S4C

Navigation

Erbyn nos Sadwrn fe fyddwn ni wedi cyrraedd hanner ffordd drwy’r tymor yn y Cymru Premier JD ac mae ‘na olwg o gyfarwydd ar y tabl gyda’r Seintiau Newydd yn eistedd yn gyfforddus ar y copa. 

Er hynny, mae’n gaddo i fod yn ras gyffrous am yr ail safle eto eleni, gyda Pen-y-bont, Caernarfon a Cei Connah yn cystadlu am yr ail docyn i Ewrop. 

Yn y ras am y Chwech Uchaf, dim ond triphwynt sy’n gwahanu’r pedwar clwb rhwng y 5ed a’r 8fed safle, sef Bae Colwyn, Y Barri, Y Bala a Met Caerdydd. 

A thua’r gwaelod, mae’n edrych yn llwm ar Llanelli sydd wedi colli pum gêm gynghrair yn olynol, ond mae’n dynn eithriadol rhwng Hwlffordd, Llansawel a’r Fflint yn y frwydr i osgoi’r cwymp. 

Fe gafodd rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG ei chwarae nos Fawrth, a dim ond dau o glybiau’r uwch gynghrair sydd wedi cyrraedd y rownd gynderfynol eleni. 

Canlyniadau: Cambrian Utd 1-0 Llansawel, Hwlffordd 0-2 Y Barri, Y Drenewydd 3-6 Llandudno, Y Seintiau Newydd 3-0 Caernarfon 

 

Nos Wener, 7 Tachwedd 

Llansawel (10fed) v Y Bala (7fed) | Nos Wener – 19:45  

Mae Llansawel wedi llithro i lawr a tabl, a bellach dyw tîm Andy Dyer m’ond un pwynt uwchben safleoedd y cwymp ar ôl ennill un o’u 11 gêm gynghrair ddiwethaf (colli 7, cyfartal 3). 

Bydd angen i’r Cochion ddechrau perfformio gartref os am osgoi tymor hir arall tua’r gwaelodion, gan iddyn nhw fethu ag ennill dim un o’u saith gêm gynghrair ar yr Hen Heol y tymor hwn, gan gipio dim ond dau bwynt allan o’r 21 posib. 

I ychwanegu at y rhwstredigaeth, fe gollodd Llansawel o 1-0 yn erbyn Cambrian United o’r ail haen yn rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG nos Fawrth. 

Mae’r Bala’n dechrau’r penwythnos yn hafal ar bwyntiau gyda’r Barri yn y 6ed safle, a byddai’n glod enfawr i Steve Fisher pe bae’n gallu arwain y clwb i’r Chwech Uchaf yn ei dymor cyntaf wrth y llyw. 

Sgorio goliau yw prif broblem Y Bala eleni, gan mae dim ond Llanelli (0.5 gôl y gêm) sydd wedi rhwydo llai na Hogiau’r Llyn yn y gynghrair y tymor hwn (0.7 gôl y gêm). 

Dyw Llansawel erioed wedi curo’r Bala, ond mae’r ddwy ornest ddiwethaf rhwng y clybiau wedi gorffen yn gyfartal 2-2. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Llansawel: ͏➖✅❌❌❌ 

Y Bala: ❌❌❌➖✅ 

 

Y Seintiau Newydd (1af) v Met Caerdydd (8fed) | Nos Wener – 19:45 

Mae’r Seintiau Newydd yn dechrau’r penwythnos naw pwynt yn glir ar frig y tabl ar ôl ennill 10 gêm gynghrair yn olynol, ac mae cewri Croesoswallt ar y trywydd cywir i sicrhau eu pumed pencampwriaeth o’r bron. 

Er arwyddo sawl chwaraewr newydd dros yr haf, yr hen ben Jordan Williams sydd wedi serennu i’r Seintiau eleni, ac yn ei bumed tymor gyda’r clwb mae’r ymosodwr 32 mlwydd oed wedi rhwydo 14 o goliau cynghrair mewn 14 ymddangosiad, gyda chwech o rheiny yn dod yn ei dair gêm ddiwethaf yn y Cymru Premier JD. 

Enillodd y Seintiau’r trebl domestig y tymor diwethaf, a dyna fydd y targed unwaith eto eleni ar ôl buddugoliaeth gyfforddus o 3-0 yn erbyn Caernarfon yn rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG nos Fawrth. 

