Bydd dwy gêm yn cael ei chwarae yn y Cymru Premier JD nos Fawrth ac mae’n gaddo i fod yn frwydr gyffrous rhwng Aberystwyth a Hwlffordd ger y gwaelod, tra bydd y Derwyddon yn wynebu dipyn o her yng Nghroesoswallt.
Nos Fawrth, 1 Chwefror
Y Seintiau Newydd (1af) v Derwyddon Cefn (12fed) | Nos Fawrth – 19:45
Dau dîm, dau begwn y tabl a dwy stori dra gwahanol sy’n golygu y galla’i fod yn noson eithriadol o hir i’r Derwyddon os yw eu canlyniadau diweddaraf yn arwydd o’r hyn sydd i’w ddod.
Colli 5-0 yn erbyn Aberystwyth oedd hanes y Derwyddon dros y penwythnos, tra roedd Y Seintiau’n ennill 4-0 yng Nghaernarfon.
Mae hogiau’r Graig 16 pwynt y tu ôl i weddill y pac yn dilyn rhediad o 28 gêm gynghrair heb fuddugoliaeth gan gasglu dim ond dau bwynt y tymor hwn.
Mae’r Seintiau, ar y llaw arall, 16 pwynt yn glir ar y brig ar ôl ennill eu chwe gêm ddiwethaf, ac mae’n edrych fel mae mater o amser fydd hi tan bydd cewri Croesoswallt yn cael eu dwylo ar dlws y cynghrair am y tro cyntaf ers tair blynedd.
Mae’r Seintiau wedi ennill eu saith gêm ddiwethaf yn erbyn y Derwyddon, ac heb golli yn eu 22 gêm ddiwethaf yn erbyn criw Cefn Mawr (ennill 20, cyfartal 2).
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Derwyddon Cefn: ❌❌❌❌❌
Aberystwyth (10fed) v Hwlffordd (11eg) | Nos Fawrth – 20:00
Mae’r Derwyddon yn debygol o orffen ar waelod y tabl, ond pwy arall fydd yn syrthio ydi’r cwestiwn mawr, ac ar hyn o bryd Aberystwyth ac Hwlffordd ydi’r ddau dîm sydd mewn perygl.
Ar ôl taro pump yn erbyn y Derwyddon nos Wener dringodd Aberystwyth ddau bwynt uwchben Hwlffordd, gafodd gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Pen-y-bont.
Mae Hwlffordd ar rediad o wyth gêm heb fuddugoliaeth a gyda’r timau’n cwrdd unwaith eto mewn 10 diwrnod mae rhain yn gemau ‘chwe-phwynt’ go-iawn yn y frwydr i osgoi’r cwymp.
Dyw Aberystwyth ond wedi ennill un o’u pum gêm ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd (colli 3, cyfartal 1), ond dyw’r Adar Gleision heb ennill ar Goedlan y Parc ers chwe blynedd.
Hon fydd milfed gêm Aberystwyth yn y gynghrair, y clwb cyntaf i gyrraedd y garreg filltir arbennig honno ar ôl chwarae’n ddi-dor yn yr Uwch Gynghrair ers 1992.
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ❌❌➖❌✅
Hwlffordd: ❌➖❌➖➖
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.