S4C

Navigation

Mae’n gaddo i fod yn benwythnos arwyddocaol yn y Cymru Premier JD wrth i ddau o’r tri uchaf gyfarfod yn fyw ar Sgorio brynhawn Sadwrn. 

Caernarfon yw’r unig dîm sydd heb golli gêm gynghrair hyd yma, ac mae’r ceffylau blaen yn croesawu Pen-y-bont i Barc Maesdu dros y penwythnos. 

Wedi saith gêm mae Met Caerdydd yn dal i aros am eu buddugoliaeth gyntaf, a dyw pethau’n dod dim haws i’r myfyrwyr gan eu bod yn herio’r pencampwyr, Y Seintiau Newydd nos Wener. 

Ac ar waelod y tabl, bydd Llanelli yn benderfynol o hawlio eu pwynt cyntaf ers eu dyrchafiad wrth iddyn nhw groesawu’r newydd-ddyfodiaid eraill, Bae Colwyn. 

 

Nos Wener, 19 Medi 

 

Met Caerdydd (10fed) v Y Seintiau Newydd (2il) | Nos Wener – 19:45  

Dyw hi heb fod y dechrau delfrydol i’r tymor i Met Caerdydd sydd yn dal heb ennill gêm gynghrair y tymor hwn. 

Wedi dweud hynny, dim ond Caernarfon (0), YSN (1) a Bae Colwyn (1) sydd wedi colli llai o gemau na Met Caerdydd (2), gan i’r myfyrwyr gael pum gêm gyfartal hyd yma. 

Enillodd Y Seintiau Newydd o 6-0 yn erbyn Llanelli y penwythnos wrth i Craig Harrison ddathlu ei 400fed gêm wrth y llyw mewn steil. 

Y Seintiau sydd â record amddiffynnol orau’r gynghrair ar ôl ildio dim ond pedair gôl mewn saith gêm, gan gadw pum llechen lân. 

Bydd rhaid i’r tîm cartref gadw llygad agos ar Jordan Williams sydd wedi sgorio saith gôl yn ei bum gêm gynghrair ddiwethaf i’r Seintiau gan ddringo’n hafal gyda Adam Davies ar frig rhestr y prif sgorwyr. 

Bydd criw Croesoswallt yn llawn hyder ar ôl ennill eu 11 gêm ddiwethaf yn erbyn y myfyrwyr yn cynnwys buddugoliaethau swmpus o 8-0, 7-1, 6-2, 6-0, 5-0, 5-1 a 4-0 (i gyd ers 2023). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Met Caerdydd: ͏➖➖❌❌➖ 

Y Seintiau Newydd: ✅➖➖✅✅ 

 

Y Bala (4ydd) v Llansawel (7fed) | Nos Wener – 19:45 

Ar ôl dechrau rhagorol i’r tymor, mae hi wedi bod yn wythnos anodd i’r Bala a gollodd ar giciau o’r smotyn yn erbyn Y Drenewydd yng Nghwpan Nathaniel MG cyn cael crasfa o 4-0 gan Y Barri brynhawn Sadwrn. 

Doedd Y Bala m’ond wedi ildio pedair gôl yn eu chwe gêm agoriadol yn y gynghrair cyn ildio pedair mewn 90 munud i’w anghofio ar Barc Jenner y penwythnos diwethaf. 

Mae hi’n sefyllfa tebyg i Lansawel, a ddechreuodd y tymor ar dân, ond sydd bellach ar rediad o dair gêm gynghrair heb fuddugoliaeth ar ôl colli o 5-2 gartref yn erbyn Caernarfon y penwythnos diwethaf. 

Ond dyw’r Cochion heb golli dim un o’u pedair gêm oddi cartref y tymor hwn, yn cynnwys buddugoliaeth ar giciau o’r smotyn yn erbyn Pen-y-bont yng Nghwpan Nathaniel MG nos Fercher diwethaf. 

Mae’r timau wedi cyfarfod deirgwaith yn y gorffennol, a dyw Llansawel erioed wedi curo’r Bala (cyfartal 1, colli 2). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Bala: ❌✅✅➖❌ 

Llansawel: ͏➖✅❌➖❌ 

 

Dydd Sadwrn, 20 Medi 

Hwlffordd (11eg) v Cei Connah (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30  

Mae Hwlffordd wedi llithro i safleoedd y cwymp ar ôl dwy golled yn olynol yn y gynghrair gyda’r Adar Gleision yn methu a sgorio yn y ddwy gêm (YSN 5-0 Hwl, Bae 3-0 Hwl). 

Er gorffen yn y 3ydd safle y tymor diwethaf, roedd y goliau’n brin i dîm Tony Pennock (cyfartaledd o 1.2 gôl y gêm), ac mae’n stori debyg eleni gan fod yr Adar Gleision m’ond wedi rhwydo pedair gôl mewn chwe gêm gynghrair hyd yn hyn. 

I ychwanegu at eu trafferthion bydd rhaid i Hwlffordd ymdopi heb wasanaeth Alaric Jones a Ben Fawcett y penwythnos hwn wedi i’r ddau dderbyn cardiau coch yn erbyn Bae Colwyn brynhawn Sadwrn diwethaf. 

Dyw Cei Connah heb fod ar eu gorau’n ddiweddar chwaith gyda’r Nomadiaid ar rediad o dair gêm heb ennill ym mhob cystadleuaeth. 

