar:
Trefelin: ͏❌➖❌➖❌
Cambrian: ͏✅❌➖➖✅
Treffynnon (16eg) v Bae Colwyn (8fed) | Nos Fawrth – 19:45
Mae Treffynnon wedi cael dechrau trychinebus i’r tymor – yn sicrhau dim ond un pwynt o’r 24 posib, ond yn ffodus iddyn nhw, mae yna bedwar clwb arall sy’n dal heb hawlio triphwynt hyd yma.
Er y dechrau araf, mae’n bosib y byddai buddugoliaeth nos Fawrth yn codi Treffynnon o safleoedd y cwymp, a dyna fydd y targed i dîm John Haseldin.
Roedd hi’n fuddugoliaeth felys i Fae Colwyn ddydd Sadwrn wrth iddyn nhw drechu Cei Connah o 2-1 gyda nifer o garfan y Gwylanod yn wynebu eu cyn-glwb, a bydd Michael Wilde yn benderfynol o sicrhau dwy fuddugoliaeth yn olynol am y tro cyntaf ers mis Mawrth.
Fe wnaeth y timau gyfarfod ar sawl achlysur yn yr ail haen gyda’r gemau diwethaf yn dod yn nhymor 2024/25 pan enillodd Bae Colwyn o 2-0 gartref ac oddi cartref cyn esgyn i’r uwch gynghrair.
Record cynghrair diweddar:
Treffynnon: ͏❌❌❌➖❌
Bae Colwyn: ͏✅❌✅❌✅
Y Barri (2il) v Rhydaman (15fed) | Nos Fawrth – 19:45
Mae tymor arbennig Y Barri yn parhau gyda’r Dreigiau wedi ennill saith o’u wyth gêm hyd yma, gyda’u hunig golled yn dod yn erbyn y pencampwyr, Y Seintiau Newydd.
Mae blaenwyr Y Barri, Elliot Dugan ac Owen Brain wedi sgorio chwe gôl yr un hyd yma, gan lenwi esgidiau Ieuan Owen ac Ollie Hulbert yn ddi-drafferth.
Tydi pethau heb fynd cystal i Rydaman, sydd m’ond wedi sgorio pedair gôl, ac mae’r newydd-ddyfodiaid wedi llithro i safleoedd y cwymp ar ôl methu ag ennill dim un o’u wyth gêm agoriadol.
Dyw’r clybiau heb gyfarfod ers tymor 2022/23 yng Nghynghrair y De, ble sgoriodd Lee Trundle dair o goliau mewn dwy gêm i Rydaman yn erbyn Y Barri (Aman 3-2 Barr, Barr 1-1 Aman).
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ͏✅✅✅❌✅
Rhydaman: ͏❌➖❌❌❌
Y Seintiau Newydd (1af) v Y Fflint (13eg) | Nos Fawrth – 19:45
Wedi saith buddugoliaeth yn olynol mae’r Seintiau Newydd ar frig y tabl, ac yn parhau yn ddi-guro y tymor hwn (ennill 7, cyfartal 1).
Mae tîm Craig Harrison wedi llwyddo i gadw chwe llechen lân mewn wyth gêm gynghrair gan ildio dim ond tair gôl hyd yma.
Mae’r Fflint wedi cael dechrau difrifol i’r tymor gan gipio dim ond dau bwynt o’r 24 posib, ac mae’r Sidanwyr yn un o’r pedwar o dimau sy’n dal i aros am eu triphwynt cyntaf.
Dyw’r Fflint heb guro’r Seintiau ers 31 o flynyddoedd, ac yn yr wyth gornest ddiwethaf rhwng y clybiau mae’r Seintiau wedi sgorio cyfartaledd o 5.25 gôl y gêm, yn cynnwys buddugoliaethau swmpus o 8-1, 7-0 a 6-2.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ͏͏✅✅✅✅✅
Y Fflint: ͏❌➖❌❌➖
Bydd y gêm rhwng Met Caerdydd a Hwlffordd yn cael ei chwarae ar nos Fawrth, 29 Medi.




