S4C

Navigation

Mae’r pencampwyr wedi codi i frig y tabl ar ôl dod â rhediad perffaith Y Barri i ben y penwythnos diwethaf wrth i Rhys Hughes sgorio unig gôl y gêm yn y munudau olaf i sicrhau triphwynt hollbwysig i’r Seintiau Newydd. 

Does dim ond pedwar pwynt yn gwahanu’r Seintiau Newydd a Pen-y-bont yn 6ed, sef yr unig ddau glwb sydd heb golli dim un o’u saith gêm agoriadol. 

Yn y Chwech Isaf mae yna bedwar clwb sy’n parhau i aros am eu buddugoliaethau cyntaf y tymor hwn (Rhydaman, Trefelin, Y Fflint, Treffynnon). 

Y ddau dîm arall sy’n eistedd yn y Chwech Isaf yw Hwlffordd a Llansawel, ac mi fyddan nhw’n cyfarfod mewn gêm fawr ar Ddôl y Bont nos Wener. 

 

Nos Wener, 11 Medi 

Airbus UK (8fed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Wener – 19:45 

Wedi chwe buddugoliaeth yn olynol mae’r Seintiau Newydd wedi codi i frig y cynghrair am y tro cynta’r tymor hwn. 

Mae tîm Craig Harrison wedi llwyddo i gadw pum llechen lân mewn saith gêm gynghrair gan ildio dim ond tair gôl hyd yma (0.4 gôl y gêm). 

Bydd Airbus yn fwy na bodlon gyda’u canlyniadau hwythau gan fod y newydd-ddyfodiaid yn eistedd yn yr hanner uchaf ar ôl ennill dwy gêm yn olynol yn yr uwch gynghrair am y tro cyntaf ers 2015. 

Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill eu 11 gornest ddiwethaf yn erbyn Airbus gan sgorio cyfartaledd o 5.5 gôl y gêm yn ystod y rhediad hwnnw. 

Ebrill 2016 oedd y tro diwethaf i Airbus guro’r Seintiau (Air 3-2 YSN), ond ers hynny mae cewri Croesoswallt wedi hawlio buddugoliaethau trwm dros glwb y Maes Awyr, yn cynnwys y fuddugoliaeth fwyaf erioed oddi cartref yn y Cymru Premier (Air 0-12 YSN) ym mis Tachwedd 2019. 

Record cynghrair diweddar:  

Airbus UK: ͏✅❌❌✅✅ 

Y Seintiau Newydd: ͏͏✅✅✅✅✅ 

 

Cambrian (10fed) v Treffynnon (16eg) | Nos Wener – 19:45  

Mae Treffynnon wedi sicrhau eu pwynt cyntaf yn dilyn gêm gyfartal gartref yn erbyn Trefelin nos Wener diwethaf (Tffn 1-1 Tfl), ond mae tîm John Haseldin yn parhau i lechu ar waelod y tabl. 

Dyw hi’n ddim syndod mae Treffynnon sydd â’r amddiffyn gwannaf yn y gynghrair (ildio 3.8 gôl y gêm), ond mae’r clwb o’r gogledd ddwyrain wedi sgorio ym mhob gêm hyd yma. 

Mae Cambrian wedi cael dechrau cadarn i’w tymor cyntaf yn yr uwch gynghrair, yn curo Hwlffordd a’r Fflint, a sicrhau gemau cyfartal yn erbyn Llansawel, Pen-y-bont a Met Caerdydd. 

Dyw Cambrian heb golli gartref ers mis Rhagfyr, ac mi fydd Liam Williams yn gobeithio gall ei garfan barhau â’r record hwnnw yn eu gêm gyntaf erioed yn erbyn Treffynnon. 