A does gan Cei Connah ddim record arbennig yn erbyn Hwlffordd gan i’r Nomadiaid ennill dim ond un o’r pum gornest ddiwethaf rhwng y timau (cyfartal 1, colli 3). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Hwlffordd: ➖✅➖❌❌ 

Cei Connah: ❌✅✅❌➖ 

 

Llanelli (12fed) v Bae Colwyn (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Ar ôl sicrhau dyrchafiad dros yr haf, dyw Llanelli’n bendant heb gael y dechrau delfrydol ar ôl dychwelyd i’r uwch gynghrair gan golli eu saith gêm hyd yma. 

Does neb wedi sgorio llai na Llanelli hyd yma (3 gôl mewn 7 gêm), ac i ychwanegu halen at y briw, mae eu prif sgoriwr y tymor diwethaf, Liam Eason wedi sgorio wyth gôl gynghrair i Cambrian United y tymor hwn a chael ei enwi yn Chwaraewr y Mis yng Nghynghrair y De. 

Dyma’r dechrau gwaethaf i unrhyw dîm ar y cae yn yr uwch gynghrair ers 2021/22 pan oedd Derwyddon Cefn yn yr un gwch â Llanelli eleni ar ôl colli eu saith gêm agoriadol. 

Y flwyddyn ganlynol roedd Airbus UK wedi sicrhau un pwynt o’u saith gêm agoriadol, ond wedi derbyn cosb o driphwynt am chwarae chwaraewr anghymwys, ac felly -2 o bwyntiau oedd gan bechgyn Brychdyn ar yr adeg yma yn 2022/23. 

Gorffennodd y ddau glwb rheiny ar waelod y tabl ar ddiwedd y tymor, a bydd Llanelli yn benderfynol o osgoi yr un tynged trwy ddod a’r rhediad hesb i ben yn eu gornest gyntaf erioed yn erbyn Bae Colwyn. 

Mae Bae Colwyn wedi codi i’r hanner uchaf ar ôl ennill eu dwy gêm ddiwethaf yn gyfforddus yn erbyn clybiau orffennodd yn y Chwech Uchaf y tymor diwethaf (Met 1-4 Bae, Bae 3-0 Hwl). 

Dyw’r Gwylanod m’ond wedi colli un o’u saith gêm gynghrair y tymor hwn a bydd Michael Wilde yn disgwyl dim llai na thriphwynt arall brynhawn Sadwrn. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Llanelli: ❌❌❌❌❌ 

Bae Colwyn: ͏❌➖➖✅✅ 

 

Y Fflint (9fed) v Y Barri (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30  

Mae’r Fflint wedi disgyn i’r 9fed safle ar ôl colli’n drwm o 5-0 ym Mhen-y-bont y penwythnos diwethaf. 

Mae o leiaf pum gôl wedi cael ei sgorio ym mhob un o bum gêm ddiwethaf Y Fflint, ac er fod gan y Sidanwyr gêm wrth gefn, dim ond Caernarfon a’r Seintiau sydd wedi sgorio mwy y tymor hwn, tra mae Llanelli yw’r unig dîm i ildio mwy. 

Roedd hi’n wythnos fuddiol i’r Barri a enillodd o 1-0 yn erbyn Llanelli yng Nghwpan Nathaniel MG cyn curo’r Bala o 4-0 ar Barc Jenner brynhawn Sadwrn. 

Mae’r Barri felly wedi cadw tair llechen lân yn eu pedair gêm ddiwethaf, yn cynnwys gêm ddi-sgôr yn erbyn Y Seintiau Newydd ym mis Awst. 

Mae’r gemau blaenorol rhwng y timau wedi bod yn rhai agos a chystadleuol, a’r Fflint oedd yn fuddugol o 3-2 yn yr ornest ddiwethaf ym mis Mawrth gyda Josh Jones yn ennill y gêm o’r smotyn i’r Sidanwyr yn y funud olaf. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Fflint: ❌❌✅✅❌ 

Y Barri: ❌➖➖❌✅ 

 

Caernarfon (1af) v Pen-y-bont (3ydd) | Dydd Sadwrn – 17:15 (Yn fyw arlein)  

Caernarfon sy’n parhau i osod y safon yn y Cymru Premier JD y tymor hwn, a’r Cofis yw’r unig dîm sydd heb golli’n y gynghrair eto. 

Dyw’r Caneris m’ond wedi gollwng pwyntiau mewn dwy gêm hyd yma ar ôl ildio ciciau o’r smotyn dadleuol oddi cartref yn erbyn Met Caerdydd a Hwlffordd (Met 2-2 Cfon, Hwl 1-1 Cfon). 

Un pryder posib i Richard Davies yw bod Caernarfon wedi mynd ar ei hôl hi ym mhob un o’u pedair gêm ddiwethaf, ond mae’r Cofis wedi dangos cymeriad i frwydro nôl i ennill tair o rheiny yn ogystal a chael gêm gyfartal yn erbyn Hwlffordd. 

Ar ôl methu a tharo’r rhwyd mewn dwy gêm gynghrair yn olynol mae Pen-y-bont wedi darganfod eu hesgidiau sgorio eto gan rwydo pum gôl yn erbyn Y Fflint y penwythnos diwethaf. 

Gorffennodd Pen-y-bont yn yr ail safle y tymor diwethaf, a bydd Rhys Griffiths yn awyddus i orffen yn y ddau uchaf eto eleni er mwyn hawlio eu lle’n Ewrop am yr ail dymor yn olynol. 

Enillodd Pen-y-bont dair o’u pedair gornest yn erbyn Caernarfon y tymor diwethaf a bydd rhaid i’r Cofis fod yn wyliadwrus o James Crole, gan iddo gyfrannu at wyth gôl yn ei dair gêm ddiwethaf yn erbyn y Caneris (sgorio 5, creu 3). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Caernarfon: ͏✅✅➖✅✅ 

Pen-y-bont: ͏✅✅❌➖✅ 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?