Bydd tymor 2025/26 yn dod i ben nos Sadwrn pan fydd unai Pen-y-bont neu Hwlffordd yn sicrhau eu lle yn Ewrop ar gyfer y tymor nesaf.
Pen-y-bont (6ed) v Hwlffordd (7fed) | Dydd Sadwrn – 17:25 (S4C)
Yn groes i’r disgwyliadau, mae’r detholion isaf yn y gemau ail gyfle, Pen-y-bont a Hwlffordd wedi camu ymlaen i’r rownd derfynol ar ôl buddugoliaethau oddi cartref ar giciau o’r smotyn yn y rownd gynderfynol.
Roedd Pen-y-bont wedi mynd ar rediad o 11 o gemau heb ennill cyn teithio i Fae Colwyn y penwythnos diwethaf, ac er i’r Gleision fethu â sgorio am y bedwaredd gêm o’r bron, fe orffennodd yr ornest yn ddi-sgôr.
A thîm Rhys Griffiths oedd yn fuddugol wedi’r ciciau o’r smotyn gyda’r golwr ifanc, Luke Armstrong yn arbed cynnig prif-sgoriwr y Gwylanod, Jordan Davies gan yrru Pen-y-bont i’r ffeinal.
Wedi’r fuddugoliaeth ddramatig, dyma oedd gan Griffiths i’w ddweud: “It’s draining, it’s been a tough few months. I thought the better team on the day won… I just think as a team, although our performances don’t deserve to win the play-offs, we have resilience and togetherness, and we’ve just kept going through it all, so maybe we deserve something to celebrate.”
Fe gafodd Hwlffordd ddechrau sigledig i’w rownd gynderfynol nhw oddi cartref yn erbyn Y Barri wrth i gamgymeriad amddiffynnol arwain at gôl gynnar i’r Dreigiau wedi dim ond tri munud.
Ond fe ddaliodd yr Adar Gleision eu tir ac unioni’r sgôr wedi 70 munud wrth i Greg Walters orffen symudiad slic i’r ymwelwyr.
Ac felly roedd angen ciciau o’r smotyn i wahanu’r clybiau yma hefyd, ac roedd yna enillydd amlwg wrth i’r Barri fethu tair o’u pedair cic, ac Hwlffordd yn hedfan i rownd derfynol arall.
Mae’r canlyniad yn golygu bod Hwlffordd yn parhau â record 100% yn y gemau ail gyfle ar ôl ennill pob un o’u pedair gêm yn y gystadleuaeth ers 2023, gan ennill tair o’r rheiny ar giciau o’r smotyn.
Roedd Tony Pennock yn llawn canmoliaeth. a balchder o’i garfan yn dilyn y fuddugoliaeth ar Barc Jenner: “I’m just really proud of our lads… they dug in and I thought we grew into the game, and I thought we were excellent… So many of those boys, seven or six that started today have been with us through all the playoffs and through all the European campaigns, so that experience does help, a 100%.”
“It’ll be another tough game (vs Pen-y-bont), they’ve beaten us twice this season. We’ll go there away from home, underdogs… we have nothing to lose… Bottom of the league first week of October, to now being in the play-off final, credit to everybody at the club… and now we’re one game away from Europe again”
Wrth edrych ar y record benben mae’r fantais seicolegol yn sicr gan Pen-y-bont am eu bod ar rediad o naw gêm heb golli yn erbyn Hwlffordd (ennill 7, cyfartal 2), a dyw’r Adar Gleision m’ond wedi sgorio ddwywaith yn ystod y rhediad hwnnw.
Ond mae dros chwe mis wedi pasio ers i’r timau gyfarfod ddiwethaf pan enillodd Pen-y-bont o 2-1 gartref, gyda James Crole a Gabe Kircough yn sgorio i’r Gleision cyn gadael y clwb ym mis Ionawr.
Er y record benben ffafriol, dyw momentwm ddim o blaid Pen-y-bont gan eu bod m’ond wedi ennill un o’u 17 gêm ddiwethaf mewn 90 munud (vs Llanelli).
Dyw tîm Rhys Griffiths heb sgorio mwy nac unwaith mewn gêm ers mis Tachwedd, gan rwydo dim ond saith gôl yn eu 16 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth.
Dyw Pen-y-bont chwaith erioed wedi ennill y gemau ail gyfle, ond mae’r clwb wedi cynrychioli Cymru’n Ewrop ddwywaith yn y dair blynedd diwethaf.
Mae’r momentwm yn sicr ar ochr Hwlffordd gan iddyn nhw ennill naw o’u 11 gêm ddiwethaf, gan gadw wyth llechen lân.
Does dim gwadu bod gemau Hwlffordd wedi bod yn rhai haws yn yr hanner isaf, gyda’r Adar Gleision yn ennill o 6-0 yn erbyn Llanelli ar benwythnos ola’r tymor cyffredin, ond bydd yr hyder yn uchel yn y garfan.
Cyn-ymosodwr Pen-y-bont, Ben Ahmun yw’r prif fygythiad i Hwlffordd gyda’r blaenwr tal wedi sgorio 13 o goliau a chreu naw yn y gynghrair y tymor hwn.
Mae’r Adar Gleision wedi ennill y gemau ail gyfle ddwywaith yn y dair blynedd diwethaf, a bydd Tony Pennock yn gobeithio y gall y profiad hwnnw arwain Hwlffordd i fod y clwb cyntaf erioed i ennill y gemau ail gyfle deirgwaith.
Dyma’r 4ydd tro ers 2019 i’r rownd derfynol fod rhwng y clybiau orffennodd yn 6ed a 7fed yn y tabl – a’r tîm oedd yn 7fed enillodd y ffeinal ar y tri achlysur diwethaf (2019 – Y Bala v Met Caerdydd (cos), 2021 – Caernarfon v Y Drenewydd, 2023 – Y Drenewydd v Hwlffordd (cos))
Bydd enillwyr y rownd derfynol yn hawlio eu lle yn rownd ragbrofol gyntaf Cynres UEFA 2026/27, ac yn ennill gwobr ariannol oddeutu £280,000.
Bydd holl gyffro gêm ola’r tymor yn fyw ar S4C brynhawn Sadwrn gyda’r darllediad yn dechrau am 5.00 o Stadiwm Dragonbet.





