Bydd y tri uchaf yn gwneud y daith i dde Cymru dros y penwythnos tra bydd Aberystwyth a’r Barri yn chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf y tymor yma.
Nos Wener, 22 Medi
Met Caerdydd (6ed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Wener – 19:45
Y Seintiau Newydd sy’n arwain y ffordd yn y Cymru Premier JD, dau bwynt yn glir ar y copa ac heb golli gêm gynghrair eto.
Roedd hi’n fuddugoliaeth swmpus o 5-1 i’r pencampwyr gartref yn erbyn Hwlffordd ddydd Sadwrn diwethaf, tra roedd Met Caerdydd yn cael crasfa o 4-0 gan Gei Connah.
A bydd yn rhaid i’r myfyrwyr fod yn wyliadwrus nad ydyn nhw’n cael cweir arall nos Wener, gan i’r Seintiau Newydd sgorio 20 gôl mewn pedair gêm yn erbyn Met Caerdydd y tymor diwethaf.
Dioddefodd Met Caerdydd eu colled drymaf erioed gartref ac oddi cartref yn y gynghrair yn erbyn Y Seintiau Newydd y tymor diwethaf (Met 0-7 YSN, YSN 7-1 Met), ond yn rhyfeddol tîm Ryan Jenkins oedd yr unig rai i guro cewri Croesoswallt hefyd, ac hynny ar Gampws Cyncoed ym mis Chwefror (Met 3-2 YSN).
Mae’r ddau dîm wedi selio eu lle yn rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG yn dilyn buddugoliaethau cyfforddus ganol wythnos yn erbyn timau o’r ail haen (Lido Afan 0-4 Met Caerdydd, YSN 4-1 Porthmadog).
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ❌✅❌➖✅
Y Seintiau Newydd: ✅➖✅✅➖
Aberystwyth (12fed) v Pen-y-bont (4ydd) | Nos Wener – 20:00
Aberystwyth sydd ar waelod y domen ar ôl colli chwech o’u saith gêm gynghrair, gyda’u hunig bwynt hyd yma yn dod wedi gêm ddi-sgôr yn Y Drenewydd.
Ac roedd ‘na siom pellach i Aberystwyth nos Fawrth gan iddyn nhw ildio’n y funud olaf i golli 1-0 gartref yn erbyn Pontypridd yng Nghwpan Nathaniel MG.
Aberystwyth a’r Drenewydd yw’r unig ddau glwb sydd wedi bod yn holl bresennol ers ffurfio’r gynghrair yn 1992, ond mae’n mynd i fod yn her i Anthony Williams lywio’r Gwyrdd a’r Duon o yml y dibyn unwaith yn rhagor eleni.
Mae Pen-y-bont yn hafal ar bwyntiau gyda Caernarfon a Met Caerdydd yn dilyn eu buddugoliaeth hwyr a dramatig yn erbyn y Cofis y penwythnos diwethaf (Pen 3-2 Cfon).
Bydd hi’n noson gofiadwy i Chris Venables yn erbyn ei gyn-glwb wrth iddo ddod yn hafal â record Wyn Thomas am y nifer fwyaf o ymddangosiadau yn y gynghrair (536 gêm).
Mae Pen-y-bont wedi ennill eu pedair gêm gynghrair ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth, gan sgorio o leiaf tair gôl ym mhob gêm.
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ❌❌❌❌➖
Pen-y-bont: ✅❌❌➖➖
Dydd Sadwrn, 23 Medi
Bae Colwyn (9fed) v Y Drenewydd (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl dechrau araf i’r tymor mae Bae Colwyn wedi deffro gan ennill dwy gêm yn olynol yn erbyn Pen-y-bont ac Aberystwyth.
Cafodd Y Drenewydd gychwyn siomedig i’r tymor hefyd, ond ar ôl tair buddugoliaeth o’r bron mae’r Robiniaid wedi saethu i’r 7fed safle ac yn anelu am y Chwech Uchaf.
Mae blaenwr Y Drenewydd, Aaron Williams wedi dechrau tanio gan sgorio pum gôl yn ei dair gêm ddiwethaf, a’r amddiffyn wedi tynhau gan gadw dwy lechen lân yn olynol.
Bydd hi’n gêm arwyddocaol i Nick Rushton fydd yn wynebu’r Drenewydd am y tro cyntaf ers gadael y clwb ble chwaraeodd am saith tymor a hanner cyn gadael am Fae Colwyn.