Roedd Met Caerdydd wedi mynd ar rediad rhagorol o chwe gêm geb golli ym mis Hydref, ond daeth y cyfnod llwyddiannus i ben brynhawn Sadwrn wrth i’r myfyrwyr golli o 3-0 yn erbyn Cei Connah. 

Mae Met Caerdydd wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ym mhob un o’r tri tymor diwethaf, a gyda’r clwb ond un pwynt y tu ôl i’r Barri (6ed), bydd Ryan Jenkins yn benderfynol o gyrraedd y nod unwaith yn rhagor eleni. 

Bydd criw Croesoswallt yn llawn hyder ar ôl ennill eu 12 gêm ddiwethaf yn erbyn y myfyrwyr yn cynnwys buddugoliaethau swmpus o 8-0, 7-1, 6-2, 6-0, 5-0, 5-1 a 4-0 (i gyd ers 2023). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅ 

Met Caerdydd: ͏✅✅➖✅❌ 

 

Dydd Sadwrn, 8 Tachwedd 

Bae Colwyn (5ed) v Llanelli (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Roedd hi’n noson hunllefus i Fae Colwyn nos Sadwrn diwethaf wrth i’r Gwylanod gael eu llosgi’n grimp gan ddreigiau’r Barri a fanteisiodd ar sawl camgymeriad amddiffynnol i drechu tîm Michael Wilde o 4-1 ar eu tomen eu hunain. 

Ar ôl cyflwyno gôl ar blât i Ieuan Owen, fe aeth noson y capten Lewis Sirrell o ddrwg i waeth pan gafodd ei hel o’r maes am dacl beryglus ar Owen, sef ail gerdyn coch Bae Colwyn mewn dwy gêm. 

Bydd angen i Fae Colwyn fod yn fwy disgbygledig felly os am sicrhau chwe phwynt yn erbyn dau glwb isaf y tabl yn eu dwy gêm nesaf (Llanelli a Hwlffordd). 

Bae Colwyn a Llanelli oedd y ddau glwb i esgyn o’r ail haen dros yr haf, ac mae gan y Gwylanod deirgwaith nifer y pwyntiau sydd gan Llanelli, gyda’r Cochion ar waelod y tabl ar ôl casglu dim ond saith pwynt o’u 15 gêm hyd yma. 

Daeth y cyntaf o’r pwyntiau rheiny yn y gêm ddi-sgôr yn erbyn Bae Colwyn ym mis Medi wedi i Louis Robles fethu cic o’r smotyn i’r Gwylanod. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Bae Colwyn: ͏✅✅➖✅❌ 

Llanelli: ❌❌❌❌❌ 

 

Caernarfon (3ydd) v Hwlffordd (11eg) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae Caernarfon yn parhau’n dynn ar sodlau Pen-y-bont yn y ras am yr ail safle ar ôl i’r Cofis ennill eu dwy gêm gynghrair ddiwethaf. 

Bydd y cyfnod yma yn un allweddol yn nhymor Caernarfon gan eu bod yn wynebu’r tri clwb isaf yn y tabl, ac ar ôl curo Llansawel (10fed) y penwythnos diwethaf bydd Richard Davies yn disgwyl dim llai na chwe phwynt o’u gemau nesaf yn erbyn Hwlffordd (11eg) a Llanelli (12fed). 

Llwyddodd Hwlffordd i orffen yn 3ydd y tymor diwethaf, ac yna chamu i Ewrop ar ôl curo Caernarfon yn rownd derfynol y gemau ail gyfle, ond dyw pethau heb fynd mor esmwyth i Tony Pennock a’r tîm y tymor hwn. 

Dyw’r Adar Gleision yn sicr heb fod ar eu gorau oddi cartref gan iddyn nhw ennill dim ond unwaith mewn chwe gêm gynghrair (0-1 vs Llansawel) a chasglu dim ond pedwar pwynt o’r 18 posib. 

Ond mae Hwlffordd ar rediad gwych o naw gêm heb golli yn erbyn Caernarfon (ennill 3, cyfartal 6) gyda’r gêm gyfatebol ym mis Awst yn gorffen yn gyfartal 1-1 ar Ddôl y Bont. 

