Mae’r tymor cyffredin wedi dod i ben ac roedd hi’n benwythnos olaf cyffrous gyda’r Fflint yn osgoi’r cwymp o drwch blewyn gan i’r Bala golli’n hwyr yn erbyn Llansawel, ac felly’n colli eu lle’n y Cymru Premier JD ar ôl 16 mlynedd yn yr uwch gynghrair.
Yn esgyn i’r Cymru Premier JD y tymor nesaf mae Llandudno, Airbus UK, Treffynnon, Trefelin, Cambrian a Rhydaman wrth i’r gynghrair ehangu i 16 clwb.
Mae tri chlwb wedi sicrhau eu lle’n Ewrop ar gyfer y tymor nesaf, sef y ddau ucha’n y tabl, Y Seintiau Newydd a Chei Connah, yn ogystal ag enillwyr Cwpan Cymru, Caernarfon.
Bydd y pedwerydd tocyn Ewropeaidd yn mynd i enillwyr y gemau ail gyfle, a’r penwythnos yma mi fydd Bae Colwyn yn wynebu Pen-y-bont yn y rownd gynderfynol, tra bydd Y Barri yn croesawu Hwlffordd.
Bae Colwyn (5ed) v Pen-y-bont (6ed) | Dydd Sadwrn – 12:45 (S4C)
O’r pedwar clwb sy’n cystadlu yn y gemau ail gyfle eleni, Bae Colwyn yw’r unig rai sydd erioed wedi cael blas o chwarae’n Ewrop yn y gorffennol.
Gyda torf gyfartalog o dros fil o gefnogwyr, mae’r Gwylanod wedi denu mwy o wylwyr nac unrhyw glwb arall yn y gynghrair y tymor hwn, ac fe all y fantais o chwarae gartref gael dylanwad sylweddol ar y gêm hon.
Ar y llaw arall, mae tîm Michael Wilde wedi gorffen y tymor cyffredin gyda rhediad o dair gêm heb fuddugoliaeth, yn cynnwys gêm ddi-sgôr oddi cartref yn erbyn Pen-y-bont.
Honno oedd y bedwaredd ornest rhwng y clybiau’r tymor hwn gyda Pen-y-bont yn ennill unwaith ym mis Medi, Bae Colwyn yn ennill ddwywaith ar Ffordd Llanelian cyn y gêm ddi-sgôr ym mis Mawrth.
Yn dilyn eu gêm gyfartal oddi cartref yng Nghei Connah ddydd Sadwrn, roedd Michael Wilde yn teimlo’n bositif cyn y gemau ail gyfle:
“I think momentum is massive going into next week. Now we find ourselves at home in front of our fans which is brilliant and also we’ve got everybody chomping at the bit, fully fit, no suspensions, so everything’s geared up for next week now.”
“I know that Rhys will set them up really well, I also know that it will be a totally different occasion than what it is in the league because it’s almost treated as a cup final.”
Mae hi wedi bod yn dymor hynod siomedig i Pen-y-bont sydd wedi methu cynnal y safon ar ôl gorffen yn ail y tymor diwethaf.
Dechreuodd y rhediad gwael ar Ffordd Llanelian ym mis Tachwedd gyda’r Gleision yn colli o 5-4 yn erbyn Bae Colwyn, ac ers hynny dyw Pen-y-bont m’ond wedi ennill unwaith mewn 16 o gemau (vs Llanelli).
Dyw Pen-y-bont heb guro clwb o’r Chwech Uchaf ers mis Medi (vs Bae Colwyn), a dyw tîm Rhys Griffiths heb sgorio mwy nac unwaith mewn gêm ers y golled o 5-4 yn erbyn y Gwylanod ym mis Tachwedd.
Bellach mae’r clwb ar rediad o 11 gêm heb fuddugoliaeth (cyfartal 4, colli 7), ac fe gyfaddefodd Rhys Griffiths nad yw’r clwb mewn lle delfrydol cyn y gemau ail gyfle:
“We’ve got the unenviable record of having a full league campaign without one penalty, and we could’ve had half a dozen in the last month.”
