S4C

Navigation

Wedi ychydig yn llai na blwyddyn wrth y llyw, mae’r Drenewydd wedi diswyddo Scott Ruscoe wrth i’r gŵr 46 mlwydd oed ddod y trydydd rheolwr i golli ei swydd y tymor hwn. 

Mae’r Drenewydd yn y 9fed safle, a Callum McKenzie fydd yn rheoli dros dro ar ddechrau cyfnod allweddol i’r Robiniaid gyda’u tair gêm nesaf yn erbyn timau eraill o’r hanner isaf. 

Saith rownd o gemau sydd i fynd tan yr hollt yn y gynghrair ac ar y funud mae sawl enw mawr yn eistedd yn yr hanner isaf ac yn gobeithio cipio lle yn y Chwech Uchaf ar gyfer ail ran y tymor. 

Mae’r Bala, Cei Connah a’r Drenewydd yn glybiau sydd wedi cystadlu’n gyson yn yr hanner uchaf dros y degawd diwethaf ac mae’n syndod gweld y timau rheiny yn llechu yn yr hanner isaf. 

Yn hanesyddol, 31 pwynt yw’r swm sydd ei angen i hawlio lle’n y Chwech Uchaf, ac mae’r ceffylau blaen, Pen-y-bont eisoes wedi pasio’r targed hwnnw, a dyw’r Seintiau Newydd na Hwlffordd ddim rhy bell ar eu holau. 

Dim ond pum pwynt sy’n gwahanu’r chwe clwb yng nghanol y tabl, ac felly mae’r gemau rhwng Y Barri a Chei Connah, a’r ornest rhwng Met Caerdydd a’r Bala ddydd Sadwrn yn rhai hollbwysig yn y ras am y Chwech Uchaf. 

 

 

Nos Wener, 8 Tachwedd 

Aberystwyth (12fed) v Y Drenewydd (9fed) | Nos Wener – 19:45 

Darbi fawr y canolbarth, darbi’r clybiau holl-bresennol, neu darbi’r timau di-reolwr… mae sawl elfen yn clymu’r ddau glwb yma bellach.  

Mae’r tymor yn mynd yn waeth ac yn waeth i Aberystwyth ar ôl i’r Gwyrdd a’r Duon lithro i waelod y tabl yn dilyn colled drom yn Llansawel y penwythnos diwethaf. 

Mae Aberystwyth wedi colli 11 o’u 12 gêm gynghrair ddiwethaf ac mewn perygl gwirioneddol o syrthio allan o’r uwch gynghrair am y tro cyntaf erioed. 

Y Drenewydd yw’r unig glwb arall sydd wedi bod yn holl-bresennol ers ffurfio Uwch Gynghrair Cymru yn 1992, a tydi pethau ddim yn fêl i gyd yn fanno chwaith. 

Mae’r Drenewydd wedi cyrraedd y Chwech Uchaf mewn pump o’r chwe tymor diwethaf, ac er iddyn nhw orffen yn 7fed yn nhymor 2020/21 fe aethon nhw ymlaen i ennill y gemau ail gyfle a chamu i Ewrop ar ddiwedd y tymor hwnnw. 

Ond tydi’r sefyllfa ddim yn edrych mor addawol eleni gan bod y Robiniaid m’ond wedi ennill un o’u wyth gêm gynghrair ddiwethaf a syrthio o’r trydydd i’r nawfed safle. 

Er hynny, mae’r Drenewydd ar rediad o saith gêm heb golli yn erbyn Aberystwyth (ennill 6, cyfartal 1), yn cynnwys buddugoliaeth o 4-1 ar Barc Latham ar benwythnos agoriadol y tymor. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Aberystwyth: ͏❌❌✅❌❌ 

Y Drenewydd: ͏❌✅❌❌➖ 

 

Dydd Sadwrn, 9 Tachwedd 

Llansawel (11eg) v Caernarfon (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Bydd llanciau Llansawel yn llawn hyder ar ôl rhoi crasfa o 4-0 i Aberystwyth nos Sadwrn diwethaf gan godi oddi ar waelod y tabl. 

Honno oedd buddugoliaeth gyntaf y Cochion gartref ar yr Hen Heol y tymor hwn, a bydd y rheolwr Andy Dyer yn awyddus i adeiladu ar hynny y penwythnos yma. 

Dyw’r hwyliau’n sicr ddim cystal yng ngharfan Caernarfon gan fod y Cofis wedi methu ag ennill mewn pum gêm, ac wedi colli’n drwm gartref yn erbyn Pen-y-bont yn eu gornest ddiwethaf. 

Ar ôl cyrraedd Ewrop dros yr haf am y tro cyntaf yn eu hanes, bydd y Caneris yn benderfynol o sicrhau eu lle’n y Chwech Uchaf unwaith eto’r tymor hwn. 

Zack Clarke oedd yr arwr i’r Cofis yn y gêm gyfatebol yn erbyn Llansawel ym mis Medi, yn sgorio hatric wrth i Gaernarfon ennill 3-2 ar yr Oval.  

 

Record cynghrair diweddar:  

Llansawel: ➖❌❌❌✅ 

Caernarfon: ✅❌❌➖❌
 

Pen-y-bont (1af) v Y Fflint (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Pen-y-bont sy’n parhau i osod y safon y tymor yma, ac ar ôl taro pump yn erbyn Caernarfon ddydd Sadwrn diwethaf mae tîm Rhys Griffiths yn dal bedwar pwynt yn glir ar frig y tabl. 

