S4C

Navigation

Dyw hi heb fod yn haf i’w chofio i glybiau Cymru gyda’r Seintiau Newydd, Pen-y-bont a Hwlffordd yn colli dros ddau gymal yn eu rowndiau rhagbrofol gyntaf yn Ewrop. 

Ac er i’r Seintiau gael ail gyfle drwy syrthio i ail rownd ragbrofol Cyngres UEFA, mae criw Croesoswallt ar ei hôl hi o 1-0 wedi’r cymal cyntaf yn erbyn pencampwyr Lwcsembwrg, FC Differdange 03. 

FC Differdange 03 (1) v (0) Y Seintiau Newydd | Nos Fawrth, 29 Gorffennaf – 19:00 (Yn fyw arlein) 

(Stade Municipal de la Ville de Differdange – Ail Gymal, Ail Rownd Ragbrofol Cyngres UEFA 2025/26) 

Mae gan Y Seintiau Newydd waith i’w wneud yn yr ail gymal yn Lwcsembwrg ar ôl colli o 1-0 yn erbyn FC Differdange yn Neuadd y Parc nos Fercher diwethaf. 

Unwaith eto, roedd y cyfleon yn brin i garfan Craig Harrison, sydd heb fod yn tanio ar y llwyfan Ewropeaidd eleni gan sgorio dim ond un gôl yn eu tair gêm hyd yma. 

Cafodd Differdange eu coroni’n bencampwyr Lwcsembwrg am yr ail flwyddyn yn olynol ar ddiwedd y tymor diwethaf, ac fel y Seintiau, fe enillon nhw eu cwpan domestig hefyd (Cwpan Lwcsembwrg). 

Ond yn wahanol i’r Seintiau, dyw Differdange 03 erioed wedi llwyddo i fynd heibio rowndiau rhagbrofol cystadlaethau Ewrop. 

Fe wnaeth Differdange 03 herio’r Bala ddegawd yn ôl yn haf 2015 gan golli’r cymal cyntaf o 2-1 yn Y Rhyl, ond yna curo’r ail gymal o 3-1 gartref yn Lwcsembwrg gan ennill 4-3 dros y ddau gymal. 

Y Seintiau Newydd yw clwb mwyaf llwyddiannus Cymru yn Ewrop gan i’r clwb o Groesoswallt chwarae’n gyson ar y cyfandir ers 1996. 

Llynedd fe lwyddodd y Seintiau i fynd heibio’r rowndiau rhagbrofol am y tro cyntaf erioed gan gystadlu yn rownd y gynghrair Cyngres UEFA ble chwaraeon nhw yn erbyn Panathinaikos a Fiorentina. 

Dyw’r Seintiau m’ond wedi ennill unwaith eu 13 gêm ddiwethaf oddi cartref yn Ewrop, ac felly mae tasg fawr yn wynebu pencampwyr Cymru nos Fawrth. 

Bydd yr enillwyr yn camu ymlaen i herio unai FCI Levadia Tallinn (Estonia) neu FC Iberia 1999 (Georgia) yn nhrydedd rownd ragbrofol Cyngres UEFA. 

 

Record YSN yn Ewrop: 

Rowndiau: 51 (ennill 12, colli 39) / Gemau: 93 (ennill 20, cyfartal 16, colli 59) 

Tro diwethaf: (2024/25) YSN yn llwyddo i fynd heibio’r rowndiau rhagbrofol am y tro cyntaf erioed gan gystadlu yn rownd y gynghrair Cyngres UEFA. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?