“We go up to Colwyn Bay where we’ve been well beaten twice already this season… we’re on a horrendous run and we’re by far the outsiders in the playoffs.”
Mae Pen-y-bont wedi cynrychioli Cymru’n Ewrop ddwywaith yn y dair blynedd diwethaf, ond dyw’r Gleision erioed wedi ennill y gemau ail gyfle.
Noah Daley fydd y chwaraewr i’w wylio i’r ymwelwyr gan i’r blaenwr 23 mlwydd oed sgorio 11 gôl a chreu pump yn ei dymor cyntaf i Pen-y-bont yn y Cymru Premier JD.
O ran Bae Colwyn, Jordan Davies yw’r arf peryclaf gan iddo sgorio 13 o goliau a chreu pedair, yn cynnwys hatric o goliau yn erbyn Pen-y-bont ar Ffordd Llanelian yn rhan gynta’r tymor.
Record cynghrair diweddar:
Bae Colwyn: ͏✅✅➖❌➖
Pen-y-bont: ❌❌➖❌❌
Y Barri (3ydd) v Hwlffordd (7fed) | Dydd Sul – 17:00 (Arlein)
Mae hi wedi bod yn dymor rhagorol i’r Barri sydd wedi gorffen y tymor cyffredin yn eu safle uchaf ers saith mlynedd, a chodi Cwpan y Cynghrair am y tro cyntaf ers chwarter canrif.
Gyda chwe buddugoliaeth yn eu naw gêm ddiwethaf, a phum llechen lân, mae’r Dreigiau wedi bod ar rediad cryf, ac mae’r rheolwr Andy Legg yn ffyddiog cyn y gemau ail gyfle:
“We’ve had a good season, we’ve won a trophy, finished 3rd in the league and we can look forward to the play offs. It’s gonne be difficult because there’s not much between the teams… but we’ve got home advantage and we’ve got to make that count.”
Mae’r timau wedi cyfarfod deirgwaith y tymor yma, a’r Barri oedd yn fuddugol ar y tri achlysur gyda‘r ymosodwr ifanc Ieuan Owen yn sgorio i’r Dreigiau ym mhob un o’r gemau rheiny.
Ond mae’r momentwm yn sicr gan Hwlffordd gan iddyn nhw ennill wyth o’u 10 gêm gynghrair yn y Chwech Isaf wedi’r hollt gan gadw wyth llechen lân.
Does dim gwadu bod gemau Hwlffordd wedi bod yn rhai haws yn yr hanner isaf, gyda’r Adar Gleision yn ennill o 6-0 yn erbyn Llanelli y penwythnos diwethaf, ond bydd yr hyder yn uchel yn y garfan.
Ben Ahmun yw’r prif fygythiad i Hwlffordd gyda’r blaenwr tal wedi sgorio 13 o goliau a chreu naw yn y gynghrair y tymor hwn.
Mae’r Adar Gleision wedi ennill y gemau ail gyfle ddwywaith yn y dair blynedd diwethaf, a bydd Tony Pennock yn gobeithio y gall y profiad hwnnw arwain Hwlffordd i fod y clwb cyntaf erioed i ennill y gemau ail gyfle deirgwaith.
“The boys have been fantastic in phase two, and probably the back half of phase one… We were bottom of the league in October so to turn it around and perform the way they have, especially in phase two – eight clean sheets, eight wins is a great record and the boys should be proud of themselves.”
“We go to Barry, we’ve lost to them three times this year, we know how tough its gonna be. They’ll be obvious favourites for it being at home as well, and I just said to the lads we’ve got nothing to lose now, we’ve achieved our aim to get to the playoffs and we can go and play with freedom and hopefully give a good account of ourselves.”
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ❌✅➖✅❌
Hwlffordd: ✅❌✅✅✅
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd enillwyr y gemau yn cystadlu yn y rownd derfynol yn fyw ar S4C am 5.25 ar ddydd Sadwrn, 2 Mai.