Methodd Pen-y-bont a chyrraedd y Chwech Uchaf y tymor diwethaf, ond ar ôl dechrau rhagorol i’r ymgyrch yma mae tîm Rhys Griffiths fwy neu lai yn saff o’u lle eleni ar ôl colli dim ond un o’u 21 gêm gynghrair ddiwethaf (0-1 vs Llansawel). 

Mae’r Fflint wedi colli eu tair gêm gynghrair ddiwethaf, ac yn un o’r tri chlwb sy’n brwydro i osgoi’r cwymp tua gwaelod y tabl. 

Hon fydd taith gyntaf Y Fflint i Ben-y-bont ers mis Awst 2022, pan enillodd bechgyn Bryntirion o 2-1 diolch i gôl fuddugol y chwaraewr-reolwr Rhys Griffiths, sef ei gôl ddiwethaf yn y gynghrair. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Pen-y-bont: ͏✅✅➖➖✅ 

Y Fflint: ͏✅➖❌❌❌ 

 

Y Barri (5ed) v Cei Connah (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Bydd hon yn gêm dyngedfennol yn y ras i gyrraedd y Chwech Uchaf, gan y byddai buddugoliaeth i Gei Connah yn eu codi uwchben eu gwrthwynebwyr, Y Barri. 

Mae’r Barri’n dechrau’r penwythnos yn y 5ed safle ac yn anelu i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers tymor 2020/21. 

Ar ôl dechrau digon araf i’r ymgyrch mae’r canlyniadau’n gwella’n raddol i Gei Connah sydd ond wedi colli un o’u chwe gêm gynghrair ddiwethaf, ac honno yn y munudau olaf yn erbyn Y Seintiau Newydd. 

Y Barri oedd yn dathlu wedi’r gêm gyfatebol ar Gae-y-Castell ym mis Medi gyda prif sgoriwr y gynghrair, Ollie Hulbert yn rhwydo ddwywaith i ennill y gêm i’r Dreigiau (Cei 1-2 Barr). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Barri: ❌✅✅✅❌ 

Cei Connah: ͏➖➖✅❌✅ 

 

Met Caerdydd (4ydd) v Y Bala (7fed) | Dydd Sadwrn – 17:15 (Yn fyw arlein) 

Mae hon yn gaddo i fod yn frwydr allweddol yn ras am y Chwech Uchaf hefyd, wrth i Met Caerdydd geisio torri saith pwynt yn glir o’r clwb sy’n 7fed, sef Y Bala. 

Bydd Met Caerdydd yn benderfynol o gyrraedd y Chwech Uchaf am y trydydd tymor yn olynol, ond ar ôl ennill dim ond un o’u chwe gêm gynghrair ddiwethaf bydd angen codi’r safon os am gyrraedd y nod. 

Mae’r Bala wedi sicrhau lle’n y Chwech Uchaf ym mhob un o’r 10 tymor diwethaf, ond mae Gwŷr Gwynedd wedi llithro i’r hanner isaf ar ôl rhediad o chwe gêm gynghrair heb ennill (cyfartal 5, colli 1). 

Mae dros hanner gemau cynghrair Y Bala wedi gorffen yn gyfartal y tymor hwn (8/15), ond bydd angen buddugoliaethau ar griw Colin Caton os am godi i’r hanner uchaf cyn yr hollt. 

Eliot Evans rwydodd unig gôl y gêm i’r myfyrwyr yn y gêm gyfatebol ar Faes Tegid ym mis Medi, ac mae’r gemau diweddar rhwng y ddau glwb wedi bod yn rhai tynn ac agos gyda dim ond 13 o goliau wedi eu sgorio yn y 12 ornest ddiwethaf rhwng y timau. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Met Caerdydd: ͏❌❌➖✅❌ 

Y Bala: ❌➖➖➖➖ 

 

Dydd Sul, 10 Tachwedd 

Y Seintiau Newydd (2il) v Hwlffordd (3ydd) | Dydd Sul – 14:30 

Wedi pum buddugoliaeth yn olynol yn y gynghrair mae’r Seintiau Newydd wedi dringo i’r 2il safle ac mae’r pencampwyr bellach yn dynn ar sodlau’r ceffylau blaen. 

Y Seintiau yw prif sgorwyr y gynghrair eleni gyda cewri Croesoswallt yn sgorio tair gôl ym mhob gêm ar gyfartaledd. 

Mae Hwlffordd wedi mynd ar rediad o wyth gêm gynghrair heb golli am y tro cyntaf ers i’r fformat 12-tîm gael ei gyflwyno yn 2010. 

Hwlffordd sydd â’r record amddiffynnol orau’n y gynghrair hyd yma ar ôl cadw naw llechen lân mewn 15 gêm ac ildio dim ond chwe gôl. 

Ond mae’r Seintiau wedi ennill eu saith gornest ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd ac yn anelu i agor bwlch rhyngddyn nhw a’r Adar Gleision. 

Byddai buddugoliaeth i’r naill dîm neu’r llall yn eu codi uwchben 31 o bwyntiau, sef y swm arferol sydd ei angen i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅ 

Hwlffordd: ͏➖✅➖✅ 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?