Record cynghrair diweddar:  

Cambrian: ͏✅✅❌➖➖ 

Treffynnon: ͏❌❌❌❌➖ 

 

Hwlffordd (12fed) v Llansawel (11eg) | Nos Wener – 19:45 (Yn fyw arlein) 

Ar ôl dechrau diflas i’r tymor ble gollon nhw bum gêm yn olynol, mae’r gwynt wedi troi yn Hwlffordd bellach, ac mae’r Adar Gleision wedi sicrhau pedwar pwynt o’u dwy gêm ddiwethaf gan ddringo i’r 12fed safle. 

Er hynny, does neb wedi sgorio llai o goliau na thîm Tony Pennock (3 gôl mewn 7 gêm) a bydd angen i’r blaenwyr ddechrau tanio os am godi o’r Chwech Isaf. 

Tydi Llansawel heb fod ar eu gorau’n ddiweddar, yn colli tair gêm yn olynol ble byddai Andy Dyer wedi disgwyl gwell gan ei garfan (colli vs Met Caerdydd, Y Barri ac Airbus). 

Mae Hwlffordd wedi ennill pump o’u chwe gêm ddiwethaf yn erbyn Llansawel, a byddai triphwynt i’r gwŷr o’r gorllewin yn eu codi’n hafal ar bwyntiau â’u gwrthwynebwyr. 

Record cynghrair diweddar:  

Hwlffordd: ͏❌❌❌✅➖ 

Llansawel: ͏͏✅❌❌❌ 

 

Rhydaman (13eg) v Caernarfon (4ydd) | Nos Wener – 19:45 

Mae Rhydaman yn un o bedwar o glybiau sy’n dal i aros am eu buddugoliaeth gyntaf y tymor hwn ar ôl cipio dim ond dau bwynt o’r 21 posib wedi saith gêm. 

Mae Caernarfon, ar y llaw arall, wedi cael dechrau campus i’r tymor ac wedi ennill pump o’u saith gêm hyd yma, gan ennill pob un o’u gemau oddi cartref. 

Does neb wedi sgorio mwy o goliau na’r Cofis (18), a’r blaenwr Zack Clarke sydd wedi rhwydo hanner y goliau rheiny (9 gôl mewn 7 gêm), ac hynny yn ei osod ar frig rhestr y prif sgorwyr. 

Hon fydd yr ornest gyntaf rhwng y clybiau ers mis Ionawr 2020 pan enillodd y Caneris o 0-4 ar Y Rec ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru. 

Record cynghrair diweddar:  

Rhydaman: ͏❌❌➖❌❌ 

Caernarfon: ͏✅✅✅❌✅ 

 

Trefelin (14eg) v Pen-y-bont (6ed) | Nos Wener – 19:45 

Ar ôl ennill pencampwriaeth y de y tymor diwethaf, mae canlyniadau Trefelin wedi bod yn siomedig eleni ac mae tîm Andy Hill yn dal i aros em eu buddugoliaeth gyntaf yn yr uwch gynghrair. 

Mae anghysondeb wedi creu problemau i Pen-y-bont y tymor hwn, ac er bod y tîm yn dal yn ddi-guro mi fydd Rhys Griffiths yn rhwystredig bod ei garfan wedi methu â churo’r Fflint a Cambrian yn ddiweddar. 

Y Seintiau Newydd (3) yw’r unig dîm i ildio llai o goliau na Pen-y-bont (5), ond sgorio yw prif her y Gleision gan bod yna saith tîm wedi taro mwy na nhw y tymor hwn (1.6 gôl y gêm). 

Fe wnaeth y clybiau gyfarfod yn ail rownd Cwpan Nathaniel MG y tymor diwethaf ac roedd hi’n fuddugoliaeth gyfforddus i Pen-y-bont yn ennill o 1-6 ar Barc yr Ynys. 

Record cynghrair diweddar:  

Trefelin: ͏❌❌➖❌➖ 

Pen-y-bont: ͏ ✅✅➖➖✅ 

 

Y Barri (2il) v Llandudno (5ed) | Nos Wener – 19:45 

Daeth dechreuad perffaith Y Barri i ben mewn modd creulon ddydd Sadwrn diwethaf wrth i’r Seintiau sgorio gôl lwcus yn y munudau olaf i gipio’r triphwynt (YSN 1-0 Barr). 