Bydd y ddau dîm yn gobeithio am ymateb sydyn ar ôl colli yn rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG nos Fawrth (YSN 3-0 Cfon, Hwl 0-2 Barr). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Caernarfon: ͏❌❌➖✅✅ 

Hwlffordd: ✅❌✅➖❌ 

 

Y Barri (6ed) v Y Fflint (9fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Er ennill dim ond pedair o’u 15 gêm gynghrair y tymor hwn (27%), mae’r Barri’n dechrau’r penwythnos yn y Chwech Uchaf. 

Does neb wedi cael mwy o gemau cyfartal na thîm Steve Jenkins y tymor yma (7), a dyw’r Dreigiau m’ond wedi ennill un o’u saith gêm gartref yn y gynghrair (4-0 vs Bala). 

Mae’r Barri yn mwynhau cyfnod cadarnhaol gan eu bod ar rediad o bum gêm heb golli yn dilyn eu buddugoliaeth o 2-0 oddi cartref yn erbyn Hwlffordd yng Nghwpan Nathaniel MG nos Fawrth. 

Fel Y Barri, dyw’r Fflint m’ond wedi ennill pedair gêm gynghrair, ond mae tîm Lee Fowler wedi colli wyth o’u 14 gêm hyd yma gan ildio gormod o goliau (2.4 gôl y gêm), a dim ond Llanelli sydd â record amddiffynnol waeth (2.8 gôl y gêm). 

Efallai bod yr amddiffyn yn llac, ond mae’r ymosodwyr wedi bod yn tanio’n Y Fflint gan mae dim ond Y Seintiau Newydd (46) a Chaernarfon (36) sydd wedi sgorio mwy na’r Sidanwyr (27). 

Er hynny, di-sgôr oedd hi’n yr ornest gyfatebol ym mis Medi gyda Josh Jones yn methu cic o’r smotyn i’r Fflint ym munudau ola’r gêm ar Gae y Castell. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Barri: ❌❌➖➖✅ 

Y Fflint: ❌❌✅❌❌ 

 

Cei Connah (4ydd) v Pen-y-bont (2il) | Dydd Sadwrn – 17:15 (Yn fyw arlein) 

Ar ôl dechrau heriol i’w gyfnod fel rheolwr newydd Cei Connah, mae’r canlyniadau wedi gwella’n sylweddol i John Disney yn ddiweddar gyda’r Nomadiaid bellach ar rediad o saith gêm heb golli. 

Gyda’r Seintiau’n ffefrynnau clir i gipio’r bencampwriaeth unwaith eto, mae sylw pennaf dilynwyr y gynghrair yn troi at y ras am yr ail safle, a’r ail docyn i Ewrop. 

Mae Cei Connah wedi sgorio tair gôl ym mhob un o’u chwe gêm ddiwethaf a dyw dynion Disney bellach ond bedwar pwynt y tu ôl i Pen-y-bont (2il) gyda gêm wrth gefn. 

Pen-y-bont gipiodd yr ail safle y tymor diwethaf gan orffen yn eu safle uchaf erioed, a bydd Rhys Griffiths a’i garfan yn awyddus i ail-adrodd y gamp eleni. 

Enillodd Pen-y-bont o 4-3 oddi cartref mew gêm ddramatig yn erbyn Y Fflint ddydd Sadwrn diwethaf, a bydd y Gleision yn gobeithio gadael Cae y Castell gyda’r triphwynt unwaith eto’r penwythnos hwn. 

31 pwynt ydi’r swm arferol sydd ei angen i gyrraedd y Chwech Uchaf, a byddai buddugoliaeth i Ben-y-bont yn eu codi dros y trothwy hwnnw ddydd Sadwrn. 

Mae’r bedair gêm ddiwethaf rhwng y clybiau wedi gorffen yn 1-0 gyda Cei Connah yn ennill ddwywaith a Pen-y-bont yn ennill ddwywaith, a’r Nomadiaid oedd yn fuddugol yn yr ornest gyfatebol yn Stadiwm Dragonbet ym mis Awst diolch i gôl lwcus Rhys Hughes.  

 

Record cynghrair diweddar:  

Cei Connah: ✅✅✅➖✅ 

Pen-y-bont: ͏➖✅❌❌✅ 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun. 

 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?