Record cynghrair diweddar:
Bae Colwyn: ✅✅❌❌❌
Y Drenewydd: ✅✅✅❌➖
Hwlffordd (10fed) v Cei Connah (2il) | Dydd Sadwrn – 14:30
Cafodd Hwlffordd haf i’w gofio gan guro Shkendija ar giciau o’r smotyn i ennill rownd Ewropeaidd am y tro cyntaf yn eu hanes, ond ers y fuddugoliaeth honno yn Stadiwm Dinas Caerdydd dyw’r Adar Gleision ond wedi ennill un gêm allan o 10, gan golli’n drwm o 5-1 yn erbyn Y Seintiau Newydd y penwythnos diwethaf.
Mae Hwlffordd wedi colli dwy gêm gynghrair yn olynol am tro cyntaf ers mis Rhagfyr, a bydd angen troi’r gornel yn sydyn os am gystadlu am le’n y Chwech Uchaf eleni.
Yn dilyn eu colled o 6-2 yng nghartre’r Seintiau ar y penwythnos agoriadol mae Cei Connah wedi ymateb yn gryf gan ennill pump o’u chwe gêm gynghrair ers hynny.
Ar ôl sgorio cyfartaledd o dair gôl bob gêm, dyw Cei Connah ond dau bwynt y tu ôl i’r Seintiau Newydd a bydd Neil Gibson yn awyddus i aros yn dynn ar sodlau’r pencampwyr.
Hwlffordd oedd yn fuddugol yn y gêm flaenorol rhwng y timau gyda Elliot Dugan yn sgorio foli fendigedig i roi’r Adar Gleision ar y blaen, cyn i Ben Nash rwydo i’r Nomadiaid, ac yna Jordan Davies yn ennill y gêm o’r smotyn (Hwl 2-1 Cei).
Mae Davies bellach yn ôl gyda’r Nomadiaid ac yn gydradd brif-sgoriwr y gynghrair gyda chwe gôl i Gei Connah cyn belled.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ❌❌✅➖➖
Cei Connah: ✅✅✅✅❌
Y Barri (11eg) v Y Bala (3ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Barri’n un o’r ddau dîm sydd heb ennill dim un o’u saith gêm agoriadol, a bydd Steve Jenkins yn ysu i gael blasu buddugoliaeth am y tro cyntaf ers ymuno â’r clwb fel rheolwr dros yr haf.
Y Bala sydd â’r record amddiffynnol orau’n y gynghrair ar ôl ildio dim ond dwy gôl mewn saith gêm hyd yma (0.3 gôl y gêm), gyda’r golwr newydd Kelland Absalom yn cadw pum llechen lân ers ymuno dros yr haf.
Sgorio goliau ydi prif broblem Y Bala gan eu bod ond wedi rhwydo bum gwaith mewn saith gêm (un yn llai na’r Barri), gan gael tair gêm ddi-sgôr yn barod.
A methodd Y Bala a sgorio eto nos Fawrth wrth golli 1-0 yn erbyn Cegidfa yn nhrydedd rownd Cwpan Nathaniel MG, wrth i’r deiliaid gael eu gyrru allan o’r gystadleuaeth gan glwb o’r ail haen.
Er hynny, dyw’r Bala heb golli’n y gynghrair y tymor yma, ac mi fydd criw Colin Caton yn hyderus ar ôl curo’r Barri ar y penwythnos agoriadol diolch i gôl hwyr Iwan Roberts (Bala 1-0 Barr).
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ❌❌❌➖➖
Y Bala: ➖➖✅➖✅
Caernarfon (5ed) v Pontypridd (8fed) | Dydd Sadwrn – 17:15 (Arlein)
Cafodd Caernarfon ddechrau cadarn i’r tymor, yn ennill eu dwy gêm agoriadol, ond wedi hynny mae’r Cofis wedi llithro ychydig gan ennill dim ond un mewn pump.
Does neb wedi sgorio llai o goliau na Pontypridd y tymor hwn (2), ond mae amddiffyn tîm Andrew Stokes wedi bod yn gryf, gan ildio dim ond tair gôl hyd yma.
Mae hynny’n golygu bod llai na un gôl y gêm wedi cael ei sgorio ar gyfartaledd yn gemau Pontypridd y tymor yma (0.7 gôl y gêm).
Enillodd Pontypridd 1-0 oddi cartref yn Aberystwyth nos Fawrth gan sicrhau eu chweched llechen lân mewn wyth gêm ym mhob cystadleuaeth.
Mae Pontypridd wedi ennill eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon, a byddai buddugoliaeth ar yr Oval yn eu codi uwchben y Caneris.
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ❌✅❌➖͏͏͏➖
Pontypridd: ➖❌✅✅➖