Mae tîm Steve Jenkins wedi syrthio i’r ail safle felly, ond sicrhau lle yn y Chwech Uchaf yw’r prif nod i’r Dreigiau eleni yn ôl eu hyfforddwr, ac mae’r chwe buddugoliaeth yn olynol ar ddechrau’r tymor wedi eu gosod mewn safle addawol i wneud hynny. 

Bydd Llandudno yn llygadu lle ymysg y Chwech Uchaf hefyd ar ôl dechrau rhagorol i’r tymor ble mae’r newydd-ddyfodiaid wedi ennill pump o’u saith gêm ers eu dyrchafiad. 

Dyw’r clybiau heb gyfarfod ers Tachwedd 2018 pan enillodd Y Barri o 2-1 ar Barc Jenner, ac mae’r Dreigiau wedi ennill pedair o’u pum gornest ddiwethaf yn erbyn Llandudno. 

Record cynghrair diweddar:  

Y Barri: ͏✅✅✅✅❌ 

Llandudno: ͏✅❌✅❌✅ 

 

Y Fflint (15fed) v Met Caerdydd (7fed) | Nos Wener – 19:45 

Mae’r Fflint wedi cael dechrau difrifol i’r tymor gan gipio dim ond un pwynt o’r 21 posib hyd yma, ac mae angen buddugoliaeth ar y Sidanwyr i godi o’r gwaelodion. 

Dyw tîm Lee Fowler heb ennill yn eu 13 gêm gystadleuol ddiwethaf (cyfartal 4, colli 9), ers curo Bangor 1876 o 5-1 yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru ar ddechrau mis Mawrth. 

Mae Met Caerdydd ymysg prif sgorwyr y gynghrair (18 gôl mewn 7 gêm), ac mae Jasper Payne wedi bod yn gaffaeliad i’r myfyrwyr, yn sgorio chwe gôl hyd yma. 

Cyfartal oedd hi ar ddiwedd y ddwy gêm ddiwethaf rhwng y timau, yn cynnwys gêm ola’r tymor diwethaf ble roedd hi’n bwynt hollbwysig i’r Fflint er mwyn osgoi’r cwymp (Met 2-2 Ffl). 

Record cynghrair diweddar:  

Y Fflint: ͏❌❌➖❌❌ 

Met Caerdydd: ͏❌❌✅✅➖ 

 

Dydd Sadwrn, 12 Medi 

Bae Colwyn (9fed) v Cei Connah (3ydd) | Dydd Sadwrn – 17:30  

Bydd Bae Colwyn braidd yn siomedig o fod yn eistedd yn hanner isa’r tabl ar ôl y saith gêm agoriadol, a bydd angen gwella’r canlyniadau os am gyrraedd y Chwech Uchaf am yr ail dymor yn olynol. 

Er gwaetha’r gêm gyfartal yn erbyn Hwlffordd nos Wener diwethaf, mae Cei Connah wedi cychwyn yn gryf, ac mae’r Nomadiaid yn dechrau’r penwythnos driphwynt y tu ôl i’r ceffylau blaen, Y Seintiau Newydd. 

Mae Cei Connah yn un o’r tri o dimau i sgorio 18 o goliau yn eu saith gêm agoriadol, ac mae Callum West wedi serennu fel prif grêwr y gynghrair (6), yn ogystal â sgorio pedair o goliau ei hun. 

Fe wnaeth y clybiau gyfarfod bedair gwaith y tymor diwethaf, ac fe orffennodd tair o’r gemau rheiny’n gyfartal, ond dyw Bae Colwyn erioed wedi curo Cei Connah yn y gynghrair. 

Record cynghrair diweddar:  

Bae Colwyn: ͏❌✅❌✅❌ 

Cei Connah: ͏✅✅✅✅➖ 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?